Ar ôl cyfrannu at ymdrechion y llywodraeth i ymladd Covid-19, mae cwmni o Bort Talbot sy’n arbenigo mewn cynhyrchu a dosbarthu offeryniaeth fanwl yn fyd-eang wedi mynd ati i gynhyrchu sbectolau diogelwch, a nhw yw’r cwmni cyntaf ym Mhrydain i wneud hynny.  

2 people in PPE holding product

Wrth i Grŵp British Rototherm ehangu’u busnes i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol, gwelwyd bron i ddwy ganrif o arbenigedd a threftadaeth cynhyrchu’n cael ei ddefnyddio i greu masgiau ac amddiffynwyr wyneb oedd eu hangen yn ddirfawr ar ein gweithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen.  

O ganlyniad, mae dros filiwn o feisorau a 10 miliwn o fasgiau wyneb yn cael eu cynhyrchu gan y cwmni sydd â’i bencadlys yng Nghymru, gyda rhagor o weithrediadau’n fyd-eang, ac mae’r cwmni bellach yn bwriadu treiddio i’r farchnad gwyddorau bywyd fyd-eang.   

Yn ystod y 175 mlynedd ddiwethaf, mae Grŵp British Rototherm wedi datblygu i fod yn arweinydd byd-eang o ran darparu mesuryddion tymheredd, pwysedd, lefel a llif, gan weithio gyda’r diwydiannau amddiffyn, diod, olew a nwy, ymysg eraill. Mae’r sefydliad yn allforio i dros 90 o wledydd, ac mae eu hallforion wedi dyblu yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf.  

Mae cynnyrch y cwmni, yn enwedig y mesuryddion diwydiannol, trosglwyddyddion lefel uwchsonig, mewnchwilyddion tymheredd a chyfarpar mesur pwysedd, yn cael eu defnyddio ym mhob diwydiant lle bynnag fo angen cyfarpar dibynadwy a hirsefydlog, gan gynnwys y diwydiant gwyddorau bywyd.  

Dechreuodd y gwaith o sefydlu’r is-adran RotoMedical, ac arallgyfeirio i faes cyfarpar diogelu personol, ar ôl cydweithio â’r llywodraeth i ddatblygu amddiffynwyr wyneb roedd mawr eu hangen ar gyfer y gwasanaeth iechyd.   

Ers i’r pandemig gyrraedd gwledydd Prydain, mae’r cwmni cynhyrchu o Bort Talbot wedi datblygu ei gapasiti i gynhyrchu feisorau wyneb plastig o 1,000 uned y dydd i 250,000 uned yr wythnos. Mae’r llwyddiant cyflym yma wedi galluogi’r cwmni i ehangu i’r sector gwyddorau bywyd wrth i Rototherm ddechrau cynhyrchu masgiau wyneb Math IIR ag ardystiad BSI, sydd o safon lawfeddygol, i’w defnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol. 

Drwy bartneriaeth â chwmni diogelwch Bollé, sydd â’i bencadlys Ewropeaidd yn Lyon, sicrhawyd mai RotoMedical yw’r unig weithgynhyrchwr cyfarpar diogelu llygaid personol ar gyfer y diwydiant gofal iechyd y mae Bollé Safety yn ei ddefnyddio ym Mhrydain. 

Wrth i RotoMedical ddod yn un o gwmnïau cynhyrchu cyfarpar diogelu personol ac offer meddygol mwyaf blaenllaw Cymru, mae gan y cwmni uchelgais i ddyblu maint ei weithlu wrth iddo wneud cais am gyfres o gontractau gan lywodraethau Prydain ac yn Ewrop, yn ogystal â chefnogi Bollé i ddosbarthu ei sbectolau diogelwch drwy ei sianeli yn Ewrop. Erbyn hyn, mae ganddo’r capasiti i gynhyrchu dros dair miliwn o sbectolau diogelwch bob mis.   

Meddai Tarkan Conger, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Grŵp Rototherm:

“Ein huchelgais erioed yw parhau i ddatblygu ac ehangu ar ein busnes, ac i greu rhagor o swyddi ar gyfer yr economi leol. Bydd y bartneriaeth gyda Bollé yn ein galluogi ni i adeiladu ar ein harbenigedd a’n harloesedd diwydiannol wrth i ni wreiddio ein hunain yn y sector gwyddorau bywyd, gan ehangu i farchnadoedd a galluoedd cynhyrchu newydd.” 

Fel rhan o’u hymrwymiad i arloesedd a phartneriaethau yng Nghymru, bydd amddiffynwyr wyneb a sbectolau diogelwch Bollé yn defnyddio deunyddiau crai lleol. Yn ogystal â gwerthu i’r farchnad ym Mhrydain, lle mae dros 90% o’r cyfarpar diogelu personol yn cael ei werthu ar hyn o bryd, bydd yn cael ei allforio i nifer o farchnadoedd allweddol eraill yn fyd-eang. 

Bydd y cwmni’n parhau i gynhyrchu offeryniaeth yn ogystal â chyfarpar diogelu personol, ac mae’n bwriadu ehangu ar hynny ymhellach yn y farchnad fyd-eang ar ôl ffurfio partneriaeth yn ddiweddar gyda chwmni blaenllaw arall yn y diwydiant offeryniaeth, sef Emerson. 

Meddai Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Rototherm:

“Rydyn ni’n falch o fod yn fusnes cymharol fach o Gymru, a’r bwriad yw parhau i sicrhau partneriaethau gyda chwmnïau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi sefydlu cysylltiadau rhwng y diwydiannau yng Nghymru, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu rhagor o bartneriaethau gyda busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr byd-eang fel ei gilydd. Rydyn ni wedi buddsoddi’r cyfan sydd ganddon ni yn yr economi leol ac yn y busnes, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni ehangu’n rhyngwladol.” 

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wrth wneud sylw ar lwyddiannau Rototherm yn cynhyrchu cyfarpar diogelu personol ac ar fod y cwmni cyntaf ym Mhrydain i gynhyrchu sbectolau diogelwch:

"Mae gwaith British Rototherm yn enghraifft arall o'r arloesedd, y gwaith caled a'r dyhead i helpu rydyn ni wedi'i weld gan y diwydiant yng Nghymru. Mae eu hymrwymiad i ehangu ar eu canolfan yng Nghymru i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol gofal iechyd mewn ymateb i’r pandemig yn dyst i arloesedd a gallu trawiadol y cwmni.” 

Ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi’r alwad i weithredu y llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda thros 300 o fusnesau Cymru i gynhyrchu cyflenwadau pwysig mewn ymateb i’r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu cyfarpar diogelu personol, hylif diheintio dwylo a pheiriannau anadlu yma yng Nghymru. 

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n galed i gludo cyflenwadau ac offer angenrheidiol yn ddiogel o dramor, ac wedi darparu cymorth hanfodol i gwmnïau drwy Gronfa Cymorth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi COVID-19 SMART Cymru. 

Dywedwch wrthym am eich arloesedd

Os oes gennych brosiect neu syniad arloesol ac yn awyddus i godi eich rhaglen waith, dywedwch fwy wrthym amdano drwy ein Ffurflen Ymholiadau Arloesedd.