Mae Goggleminds yn datblygu rhaglenni hyfforddi ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol y gellir eu darparu drwy realiti rhithwir (VR) neu liniaduron. Mae rhaglenni hyfforddi yn cwmpasu arbenigeddau clinigol, gan gynnwys meddygaeth, nyrsio, llawfeddygaeth a phroffesiynau perthynol i iechyd.
Mae Goggleminds yn arbenigo mewn cyfuno technoleg ymgolli a gemau i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr i ddysgu’n fwy effeithiol. Cynyddodd y galw am hyfforddiant rhithwir yn ystod pandemig Covid-19, wrth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol chwilio am ddewisiadau mwy diogel yn lle hyfforddiant wyneb yn wyneb.
Mae’r rhaglen hyfforddi o ganlyniad yn defnyddio technoleg penset realiti rhithwir sy’n rhoi cyfle i ymarferwyr gofal iechyd hyfforddi mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gyda chynnwys sy’n efelychu senarios clinigol go iawn yn gywir.
Dywedodd Azize Naji, Sylfaenydd Goggleminds:
“Yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud yw cynnwys staff gofal iechyd yn y broses hyfforddi. Rydw i wedi gweithio ym maes gofal iechyd ers nifer o flynyddoedd mewn gwirionedd. Gwelais y problemau’n uniongyrchol ac i mi roedd yn ymwneud â darparu atebion ar gyfer yr hyn a welais yn broblem fawr. A’r broblem honno yw hyfforddiant sy’n ddiflas, yn anhygyrch ac yn aneffeithiol. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod staff gofal iechyd yn cael yr adnoddau iawn, ac i ni, mae hynny’n ymwneud â darparu hyfforddiant o ansawdd rhagorol iddyn nhw. Felly, mae Cyflymu wedi rhoi’r offer, yr adnoddau a’r wybodaeth i ni i ehangu’r hyn rydyn ni’n ei wneud.”
Cefnogwyd y prosiect hwn gan Cyflymu, rhaglen sydd bellach wedi cau dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.