Mae Copner Biotech yn fusnes biotechnoleg newydd yng Nghymru, y mae ei broses dylunio a gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf yn galluogi i sgaffaldau meithrin celloedd 3D gael eu cynhyrchu ar sail lluniadau siâp consentrig, fel cylchoedd. Mae hyn yn darparu amrywioldeb cyson o ran maint mandyllau (maint a dosbarthiad mandyllau heterogenig) sy’n deillio o’r canol i ymylon sgaffald.

Gofynnodd Copner Biotech am ‘labordy gwlyb’ a chymorth academaidd ar ffurf profion sterileiddio a gwenwyndra cellog. Cyn y cydweithio hwn â’r rhaglen Cyflymu, gallai’r cwmni gynhyrchu sgaffaldau ond nid oedd ganddo’r gallu i gynnal y profion gofynnol.

Fe wnaeth y cydweithredu arwain at gynhyrchu set ddata in vitro a oedd yn gysylltiedig â dewis dull sterileiddio priodol a phroffil gwenwyndra’r sgaffaldau.


Dywedodd Jordan Copner, Prif Weithredwr Copner Biotech:

“Mae’r cymorth gan Cyflymu wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig i gwmni a ddechreuodd yn ystod pandemig byd-eang.

Yn amlwg, roedd yr arian yn hynod gyfyngedig felly mae cael partner sydd â’r fath arbenigedd, yn enwedig ym maes meithrin celloedd, wedi bod yn anhygoel.

Mae rhaglen Cyflymu wedi ein helpu i ddilysu ein sgaffaldau mewn lleoliad biolegol. Maent wedi cynnal sawl arbrawf celloedd gan gynnwys microsgopeg electron sganio a biobrofion cellog. Mae’r ddau gyda’i gilydd yn rhoi toreth o ddata i Copner Biotech er mwyn symud ymlaen ar gyfer masnacheiddio.”

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Cyflymu, rhaglen sydd bellach wedi cau dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.