Mae'r ddyfais Plasma NeoGen™ yn opsiwn triniaeth cyflym, heb boen ac heb gyffuriau ar gyfer cleifion sy'n byw gydag acne cronig.
Grŵp Meddygol Energist, sydd wedi’i leoli ym Mharc Menter Abertawe, yw sylfaenydd a phrif ddarparwr byd-eang technoleg plasma nitrogen i’r diwydiant estheteg meddygol. Mae dyfeisiau plasma NeoGen™ y cwmni yn anymwthiol, wedi’u profi’n glinigol ac wedi’u clirio ar gyfer trin cyflyrau cosmetig a dermatolegol sy’n arafu’r broses o heneiddio, gan gynnwys creithiau acne, ceratosis actinig, rhytidau wyneb, rhytidau nad ydynt ar yr wyneb, briwiau croen arwynebol, ceratosis seborhëig a papilomata feirol.
Dywedodd Simon Jones, Prif Weithredwr Energist:
"Mae system Plasma NeoGen™ yn ddyfais sy'n seiliedig ar ynni a ddefnyddir gan ymarferwyr meddygol ac esthetig i drin cyflyrau'r croen. Enghraifft nodweddiadol fyddai creithio o ganlyniad i acne, gallwn drin y creithio hwnnw a bydd yn annog y feinwe sydd wedi’i niweidio i drwsio, a bydd y gwaith adfer hwnnw wedyn yn creu celloedd newydd. Mae fy mhrofiad personol i o’r rhaglen Cyflymu wedi bod yn gwbl anhygoel.”
Cefnogwyd y prosiect hwn gan Cyflymu, rhaglen sydd bellach wedi cau dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.