Mae Rothotherm Group, sy’n dod o Gymru, yn gwmni sy’n dyddio’n ôl i’r 1880au ac yn arbenigo mewn cynhyrchu offerynnau mesur diwydiannol. Yn ystod pandemig Covid-19, penderfynodd y cwmni hefyd gynhyrchu masgiau meddygol a gorchuddion wyneb amddiffynnol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal o dan frand RotoMedical.
Wrth i Rototherm Group ehangu i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol, manteisiwyd ar bron i ddwy ganrif o arbenigedd a threftadaeth gweithgynhyrchu i greu gorchuddion wyneb a masgiau wyneb yr oedd gwir eu hangen ar weithwyr gofal iechyd rheng flaen y wlad. Y canlyniad oedd cael dros 1 miliwn o fisorau a 10 miliwn o fasgiau wyneb yn cael eu creu bob mis a chwmni â’i bencadlys yng Nghymru, gyda gweithrediadau pellach ledled y byd, sydd bellach â’i golygon ar y farchnad gwyddorau bywyd fyd-eang.
Dywedodd Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm Group:
“Rydyn ni’n falch o fod yn fusnes bach a chanolig yng Nghymru, a’r nod yw parhau i sicrhau partneriaethau â chwmnïau eraill yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Gyda chymorth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni wedi gallu sefydlu cysylltiadau ar draws diwydiant Cymru, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein presenoldeb byd-eang ymhellach. Rydyn ni wedi buddsoddi popeth sydd gennym yn yr economi leol ac yn y busnes, a fydd yn parhau wrth i ni ehangu’n rhyngwladol.”
Wrth sôn am lwyddiannau Rototherm o ran cynhyrchu cyfarpar diogelu personol a dod yn wneuthurwr gogls diogelwch cyntaf y DU, dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae gwaith Rototherm yn enghraifft arall o’r arloesedd, y gwaith caled a’r awydd anhygoel i helpu rydym wedi’u gweld gan ddiwydiant yng Nghymru. Mae eu hymrwymiad i ehangu eu sylfaen weithgynhyrchu yng Nghymru i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol mewn ymateb i'r pandemig yn dyst i arloesedd a galluoedd trawiadol y cwmni."