Dwi’n falch o gymryd rhan yng ngwaith y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi’r defnydd diogel, cyfrifol a moesegol o ddeallusrwydd artiffisial (AI) ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae AI yn faes sy’n datblygu’n gyflym – dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am rai o’r datblygiadau diweddaraf yng Nghymru.
Arloesi yng Nghymru
Mae gweithlu’r GIG yn wynebu pwysau sylweddol, yn enwedig ym maes diagnosteg, lle mae cymorth ychwanegol yn hanfodol wrth symud ymlaen. Drwy fy mhrofiad o ddatblygu a gwerthuso modelau amrywiol, dwi wedi gweld yr effaith ddofn mae AI yn gallu ei chael. Dwi’n awyddus i gefnogi mentrau sy’n cyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau wedi’u galluogi gan AI er budd ein timau clinigol, cleifion a’r cyhoedd.
Beth ydy sefyllfa Cymru o ran AI?
Ledled Cymru, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at feithrin amgylchedd cynaliadwy, moesegol ac arloesol:
- Ymchwil Gwyddor Data ac AI: Mae prifysgolion a sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn ymwneud yn helaeth ag ymchwil gwyddor data ac AI. Nod y cydweithrediadau hyn ydy gwneud Cymru yn arweinydd rhyngwladol ym maes AI, gyda phrosiectau sy’n cael effaith amlwg yn y byd go iawn.
- Defnyddio AI mewn ffordd foesegol: Rydyn ni’n rhoi pwyslais cryf ar ddefnyddio AI mewn ffordd foesegol a chyfrifol. Mae’r Comisiwn AI wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth, sicrhau bod technolegau AI yn cael eu gweithredu’n gyfrifol, a blaenoriaethu diogelwch cleifion a’r cyhoedd.
- Buddsoddiad gan y Llywodraeth: Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mewn strategaethau AI a digidol i sbarduno arloesedd. Mae hyn yn cynnwys ariannu prosiectau sy’n archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio AI ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith ledled Cymru.
Datblygiadau diweddar
Mae’r cynnydd hwn wedi sbarduno rhai datblygiadau arloesol ym maes AI ar draws y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Dyma rai o’r datblygiadau diweddar:
Buddsoddi mewn dogfennau clinigol wedi’u pweru gan AI
Mae Clinithink yn gwmni technoleg AI ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n arbenigo mewn gofal iechyd. Mae ei brif gynnyrch, CLiX®, yn defnyddio Prosesu Iaith Naturiol Clinigol i echdynnu data gwerthfawr o nodiadau cleifion heb strwythur. Mae’n gallu prosesu hyd at ddwy filiwn o ddogfennau clinigol bob awr, gan ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol a fyddai’n cymryd llawer mwy o amser i berson ei chasglu. Mae hyn yn helpu i wella gofal cleifion, i leihau llwyth gwaith clinigwyr, ac fe allai arwain at arbedion sylweddol i’r GIG.
Mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn gefnogwr brwd ers 2012, gan wneud nifer o fuddsoddiadau – gwerth dros £5 miliwn. Mae hyn wedi bod yn hanfodol i helpu Clinithink i dyfu ac ehangu ei bresenoldeb yn y farchnad, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Mae’r dechnoleg bellach yn cael ei defnyddio gan sefydliadau gofal iechyd mawr, gan gynnwys AstraZeneca.
AI yn optimeiddio’r gwaith o reoli prosesau rhyddhau
Mae Frontier, ateb rheoli prosesau rhyddhau Faculty AI, wedi’i ddylunio i optimeiddio prosesau rhyddhau cleifion mewn ysbytai. Mae’r ateb hwn wedi cael ei roi ar waith fel cynllun peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng Nghymru.
Her gyffredin mewn ysbytai ydy pan fydd cleifion sy’n feddygol gymwys i adael yr ysbyty yn aros yn yr ysbyty oherwydd oedi yn y broses ryddhau. Mae Frontier yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy ddefnyddio AI i ddarparu amcangyfrif o ddyddiad rhyddhau ar gyfer cleifion pan fyddant yn cael eu derbyn. Mae hyn yn helpu timau gofal iechyd i gynllunio’n rhagweithiol ar gyfer rhyddhau cleifion, gan leihau oedi a gwella llif cleifion. Mae modd integreiddio'r ateb mewn llif gwaith o ddydd i ddydd, er mwyn i dimau gofal iechyd allu defnyddio’r wybodaeth heb amharu ar eu trefn arferol.
Mae'r cydweithrediad yn tynnu sylw at botensial AI i gefnogi’r gwaith o reoli prosesau rhyddhau mewn sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru a thu hwnt, gan ganiatáu i ysbytai wella gofal cleifion, lleihau amseroedd aros, a gwneud y defnydd gorau posib o adnoddau.
