Rescape logo on an tablet

Pan ddechreuodd y tîm ym musnes technoleg feddygol Rescape Innovation archwilio sut i ddatblygu eu datrysiad rhithwir arloesol i'w ddefnyddio ym maes gofal iechyd, sylweddolwyd yn fuan iawn bod angen partner arnynt i'w helpu i werthuso a deall materion yn ymwneud â defnyddio DR.VR yn ogystal â’i ddefnyddio nawr ac o bosibl yn y dyfodol. At hynny, yng ngoleuni pandemig Covid-19, daeth yn hanfodol mynd i'r afael â phrotocolau rheoli heintiau a dadlygru llym.

Wrth chwilio am bartneriaid cawsant eu harwain at y rhaglen Cyflymu a ariennir gan Ewrop ac, yn benodol, at ATiC (Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol) i'w helpu i werthuso dyluniad DR.VR yn drylwyr, a’i ddatblygu. Ochr yn ochr â hyn, bydd Athro Microbioleg Fferyllol Prifysgol Caerdydd, Jean-Yves Maillard, yn rhoi cyngor ar effeithiolrwydd y canllawiau dadlygru presennol a sut y gellir gwella'r rhain. 

Yr hyn y mae'r timau'n ei gyfrannu

Mae Rescape Innovation yn fusnes newydd bach yng Nghaerdydd gyda thîm creadigol o ddatblygwyr. Gwelodd y cwmni fod potensial ar gyfer defnyddio realiti rhithwir ym maes gofal iechyd er mwyn rheoli poen, gorbryder a straen yn well mewn sawl lleoliad gwahanol. Arweiniodd hynny at ddatblygu DR.VR, sy'n cael ei ddefnyddio mewn meysydd fel gofal dementia, pediatreg, gofal lliniarol yn ogystal ag i reoli straen ar gyfer gweithwyr gofal iechyd.

Hefyd gyda thîm o ddylunwyr cynnyrch ac artistiaid creadigol, mae ATiC yn defnyddio dulliau dylunio-ymchwilio i ganfod lle mae bylchau neu gyfleoedd posibl i ddatblygu cynnyrch, gwasanaeth neu system. Mae tîm ATiC, dan arweiniad Dr Sean Jenkins, yn canolbwyntio ar sut mae pobl yn defnyddio DR.VR yn ogystal â'r manteision a'r canlyniadau i ddefnyddwyr ac yna mae'n rhoi adborth o'r ymchwil hwnnw i Rescape i gynorthwyo gyda gweithgareddau ymchwil a datblygu parhaus.

Mae'r asesiadau annibynnol y mae ATiC yn eu cynnal yn galluogi Rescape i ystyried mân newidiadau posibl i gydrannau unigol ar gyfer rhyddhau cynnyrch yn y dyfodol agos yn ogystal â newidiadau mwy sylweddol i'r system i’w datblygu yn y dyfodol. Trwy wneud hyn, gall Rescape gyflawni'r amcan masnachol brys o ddod â chynnyrch effeithiol a diogel i'r farchnad yn gyflym. Efallai mai'r ffordd orau o drefnu’r dulliau gwahanol hyn yw trwy broses ddatblygu ddeuol o ddatrysiadau cywair-isel a chywair-bur. Datrysiad cywair-isel fyddai un sy'n ymateb i gyfyngiadau presennol y pandemig ac yn mynd i'r afael â gofynion defnyddwyr yn gyflym gyda chostau isel, er enghraifft gyda rhai cyfarwyddiadau printiedig yn y blwch i helpu defnyddwyr i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud cyn defnyddio'r offer gyda chlaf. Byddai datrysiad cywair-bur yn cyflwyno nodweddion newydd gan ddylunio cynnyrch newydd, e.e. newidiadau meddalwedd i ychwanegu mwy o gyfarwyddiadau, ffyrdd o fesur pa mor aml y mae'r cynnyrch wedi'i lanhau ac o bosibl yn newid neu’n uwchraddio rhai cydrannau.

