Mae Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu adnodd cymorth cyfathrebu ar gyfer staff iechyd ar y rheng flaen sy'n gorfod gwisgo masgiau wyneb yn ystod y pandemig.

A photo of the innovative masks

Roedd y Ganolfan yn rhan o'r tîm yng Nghymru a oedd yn gyfrifol am MaskComms, microffon sy'n ddigon bach i'w roi y tu mewn i fasg wyneb a throsglwyddo llais yn ddi-wifr i uchelseinydd y gellir ei wisgo.

Mae'r prosiect newydd ennill grant gwerth £8,000 yn nigwyddiad uchel ei fri Hac Iechyd Cymru eleni, sy'n ceisio ysgogi mentrau arloesol ac annog GIG Cymru, diwydiant a'r byd academaidd i gydweithio.

Mae MaskComms yn ymateb i un o'r heriau niferus sy'n deillio o argyfwng Covid-19, ar ôl i'r GIG nodi bod y defnydd ehangach o fasgiau wyneb mewn ysbytai wedi lleihau'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol.

Dr Simon Burnell, anesthetydd ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n arwain y prosiect mewn cydweithrediad â'r peiriannydd dylunio Wyn Griffith, o Wyn Griffith Designs, y dylunydd cynnyrch Thomas Turner, o Ember Technology Design, a Dr Arif Reza Anwary, technolegydd arloesi yng Nghanolfan Technoleg Gofal Iechyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae MaskComms, sydd ar fin cael ei gynhyrchu yng Ngogledd Cymru, yn cynnig cyfrwng addasadwy fel y gall grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyfathrebu'n hawdd wrth wisgo masgiau mewn ysbyty, megis mewn theatr yn ystod llawdriniaeth.

Meddai Dr Burnell:

“Mae'n hanfodol cyfathrebu yn ystod triniaethau pan fo timau o anesthetyddion a llawfeddygon yn gweithio'n agos, ond mae iechyd a diogelwch yn hollbwysig hefyd, felly ni allant dynnu masgiau FFP3 er mwyn siarad â'i gilydd."

“Un o anfanteision gwisgo masgiau wyneb yw gwneud ein lleisiau'n ddistaw ac yn aneglur, ac nid oes modd i ni ddehongli awgrymiadau wynebol. Cynigiais ateb sy'n caniatáu i ddyfais gael ei rhoi mewn unrhyw fasg, a all gyfathrebu â phob cydweithiwr, neu ag un siaradwr cyffredin, heb amharu ar y cyfarpar diogelu personol.”

Enillodd y prosiect hwn y brif wobr yn y digwyddiad a gyflwynwyd gan M-SPARC drwy gymorth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, MediWales, Comisiwn Bevan, Prifysgol Bangor, Awyr Las, Santander a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaldr. Yn ystod digwyddiad eleni, a gynhaliwyd ar-lein am y tro cyntaf, crybwyllodd gweithwyr iechyd a gofal broblemau a oedd yn gysylltiedig â Covid-19 wrth gynulleidfa o arbenigwyr technolegol, dylunwyr cynnyrch, busnesau, gwneuthurwyr, arbenigwyr diwydiant, academyddion a chydweithwyr o'r GIG.

Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn rhan o'r rhaglen gydweithredol Cyflymu. Ariennir y rhaglen Cyflymu ar y cyd drwy £24 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn ysgogi ymchwil o'r radd flaenaf ac yn troi syniadau arloesol yn gynhyrchion ac yn wasanaethau newydd i wella iechyd a lles y bobl sy'n byw yng Nghymru.

Mae'r rhaglen Cyflymu  wedi ymrwymo i ddilyn canllawiau swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru / Lloegr Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a bydd yn parhau i gadw at y cyngor diweddaraf.

Mae Cyflymu yn cael ei gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.