Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gefnogi’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan fod gwybodaeth y sector yn elfen allweddol o’n mewnbwn. Yn y blog hwn byddaf yn mynd â chi ar daith wib o amgylch y dirwedd technoleg a deallusrwydd artiffisial (AI) yng Nghymru. 

A photo of Mike Wilson, blog author

Y diwydiant yng Nghymru a’r DU: Cipolwg 

Mae sector AI y DU gyda’r mwyaf yn y byd. Yn 2023, roedd y sector werth dros $21 biliwn.  

Ar hyn o bryd, cyfran gymharol fach sydd gan Gymru o’r diwydiant hwn sy’n tyfu’n gyflym iawn. Tua 1% o weithgarwch AI y DU sy’n digwydd yng Nghymru. Mae 76% o’r holl gwmnïau AI yn ardal Llundain a de-ddwyrain Lloegr – yn y ‘Golden Triangle’.  

Mae llawer ohonom ni wedi rhyfeddu at ba mor gyflym mae AI wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf ac yn ôl rhai amcangyfrifon, bydd gwerth y diwydiant yn y DU yn pasio $1 triliwn erbyn 2035

Mae Cymru eisoes yn gartref i tua 3,600 o gwmnïau technoleg – pob un ddim yn canolbwyntio ar AI o reidrwydd – sy’n cyflogi dros 45,000 o bobl ac sy’n gyfrifol am drosiant o dros £1bn. Rydyn ni wedi gweld AI yn cael ei integreiddio’n gyflym iawn mewn technolegau sy’n bodoli eisoes, felly mae’n rhesymol disgwyl i’r diwydiant technoleg cadarn hwn ymwneud llawer mwy ag AI yn gyflym.

Dyma gyfle sylweddol i Gymru, felly beth yw rhai o’r cryfderau a’r gwendidau fydd yn effeithio ar ein gallu i sicrhau’r twf hwnnw (neu fwy)? 

Prif gryfderau Cymru 

Y diwydiant technoleg, sydd wedi’i hen sefydlu erbyn hyn, yw un o’r prif gryfderau. Yn benodol, mae Cymru’n arweinydd seiberddiogelwch ers tro, yn rhannol oherwydd safleoedd byddin Prydain yn Nyffryn Hafren. Mae gennym ni sector technoleg ariannol llewyrchus hefyd, sy’n cynnwys nifer o gwmnïau technoleg ariannol mawr a chwmnïau newydd. Mae’r cryfderau technolegol hyn yn creu cyfle i ehangu i fyd AI, ac mae’r ewyllys i gefnogi twf yn sicr yn bodoli.  

Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud mwy a mwy i annog busnesau AI i ddewis Cymru fel pencadlys, ac mae llawer iawn o sefydliadau cymorth yn canolbwyntio ar hwyluso’r broses o fabwysiadu AI a thechnolegau digidol yn ehangach. 

Dyma rai enghreifftiau:  

  • Y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol – grŵp goruchwylio a chynghori cydweithredol sy’n canolbwyntio ar fabwysiadu a rheoleiddio AI yn foesegol yn sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
  • Technoleg Iechyd Cymru – Mae Technoleg Iechyd Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n rhan o strwythur GIG Cymru, yn chwarae rôl bwysig yn gwerthuso a darparu canllawiau ar ddefnyddio technolegau a modelau gofal ar wahân i feddyginiaethau (gan gynnwys atebion AI) ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Ar ben y cymorth eang hwn, mae gan Gymru gryfderau academaidd ym maes AI sy’n golygu ein bod yn barod i ffynnu. Mae gan Brifysgol Caerdydd amrywiaeth o weithgarwch ymchwil ym maes AI, gan gynnwys drwy’r Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriannau Dynol.  

Mae cryfderau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe hefyd – yn enwedig yn yr adran Gwyddor Data Poblogaeth, sef cartref cronfa ddata SAIL. Hefyd roedd Abertawe wedi cynnal y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar Ddeallusrwydd Artiffisial mewn Gofal Iechyd ym mis Medi 2024, lle roedd cynrychiolwyr o 20 o wledydd yn bresennol i rannu canfyddiadau ymchwil.  