Meddai Matt Worldey:

"Dyddiau cynnar yw hi yn y broses fabwysiadu sy'n golygu bod ein gallu i fuddsoddi mewn gwaith dylunio yn gyfyngedig ar hyn o bryd, felly mae gallu nodi'r datrysiadau cywair-isel hynny y gallwn eu cyflwyno'n gyflymach wrth fynd drwy’r broses ddylunio yn hanfodol i lwyddiant,"


Profi diogelwch a defnyddioldeb

Mae gan DR.VR nifer o wahanol bwyntiau cyffwrdd: 1) y clustffonau sy'n dod i gysylltiad â'r wyneb a'r pen ac sy'n cael eu cyffwrdd gan gleifion a gofalwyr; 2) y tabled; 3) offer ategol. Gyda diogelwch Covid-19 ar flaen meddwl pob un ohonom, mae ATiC wedi asesu pob un o'r elfennau hyn i benderfynu sut y cânt eu cyffwrdd, sut y cânt eu glanhau a risgiau halogi posibl eraill, e.e. ble y gallai defnyddwyr roi'r cynnyrch i lawr, sut mae'r DR.VR yn cael ei gario a sut y caiff ei rannu rhwng cleifion.

Er mwyn canfod y risgiau gwahanol hyn, aeth ATiC ati i gyfweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a thrafod sut yr oeddent yn defnyddio'r offer. Sefydlodd tîm ATiC senarios o fewn labordy'r sefydliad yn cynnwys gwelyau ysbyty, cadeiriau, byrddau ac yn y blaen a, thrwy fideo-gynadledda, siaradodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am y ffordd y byddent yn defnyddio'r cynnyrch, y gweithdrefnau glanhau a'r gweithgareddau dyddiol a allai effeithio ar ddefnyddio’r DR.VR.

Yna caiff y canfyddiadau hyn eu bwydo'n ôl i Rescape i wneud mân newidiadau posibl i’r offer, i gyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio a dulliau hyfforddi posibl. Y cam nesaf fydd gwerthuso'r newidiadau hynny gyda grŵp bach o ddefnyddwyr newydd a phrofiadol.

Mae ATiC hefyd yn cynnal profion defnyddioldeb ar gyfer agweddau eraill, fel heriau trydanol posibl, yn ogystal ag ymddygiadau unigol wrth ddefnyddio'r cynnyrch: a yw'r defnyddwyr wedi deall y cyfarwyddiadau, os nad ydynt, pa gamgymeriadau y maent yn eu gwneud a pha mor aml y caiff camgymeriad ei wneud, ac os oes problemau’n ymwneud â dehongli'r cyfarwyddiadau, sut y gellid eu haddasu i'w deall yn well.

Cyfuno profiad masnachol ac academaidd

I Rescape, mae gallu ATiC i ddeall anghenion masnachol y cwmni gan werthuso’r dyluniad yn drwyadl  yn sgil ei ymchwil helaeth wedi bod yn un o’r prif elfennau yn llwyddiant y bartneriaeth. Fel y noda Matt, mae perygl o or-ddylunio neu or-gymhlethu pan fydd dylunwyr yn canolbwyntio ar brosiect. Fel ymchwilwyr annibynnol sydd â dealltwriaeth ddofn o amcanion masnachol, gall tîm ATiC gynnig awgrymiadau ar y cylch dylunio cynnyrch heb ohirio'r ddyddiad rhyddhau cychwynnol.

Mae gallu ATiC i gymhwyso'r dull trwyadl hwnnw o ddadansoddi’r dyluniad a deall anghenion masnachol busnes yr un pryd yn hanfodol bwysig i Rescape.

Meddai Matt:

"Mae tîm Sean yn wych am gymryd y cam hwnnw'n ôl a deall yr agweddau masnachol sy'n hanfodol i ddenu refeniw gan sicrhau ein bod yn cynllunio cynnyrch diogel ac effeithiol,"

Am yr Arloeswyr:

Mae Dr Sean Jenkins yn Brif Ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn arwain y gweithgaredd ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) yn Abertawe. Mae ATiC yn rhan o'r rhaglen Cyflymu a ariennir gan Ewrop, sy’n brosiect cydweithredol rhwng tair o brifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae'r rhaglen yn helpu arloeswyr iechyd a gwyddor bywyd yng Nghymru i droi eu syniadau'n ddatrysiadau.

I ddysgu mwy, cysylltwch â Sean a'i gydweithwyr yn atic@uwtsd.ac.uk

Mae Matt Wordley yn Brif Weithredwr yn ogystal â bod yn aelod sylfaenol ac yn sylfaenydd Rescape Innovation. Mae Rescape yng Nghaerdydd yn gweithio i ddatblygu cynhyrchion rhithwir sy'n helpu cleifion i ddelio â phoen, adsefydlu, straen a phryder drwy dynnu sylw'r ymennydd.

I ddysgu mwy, cysylltwch â Matt a'i gydweithwyr yn info@rescape.me