Heintiau llwybr wrinol yw un o brif achosion sepsis yn y DU, sydd yn ei dro yn un o brif achosion marwolaeth. Gyda'r cynnydd mewn ymwrthedd gwrthfacterol mae angen dewisiadau amgen i wrthfiotigau cyffredin. Mae tîm o Abertawe wedi archwilio un dewis arall, sef therapi phage, gan ddefnyddio bacterioffagau, firysau sy'n heintio bacteria, i drin heintiau.