Gan fod newid hinsawdd yn fygythiad i iechyd ledled y byd, onid yw'n amser i ni ystyried yr effeithiau iechyd negyddol a ddaw yn sgil y gofal a ddarparwn i'n cleifion; amser i ail feddwl am ein llwybrau, prosesau a theithiau er mwyn creu GIG cynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol.

Welsh Environmental Anaesthesia Network

“Y newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad iechyd byd-eang mwyaf yn yr 21ain ganrif”, The Lancet 2009.

Mae Cymdeithas yr Anaesthetegyddion yn annog ei haelodau i ystyried effaith amgylcheddol eu practis clinigol. Daw 5% o holl allyriadau cyfatebol i garbon deuocsid (CO2e) ymddiriedolaethau aciwt GIG o nwyon anaesthetig (anaestheteg mewnadadliadol), gyda thua 80% o hynny yn dod o Desflurane1. Mae nwyon anaesthetig yn cael eu hechdynnu o amgylchedd y theatr ond yn cael ei anfon i'r awyr tu allan, yn ddi-reolaeth, drwy fentiau yn y toeau. Mae Desflurane yn nwy anaesthetig a ddefnyddir ar gleifion sy'n cael llawdriniaeth lawfeddygol gan achosi effaith newid hinsawdd sydd dros 2,540 yn waeth na charbon deuocsid.

Gall Anaesthetegyddion ddefnyddio llawer o nwyon anaesthetig a gallwn osgoi defnyddio nwyon drwy ddefnyddio Anaestheteg Cwbl Fewnwythiennol (TIVA). Mae ôl troed TIVA yn sylweddol yn llai na nwyon.2

Ym mis Medi 2018 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cychwynnwyd ar Brosiect Drawdown, er mwyn ymgysylltu ac addysgu staff anaesthetig am effaith amgylcheddol y nwyon anaestheteg a ddefnyddiwn a gweld a oes modd, drwy addysg yn unig, greu newid mewn arferion a lleihau effaith ein gofal clinigol. Gyda'r ymgysylltu hwn yn unig gwelsom ostyngiad o 50% yn ein CO2e o'r nwyon anaesthetig a ddefnyddir yn ein theatrau.

Ar draws 7 ysbyty

Cyfraniad Cyflymu

Gyda chymorth Accelerate aethom ati, ym Mehefin 2019, i drefnu cynhadledd Anaestheteg Gynaliadwy Arloesol ac yno clywsom gan nifer o siaradwyr diddorol gan ddysgu am Gynaliadwyaeth mewn Gwella Safon (SusQI)3. Mae cyfaill o'r Alban, Dr Ken Baker, wedi arwain y ffordd o ran gweld y manteision amgylcheddol ac economaidd o leihau'r defnydd o anaestheteg mewnadadliadol. Yn sgil y gynhadledd bu modd i ni ddatblygu'r 'Rhwydwaith Anaestheteg Amgylcheddol Cymru' (WEAN).

Mae WEAN yn cydlynu menter llawr gwlad, aml-ganolfan Prosiect Drawdown gyda'r nod o leihau 80% o allyriadau CO2e o nwyon anaesthetig ledled Cymru erbyn 2021. Hyd yn hyn, mae 11/18 ysbyty aciwt wedi cael gwared â'u Anweddyddion Desflurane o'u peirannau anaesthetig.  Gellir gwneud cais amdanynt o hyd ond dylai anaesthetegyddion feddwl ddwywaith cyn gwneud!

Mae data o ddim ond 7/8 ysbyty aciwt hyd yn hyn wedi cyfrannu at arbedion syfrdanol o 1.59K dunnell o CO2e. Mae hyn yn cyfateb 26,291 o goed ifanc yn tyfu am 10 mlynedd i atafaelu'r swm hwn o garbon deuocsid4.

Dwy flynedd ers cychwyn Prosiect Drawdown ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym wedi llwyddo i leihau ein CO2e dros 85% o nwyon mewnadadliadol (Sevoflurane, Desflurane ac Isoflurane) gan arbed tua £80K/flwyddyn. Rydym wedi gallu gwario hanner yr hyn a arbedwyd gennym ym mlwyddyn gyntaf y prosiect ac mae'r adran anaestheteg wedi gallu prynu 30 pwmp TIVA arbenigol. Gall TIVA felly fod yn brif ddewis o roi anaesthetig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Darganfod mwy am Cyflymu

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner