Un o bartneriaid y rhaglen Cyflymu yw ATiC, sy’n rhan o dîm cydweithredol sy’n helpu i ddeall buddion gorchuddion wyneb clir er mwyn atal rhwystrau cyfathrebu rhwng staff gofal iechyd a chleifion.
Mae defnyddio gorchuddion wyneb oherwydd pandemig y COVID-19 wedi effeithio ar gleifion sy’n fyddar neu sydd â nam ar y clyw oherwydd bod gorchuddion yn cuddio wyneb y gweithwyr gofal iechyd ac yn atal y defnydd o arwyddion gweledol fel mynegiant yr wyneb a darllen gwefusau. Yn ychwanegol, gall amgylcheddau mewn ysbyty fod yn swnllyd ar rai adegau a gall staff hefyd ei chael yn anodd cyfathrebu.
Mae gorchuddion wyneb clir yn cael eu cynllunio i gefnogi cyfathrebu gyda chleifion sydd â nam ar y clyw ac maen nhw hefyd yn fuddiol i’r rhai hynny ag anableddau dysgu neu ar gyfer y rhai hynny sy’n byw gyda dementia. Tra ei fod yn cael ei gydnabod bod mynegiant yr wyneb yn chwarae rhan allweddol mewn cyfathrebu effeithiol a bod masgiau anrhyloyw yn ymyrryd â hyn, nid yw effeithiolrwydd gwahanol ddyluniadau o fasgiau clir yn ystod cyfathrebu llafar a dieiriau wedi cael ei brofi.
Mae ATiC wedi gweithio gyda Tyddyn Môn ac adran Awdioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddeall, profi a gwerthuso profiad y defnyddiwr drwy ddadansoddi ymatebion anatomegol ac emosiynol nifer o ddefnyddwyr cynrychioliadol sy’n gwisgo detholiad eang o orchuddion wyneb.
Mae’r prosiect wedi cael ei arwain gan Dr Sarah Bent, Prif Wyddonydd Clinigol mewn Awdioleg (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) sydd wedi bod wrth ei bodd o fod ynghlwm â gwahanol dimau drwy Gymru i gefnogi’r prosiect.
Dywedodd Dr Sarah Bent:
“Yn syth ar ddechrau’r pandemig, roeddem yn gwybod y byddai gorchuddion wyneb yn creu rhwystr cyfathrebu sylweddol yn ein clinigau Awdioleg ac yn gyffredinol i’r holl bobl sy’n drwm eu clyw ac yn f/fyddar. Roedd yn ffantastig derbyn gwobr gan Awyr Las a chefnogaeth gan yr holl dîm prosiect i allu profi a deall y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer gorchuddion clir. Ers hynny, mae un o’r masgiau a dreialwyd wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer ei ddefnyddio mewn iechyd a gofal cymdeithasol drwy’r DU."
“Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau’r prosiect, a gobeithiaf y bydd hyn yn helpu pob math o wasanaethau wrth iddyn nhw ystyried pa fath o fasg neu orchudd wyneb i’w ddefnyddio, yn ogystal â darparu gwybodaeth ynglŷn â datblygu mwy o ddewisiadau ar ein cyfer ni yng Nghymru a’r DU.”
Dywedodd Yolanda Rendón-Guerrero, Cymrawd Arloesi ATiC, sydd wedi bod yn arwain y gwaith dylunio a chwblhau’r gwaith profi o bell ar ddefnyddwyr:
“Mae cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi caniatáu i Dîm ATiC gael y cyfle i ddangos pa mor bwysig yw cynnwys systemau wedi’u canoli ar y defnyddiwr mewn prosesau dylunio. Mae gan y synergedd hwn y grym i wella ein perthynas â chynnyrch yr ydym ni yn eu defnyddio bob dydd, gan ddylanwadu ar iechyd a llesiant unigolion yn y gymuned. Mae llawer o waith i’w wneud eto yn y maes hwn ac rydym yn hyderus y bydd ein canfyddiadau ymchwil yn darparu sylfaen dda ar gyfer gwaith arall yn y dyfodol.”
Dywedodd Dr Sean Jenkins, Prif Gymrawd Arloesedd ATiC:
“Mae’r prosiect hwn yn arbennig o bwysig wrth inni ystyried yr heriau sy’n wynebu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n gofalu a chyfathrebu gyda chleifion o dan amgylchiadau mor anodd. Mae gwerth mawr i unrhyw beth a ellir ei wneud i gefnogi staff y GIG i leihau gofid a gwella profiad y claf, ac mae tîm ATiC wedi bod yn gyffrous wrth weithredu rhai o’n technolegau ymchwil sy’n ganolog ar y defnyddiwr er mwyn cefnogi’r prosiect hwn.”
Eglurodd Michelle Freeman, Prif Swyddog Gweithredol Tyddyn Môn:
“Mae cyflwyno PPE ar gyfer ein timau staff sy’n gweithio â’r rhai hynny sy’n byw â chymorth, yn arbennig gwisgo gorchuddion anrhyloyw ar sifft, wedi arwain at rwystrau i gyfathrebu ar gyfer yr oedolion gydag anableddau dysgu yr ydym ni’n eu cefnogi sydd angen gweld mynegiant yr wyneb a’r rhai hynny gyda nam ar eu clyw. Ar ddechrau’r pandemig, roeddem ni’n chwilio am fasg clir, gyda’r ardystiad diogelwch priodol arno ar gyfer ein staff, a buan iawn y gwnaethom ni sylweddoli nad oedd unrhyw beth i’w gael ar y farchnad yn y DU.”
“Drwy gystadleuaeth Hac Iechyd, bu’n bleser bod yn rhan o dîm prosiect y Masg Clir. Mae ein staff cefnogi ar y rheng flaen yn Nhyddyn Môn wedi cyfrannu at dreialon y masg, gan werthuso defnyddioldeb y gwahanol fasgiau clir o’r DU a’r UDA a thrwy ddilyn y prosiect, mae gwell dealltwriaeth ynglŷn â’r anghenion am ddyluniadau masgiau clir yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at yr adeg pan fydd amrediad o fasgiau clir ardystiedig ar gael yn y dyfodol ar gyfer yr holl leoliadau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ATiC a phrosiectau eraill, ynghyd â sut i weithio gyda ni, ewch i
atic@uwtsd.ac.uk | 01792 481232