Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydyn ni’n falch iawn o lansio ein cyfres ddiddorol o astudiaethau achos digidol sy’n tynnu sylw at y datblygiadau arloesol ym maes canser sy’n digwydd yng Nghymru.

Craig maxwell - filming set up

Mae’r gyfres hon, sy’n cynnwys prosiectau arloesol gan QuicDNA a CanSense, yn dangos ymrwymiad i hyrwyddo gofal canser drwy dechnolegau a dulliau arloesol. 

Mae gwella canlyniadau canser yng Nghymru yn flaenoriaeth. Rydyn ni’n gweithio gydag iechyd, gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant i gyflymu’r gwaith o ddatblygu atebion arloesol ar gyfer gofal canser. Mae’r gyfres hon o fideos yn tynnu sylw at waith rhyfeddol QuicDNA a CanSense, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau ym maes canfod yn gynnar a thriniaethau wedi’u targedu. Mae gan y datblygiadau arloesol hyn y potensial i achub bywydau, gwella canlyniadau cleifion, a lleihau straen ar systemau gofal iechyd. 

Mae’r fideos astudiaeth achos yn cynnwys dau brosiect arwyddocaol:  

QuicDNA: Mae’r prosiect hwn yn cynnwys partneriaid traws-sector a chyllidwyr i sicrhau cyrhaeddiad ac effaith eang technoleg biopsi hylif. Mae biopsi hylif yn ddewis arall syml ac anymwthiol yn lle biopsïau tiwmor llawfeddygol a wneir drwy brawf gwaed, neu gellir ei ddefnyddio i ategu biopsi tiwmor i gwtogi’r amser at driniaeth. Mae’r fideo hefyd yn cynnwys gwybodaeth gan Craig Maxwell, sy’n trafod effaith y prosiect hwn, a phwysigrwydd ymdrechion codi arian parhaus.  

  

“Rwy’n credu bod Craig wedi bod yn gwbl unigryw yn hyn o beth. Mae wedi manteisio ar y cyfle, er bod ganddo ddiagnosis datblygedig o ganser, i ddweud beth y gall ei wneud i wella’r system a gwella canlyniadau i gleifion sy’n dod ar ei ôl. Sy'n ysbrydoliaeth i’r gweddill ohonom. Mae’n ein hysbrydoli i weithio’n fwy effeithiol ledled Cymru.” Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru 

CanSense: cwmni technoleg feddygol newydd sy'n canolbwyntio ar ddatblygu prawf gwaed ar gyfer diagnosis anymwthiol o ganser y coluddyn, gan ddefnyddio modelau sy’n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial. Canser y colon a'r rhefr, y cyfeirir ato hefyd fel canser y coluddyn, yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yn fyd-eang. Mae’n cyfrif am tua 10% o’r holl ddiagnosis o ganser a dyma’r ail brif achos o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chanser yn fyd-eang.  

  

“Mae cleifion yn deall prawf gwaed CanSense: mae’n syml, yn dderbyniol ac yn cael ei ffafrio’n gryf dros golonosgopïau diangen. Mae gallu’r prawf i ganfod arwyddion cynharaf canser yn anhygoel o gyffrous. Mae’r hyn y mae CanSense yn ei wneud yn newid y dirwedd o ran sut rydyn ni’n canfod canser er gwell. Mae’n lle cyffrous iawn i fod ar hyn o bryd.” Yr Athro Dean Harris, Cyfarwyddwr Clinigol CanSense.    

Gall canser atal pobl rhag byw bywydau iachach a hirach, a chynyddu’r pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Gallwn helpu i wella hyn drwy yrru arloesedd ym maes gwyddorau bywyd i reng flaen gofal.  

“Mae gofal canser yng Nghymru yn datblygu, ond mae heriau’n parhau. Drwy arddangos datblygiadau arloesol fel QuicDNA a CanSense, ein nod yw ysbrydoli a dangos sut gall technolegau arloesol drawsnewid sut mae canser yn cael ei ganfod a’i drin. Mae partneriaethau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant yn hanfodol. Rydyn ni’n meithrin cydweithio i gyflymu’r gwaith o gyflwyno atebion arloesol ar gyfer gofal canser.” - Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 

Gwyliwch y gyfres lawn o fideos i ddysgu mwy am y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan QuicDNA a CanSense ar ein sianel YouTube.  

Rydyn ni hefyd yn annog partneriaid yn y diwydiant sydd ag atebion arloesol i ganser i ymuno â ni yn y frwydr yn erbyn canser. Gallwch gyflwyno eich syniadau arloesol yma: Ffurflen ymholiadau am arloesi | Gwyddorau Bywyd (lshubwales.com)