Ymchwil canser arloesol sy’n defnyddio AI
Mae Canolfan Oncoleg Manwl Gywir Rhyngddisgyblaethol Caerdydd (IPOCH) ym Mhrifysgol Caerdydd yn fenter arloesol sy'n integreiddio AI a dulliau data mawr i ddatblygu ymchwil a thriniaeth canser.
Mae IPOCH yn canolbwyntio ar gyfuno dadansoddiad o ddelweddau a data genomig ag AI, i ddatblygu modelau dadansoddi gwell ar gyfer creu cynlluniau triniaeth unigol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio biofarcwyr o ddelweddu, radiomeg a genomeg ofodol i deilwra triniaethau i fioleg unigryw canser pob claf.
Mae’r ganolfan yn mynd i’r afael â nifer o heriau mawr ym maes meddygaeth fanwl, gan gynnwys yn y ffyrdd canlynol:
- Defnyddio AI i ddadansoddi biopsïau cleifion gyda biofarcwyr labelu meinwe newydd i raddio datblygiad canser.
- Creu cynrychioliadau digidol o gleifion i astudio datblygiad clefydau ac ymateb cyffuriau.
- Defnyddio dysgu dwfn i ddadansoddi data MRI ar gyfer nodweddu meinwe canser anymwthiol yr ymennydd.
Trawsnewid gofal strôc drwy AI
Mae Brainomix 360 Stroke yn dechnoleg AI sy’n cael ei defnyddio’n genedlaethol ledled Cymru i drawsnewid gofal strôc.
Mae’r dechnoleg yn defnyddio algorithmau AI i ddarparu dehongliad amser real o sganiau ymennydd. Mae’n cyfuno Sgôr CT Cynnar Rhaglen Strôc Alberta (ASPECTS) sy’n cael ei gynhyrchu’n awtomatig o ddelweddau CT heb gyferbyniad, gyda throshaen map gwres. Mae hyn yn helpu clinigwyr i asesu sganiau a gwneud penderfyniadau clinigol cyflymach.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gomisiynu Brainomix 360 yn genedlaethol. Nod y cynllun cynhwysfawr hwn ydy sicrhau bod cleifion strôc ledled y wlad yn cael gofal prydlon ac effeithiol, dim ots ble maen nhw.
Defnyddio AI i wella diagnosis canser y prostad
Mae Sefydliad TriTech wedi gweithio gyda Jiva.Ai i ddatblygu ateb sy'n seiliedig ar AI i wella diagnosis canser y prostad gan ddefnyddio delweddu MRI. Nod eu system, sydd wedi’i hyfforddi ar filoedd o sganiau MRI, ydy mynd i'r afael â'r goddrychedd mewn dulliau diagnostig cyfredol. Hyd yma, mae’r model AI wedi sicrhau sensitifrwydd o 77%, penodolrwydd o 65% a chywirdeb o 69% wrth ganfod canser y prostad mewn sefyllfa go iawn.
Mae’r llwyfan JivaRDX, dyfais feddygol dosbarth IIa sy’n aros am gymeradwyaeth MHRA, yn integreiddio’n ddi-dor i lifoedd gwaith radioleg. Mae’n anodi ffeiliau delweddu yn awtomatig, sy’n gofyn am ychydig iawn o ymyrraeth a hyfforddiant. Mae’r llwyfan hwn wedi cael ei werthuso dros 18 mis ar draws nifer o safleoedd ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan ddangos ei botensial i gefnogi penderfyniadau clinigol yn y dyfodol a lleihau amser diagnosteg.
Edrych tua’r dyfodol
Mae’r enghreifftiau go iawn hyn yn dangos sut mae AI eisoes yn gwella cywirdeb diagnostig, yn symleiddio tasgau gweinyddol, ac yn gwella gofal cleifion drwy ddadansoddeg rhagfynegol a chynlluniau triniaeth wedi’u personoli. Wrth i fwy a mwy ei fabwysiadu, mae gan hyn y potensial i leihau amseroedd aros a gwella effeithlonrwydd gofal iechyd yn gyffredinol. Yn ogystal â hyn, mae potensial AI i greu manteision ehangach y mae mawr eu hangen ar y system gofal iechyd yn amlwg. Ar wahân i iechyd, mae AI yn gallu chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wneud y defnydd gorau posib o ynni, o leihau gwastraff, ac o gefnogi ymdrechion cadwraeth a monitro amgylcheddol.
Bydd buddsoddiad parhaus mewn ymchwil ac arloesedd AI yn gwneud Cymru’n arweinydd, gan ddenu talent a buddsoddiad, a meithrin ecosystem gwyddorau bywyd fywiog. Er ei fod hefyd yn cyflwyno heriau y mae angen eu rheoli’n ofalus, mae’n ddyletswydd arnom i barhau i ddefnyddio potensial AI i wella canlyniadau yn ein system gofal iechyd er budd timau clinigol a chleifion fel ei gilydd.
Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am AI ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, e-bostiwch hello@lshubwales.com i gofrestru ar gyfer cylchlythyr y Comisiwn AI.