Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae cwtsh da yn gwneud byd o ddaioni. Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad ysbrydoledig yn y Senedd ar y cysurwr therapiwtig HUG by LAUGH. Roedd y digwyddiad yn edrych ar sut mae’r dechnoleg gynorthwyol hon yn trawsnewid llesiant pobl â dementia a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â chefnogi pobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sector gofal cymdeithasol a’r GIG.  

A HUG comforter positioned a chair at the HUG event held in the Senedd

Gall manteisio ar bŵer a photensial technoleg gynorthwyol fel HUG ein helpu ni i drawsnewid gofal er gwell. Ond pwy yw HUG? Mae’n gysurwr meddal gyda breichiau a choesau trwm i wneud iddo deimlo fel cwtsh go iawn. Mae ganddo hefyd guriad calon ffug a chwaraewr cerddoriaeth sy’n chwarae hoff gerddoriaeth rhywun. Mae’r cyswllt corfforol a’r ysgogiad synhwyraidd hwn yn helpu i roi ymdeimlad o gysur, sicrwydd ac agosatrwydd; gan wella llesiant pobl â dementia a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gefnogi digwyddiad y Senedd, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y digwyddiad yn croesawu pobl o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol, elusennau, y byd academaidd, y llywodraeth ac, yn bwysicaf oll, y rheini y mae HUG wedi gwella eu llesiant yn uniongyrchol. Mae’r blog hwn yn tynnu sylw at rai o’r straeon anhygoel a gafodd eu rhannu, ochr yn ochr â sgyrsiau am yr heriau a'r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg gynorthwyol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Y stori hyd yma 

Clywsom gan yr Athro Cathy Treadway a Dr Jac Fennell, sy'n gyd-sylfaenwyr HUG by LAUGH, am eu taith yn dylunio, yn datblygu ac yn cyflwyno HUG i bobl yn ne Cymru a thu hwnt. Cafodd ei greu i ddechrau fel rhan o brosiect ymchwil LAUGH gan yr Athro Treadaway a ariennir gan AHRC ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a chynhaliwyd ymchwil ddilynol gan Dr Fennell ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr Bryste. 

Roedd y tîm ymchwil rhyngwladol wedi gweithio’n agos gydag unigolion â phrofiad o ddementia a gwnaethant ddefnyddio methodoleg dylunio tosturiol i greu cynnyrch chwareus arloesol sy'n ddigrif, yn gysurus, yn apelgar, ac yn dod â llawenydd i bobl â dementia datblygedig.  

Gan ganolbwyntio ar ba mor bwysig yw ysgogi’r synhwyrau, cafodd y prototeip HUG gwreiddiol ei ddylunio ar gyfer unigolyn â dementia mewn gofal diwedd oes. Roedd yn gaeth i’r gwely ac nid oedd yn gallu cyfathrebu. Ond, ar ôl cyflwyno HUG iddo, gwelodd y tîm welliant enfawr yn ei llesiant cyffredinol a’i allu i gyfathrebu. Roedd HUG yn rhoi ymdeimlad o gysylltiad a chysur iddo. 

Ar ôl gweld ei botensial, roedd y tîm yn meddwl tybed a allai gael yr un effaith bwerus ar bobl eraill. Roedd astudiaeth fwy a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, sef LAUGH EMPOWERED, yn gweld y cynnyrch yn cael ei ddosbarthu mewn cartrefi nyrsio ac ysbytai, gyda chynnydd o 87% mewn llesiant ar ôl chwe mis. 

Mae HUG bellach ar gael drwy HUG by LAUGH, gwmni deillio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae wedi’i ddatblygu o brototeip i gynnyrch gyda chymorth Alzheimer’s Society. Mae bellach ar gael ledled y byd ac mae wedi teithio cyn belled ag Awstralia, Canada a Sgandinafia. 

Rhoi HUG i’r rheini y mae ei angen arnynt 

Cysuro. Tawelu. Mwy cysylltiedig. Dyma rai o’r geiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio sut roedd HUG yn cynnig cefnogaeth drwy gydol y dydd. Roedd dysgu am hyn yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi gweld budd uniongyrchol HUG yn rhan bwerus iawn o’r diwrnod. 

Clywsom gan Chris Maddocks, Ymddiriedolwr Alzheimer’s Society ac Arbenigwr drwy Brofiad, sy’n byw gyda dementia. Rhannodd ei safbwyntiau ar ba mor bwysig yw profiad bywyd wrth siapio newid, ochr yn ochr â’r effaith y mae HUG wedi’i chael arni. Y tro cyntaf iddi ddal HUG yn ei breichiau, roedd y curiad calon araf a’r teimlad o gael ei chofleidio yn gwneud iddi feddwl am atgofion cysurus o’i phlentyndod. Siaradodd am ba mor bwerus oedd y teimlad cadarnhaol hwn iddi ac y dylai HUG fod ar gael ar unrhyw adeg ac nid ar gyfer gofal diwedd oes yn unig. 