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi ffurfio partneriaeth ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i greu Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru er mwyn llywio dyluniad a darpariaeth rhaglenni academaidd, creu cyfleoedd gwaith rhan-amser i fyfyrwyr a graddedigion, a chynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i staff gwybodeg. 

Y prif heriau i Gymru

Mae un o’r prif heriau i Gymru yn her i’r DU gyfan hefyd. Mae nifer o adroddiadau ymchwil wedi tynnu sylw at y bwlch sgiliau digidol yn y DU. Yn 2020, roedd papur ymchwil Llywodraeth y DU ar ddeall marchnad lafur AI y DU wedi canfod bod prinder pobl â sgiliau AI a gwyddor data.  

Hefyd mae ymchwil gan Microsoft yn dangos mai dim ond 17% o weithwyr yn y DU sy’n cael eu hailsgilio ar gyfer AI, o’i gymharu â 38% yn fyd-eang – er ei bod hi’n ymddangos bod y DU mewn sefyllfa gadarn mewn ffyrdd eraill. Mae ymchwil McKinsey’n dangos ei fod yn y chwartel uchaf o wledydd o ran parodrwydd ar gyfer AI, gyda sylfeini polisi ac academaidd cryf.  

Felly byddai’n ymddangos bod busnesau yn y DU yn ymwybodol o botensial AI ac yn canolbwyntio at gynlluniau a pholisïau i elwa ar y potensial hynny. Ond ar draws y DU, mae diffyg sgiliau i roi’r cynlluniau hyn ar waith, a dim digon o ffocws ar ddatblygu’r capasiti hwnnw.  

I ailadrodd y pwynt hwn mae’n werth nodi, er ei chryfderau ymchwil, mai dim ond yn ddiweddar mae Prifysgol Abertawe wedi lansio cwrs gradd sy’n canolbwyntio ar AI, i ddechrau yn 2025, a dydy Prifysgol Caerdydd ddim yn cynnig un eto. Mae hyn yn dangos bod bwlch yn y ffrwd datblygu sgiliau yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, mae cadw talent yn broblem benodol i Gymru. Mae nifer o raddedigion medrus iawn yn dewis gadael Cymru ac ymuno â’r farchnad lafur rhywle arall. 

I gloi, her i Gymru ei goresgyn yw pa mor flaenllaw yw’r ardal honno sy’n cael ei galw’n ‘Golden Triangle’. Mae clwstwr mor grynodedig o weithgarwch academaidd a diwydiant eisoes wedi’i sefydlu, felly bydd hi’n her i Gymru sefydlu ei hun fel cyfrannwr allweddol.  

Pam mae angen cadw llygad ar AI yng Nghymru  

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae angen cadw llygad ar AI yng Nghymru. Does dim dwywaith bod y brwdfrydedd i gynyddu cyfraddau mabwysiadu AI yn bodoli, yn benodol i helpu i ateb rhai o’r heriau sy’n cael eu hwynebu gan system iechyd sydd dan bwysau. 

Mae buddsoddiadau diweddar, fel penderfyniad Delineate – cwmni dealltwriaeth o’r farchnad wedi’i bweru gan AI – i sefydlu ei bencadlys yng Ngheredigion, yn arwydd bod sector technoleg Cymru yn tyfu. Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae nifer o enghreifftiau o atebion cyffrous sy’n seiliedig ar AI yng Nghymru, gan gynnwys: 

Dyma ddim ond ychydig o’r enghreifftiau o gwmnïau arloesol yng Nghymru, sy’n dangos ei bod hi’n bosib i Gymru – os gallwn ni oresgyn rhai o’r heriau – wireddu manteision posib AI a chwarae rhan fwy mewn diwydiant sy’n debygol o fod yn enfawr.  

Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am AI ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, e-bostiwch helo@hwbgbcymru.com i gofrestru ar gyfer cylchlythyr y Comisiwn AI.