Mae prosiect ymchwil newydd ar y gweill i archwilio effaith gorchuddion coesau prosthetig ar ansawdd bywyd a llesiant pobl sydd wedi colli coes, ac agweddau’r cyhoedd tuag atynt.
Mae’r prosiect tri mis yn gydweithrediad rhwng y cwmni o Gonwy LIMB-art Ltd, Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a’r Hwb Ymgynghoriaeth Ymchwil a Gwerthuso Seicolegol (PERCH) yng Nghanolfan Seicoleg a Chwnsela y Drindod Dewi Sant.
Mae’n cael ei gefnogi gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy raglen Cyflymu, sef rhaglen gwerth £24 miliwn sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.
Sefydlwyd LIMB-art, sydd wedi’i leoli ym Mylchau, yn 2018 gan y cyn nofiwr ac enillydd medal Paralympaidd, Mark Williams, a’i wraig Rachel. Sefydlwyd y cwmni dylunio a gweithgynhyrchu yn sgil awydd i helpu defnyddwyr prosthetig eraill i hybu eu hyder, bod yn falch o’r hyn sydd ganddynt, a’r un mor bwysig, i gael hwyl yn dangos eu gwaith celf unigryw neu limb-art..
Meddai Mark Williams, Prif Swyddog Gweithredol LIMB-art:
“Wedi’u llunio ar gyfer defnyddwyr prosthesisau uwchben ac o dan y ben-glin, mae gorchuddion coesau LIMB-art yn cyfuno deunydd a gwneuthuriad o’r radd flaenaf gyda dyluniad a thechnoleg arloesol i ddarparu gorchuddion cadarn, fforddiadwy - ac yn fwy na dim – cŵl”
Tra bod llawer o anableddau’n gallu bod yn rhai cudd neu dros dro, mae colli aelod o’r corff yn anabledd dwys sy’n effeithio ar bron pob agwedd ar fywyd rhywun, yn gorfforol ac yn seicolegol.
Mae miloedd o bobl yn y DU yn colli aelod pwysig o’u corff bob blwyddyn am amrywiol resymau; clefyd fasgwlaidd, canser, trawma difrifol ac, yn enwedig yn achos colli coesau, cymhlethdodau yn deillio o ddiabetes.
Tra bod gwasanaethau ysbyty fel ffisiotherapyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn gallu mynd i’r afael â heriau corfforol, megis materion symudedd a chydbwysedd, poen ac anghysur, gall yr heriau seicolegol fod yr un mor ddwys ac eto’n anoddach o bosibl i’w trin.
Meddai Dr Paul Hutchings, Athro Cysylltiol mewn Seicoleg gyda PERCH:
“Mae ymchwil i effeithiau seicolegol colli aelod o’r corff wedi tueddu canolbwyntio ar ba mor gyffredin yw iselder a phryder, gyda llawer o’r ymchwil yn awgrymu bod iselder yn ffactor sylweddol yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl y driniaeth, a chanlyniadau iechyd meddwl yn gwella y tu hwnt i’r amser hwn.
Fodd bynnag, i nifer sylweddol o’r rhai sydd wedi colli aelod o’u corff, mae tystiolaeth y gall gorbryder ynghylch delwedd y corff, sy’n gysylltiedig ag anesmwythder cymdeithasol, effeithio ar eu lefelau gorbryder ac iselder ac ar eu gweithrediad cymdeithasol. Yn fyr, gall pryder ynghylch sut maen nhw’n edrych i eraill a sut maen nhw’n cael eu dirnad amharu ar ryngweithiadau cymdeithasol ac effeithio ar lesiant seicolegol y sawl sydd wedi colli rhan o’u corff.”
Meddai Dr Ceri Phelps, Seicolegydd Iechyd a Chyfarwyddwr Academaidd ym maes Seicoleg a Chwnsela yn y Drindod Dewi Sant:
“Er gwaethaf y datblygiadau yn nyluniad technegol aelodau prosthetig dros y degawd diwethaf, mae’r olwg esthetig yn gallu arwain o hyd at wahaniaeth gweladwy amlwg, a gall hyn esgor ar bryderon cydnabyddedig o ran gorbryder cymdeithasol, stigma a materion hunan-barch posibl.
Mae’n fater o ddiddordeb, felly, i archwilio i ba raddau y gall defnyddio gorchuddion coesau prosthetig, sydd wedi’u dylunio’n artistig ac a gynlluniwyd i ddenu yn hytrach na dargyfeirio sylw, naill ai gynyddu neu leihau’r ôl-effeithiau seicolegol hyn.”
Bydd y prosiect yn ceisio archwilio agweddau’r sawl sydd wedi colli aelod o’u corff, ac agweddau’r cyhoedd, at y defnydd o orchudd coes brosthetig a ddyluniwyd yn bwrpasol ac yn artistig, a’r manteision seicogymdeithasol a’r niweidiau posibl o wisgo’r cynnyrch.
Mae’r astudiaeth yn archwiliadol ei natur yn sgil y newidynnau personol, sefyllfaol a chyd-destunol hynod gymhleth y mae angen eu hystyried, a bydd yn rhoi mewnwelediad pwysig i botensial cynnyrch o’r fath i wella ansawdd bywyd a lleihau stigma i’r rhai sydd wedi colli aelod o’u corff.
Meddai Dr Sean Jenkins, Athro Cysylltiol, Prif Gymrawd Ymchwil ATiC:
“Rydym yn falch iawn i weithio gyda LIMB-art ar y prosiect cyffrous hwn, sy’n dod â menter a’r byd academaidd at ei gilydd drwy raglen Accelerate Cymru ac sy’n manteisio ar arbenigedd cyfleusterau o’r radd flaenaf mewn dwy o ganolfannau ymchwil y Drindod Dewi Sant.
“Bydd ATiC yn darparu cyfleusterau tracio llygaid ar sgrin a’i chyfleusterau adnabod a dadansoddi mynegiant wyneb, ynghyd â galluoedd cipio a thrin delweddau/fideo. Bydd yn gweithio ar y cyd ar y dyluniad arbrofol gyda’n cydweithwyr yn PERCH sy’n cynnig arbenigedd helaeth mewn seicoleg ac agweddau seicogymdeithasol yr astudiaeth.”
Ychwanegodd Mark Williams:
“Ar ôl y profiad annifyr o gael pobl yn syllu ar fy nghoes a pha mor ansicr y gwnaeth i mi deimlo, rwy’n edych ymlaen at weithio gyda’r Drindod Dewi Sant ar y prosiect hwn i ddarganfod sut y bydd y canlyniadau ymchwil yn helpu’r cwmni i ddatblygu ac arloesi – ac yn bwysicach i gael dealltwriaeth go iawn o’r gwahaniaeth mae ein gorchuddion yn ei wneud i’n cwsmeriaid.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://limb-art.com/.