Hefyd, rhannodd Suzy Webster, Cydlynydd Profiad Bywyd Dementia UK, ei phrofiad uniongyrchol hi o’r gefnogaeth y gall HUG ei chynnig drwy stori bwerus ei Mam. Roedd yn bwysig iawn iddyn nhw a daeth yn rhan o fywyd bob dydd y teulu – gan roi cysur, llawenydd ac ymdeimlad o bwrpas i’w Mam. 

Roedd panel dan gadeiryddiaeth Matt Lloyd, Rheolwr y Rhaglen Atal a Llesiant ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, yn rhoi cipolwg ar y gwahanol ffyrdd y gall HUG gefnogi pobl. Roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent wedi ariannu’r gwaith o werthuso HUG ledled y rhanbarth mewn amgylcheddau yn cynnwys ysbytai, cartrefi gofal, gwasanaethau byw â chymorth ac mewn ysgolion. 

Rhannodd Sophie Foote, Ymarferydd Gwasanaeth Mapio, Addysg a Gofalwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sut roedd HUG yn ymyriad anfferyllol pwerus ar gyfer dementia. Er enghraifft, roedd yn gysur i fenyw â dementia ond roedd hefyd yn seibiant amhrisiadwy i’w gŵr wrth iddyn nhw ymweld â chanolfan ddydd, gan fod HUG wedi rhoi sicrwydd iddi ac wedi gwella ei llesiant cyffredinol pan nad oedd ei gŵr yno. 

Gwnaethom hefyd ddysgu sut gall HUG gefnogi pobl ag anableddau dysgu. Archwiliodd Melanie Vale, Prif Therapydd Galwedigaethol Anableddau Dysgu, a Graham Sellwood, Technegydd Therapi Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sut roedd HUG yn atgyfnerthu teimlad a chysylltiad cadarnhaol yng nghyfleusterau preswyl y GIG – yn enwedig ar ôl pandemig Covid-19 pan oedd llawer o bobl yn teimlo’n unig.  

Siaradodd Lynne Whistance o Pobl am y ffordd mae cyflwyno HUG fel rhan arferol o fywyd bob dydd yn helpu’r defnyddwyr i’w dderbyn yn gyflym. Roedd y bobl a oedd yn elwa ohono’n cynnwys rhywun nad oedd yn gallu cyfathrebu a oedd wedyn yn dechrau siarad â HUG, a rhywun â gorbryder ac iselder a gafodd lawer iawn o hyder gan HUG. 

Dyfodol technoleg gynorthwyol ym maes gofal 

Cafwyd llawer o sgyrsiau a oedd yn procio’r meddwl yn ystod y prynhawn wrth edrych ar dechnoleg gynorthwyol. Thema bwysig oedd yr angen i gadw pethau’n ysgafn a gwneud i bobl deimlo bod ganddyn nhw’r hawl i wneud hyn – boed hynny’n staff, yn ddefnyddwyr gwasanaeth neu’n aelodau o’r teulu. Mae lleihau’r ofn o feirniadaeth drwy greu amgylchedd cynhwysol yn helpu pobl i fanteisio ar botensial technoleg gynorthwyol. 

Roedd gwneud yn siŵr ein bod ni’n ymgorffori dull ataliol wrth ddefnyddio technoleg gynorthwyol hefyd yn cael ei nodi fel blaenoriaeth allweddol. Gall offer fel HUG chwarae rhan gadarnhaol iawn mewn gofal fel y dangosodd sgyrsiau cynharach; os cânt eu cyflwyno’n gynharach ar daith unigolyn, gall helpu i roi hwb i bethau hanfodol fel llesiant yn gynharach. 

Tynnwyd sylw hefyd at gydweithio fel blaenoriaeth bwysig – ac mae HUG yn enghraifft wych o hynny. Gallwn ni gyflawni newid yn haws wrth fanteisio ar brofiad, adnoddau a chryfderau partneriaid o gefndiroedd amrywiol.  

Roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig o drafodaethau a oedd yn rhoi profiad defnyddwyr wrth galon popeth. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i ddilyn taith HUG wrth i dechnoleg gynorthwyol barhau i fod yn rym cadarnhaol ar gyfer newid yng Nghymru a thu hwnt. 

Mae rhagor o wybodaeth am argaeledd HUG a'r ymchwil y tu ôl iddo ar gael yn www.hug.world.

Dysgwch fwy am sut gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gefnogi partneriaid ym maes gofal cymdeithasol

Trefnwyd digwyddiad Power of a HUG gan Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE Bryste), Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Hwb Gwyddorau Bywyd, ac roedd yn cael ei gefnogi gan Wobr Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.