Eleni, denodd MediWales Connects gannoedd o fynychwyr o’r maes iechyd, y diwydiant, gofal cymdeithasol a'r llywodraeth i rannu gwersi a ddysgwyd ac archwilio heriau a chyfleoedd. Dyma beth wnaethom ni ar y diwrnod a’r hyn a ddysgom o’r digwyddiad.

Roedd ein tîm yn falch iawn o fynychu cynhadledd flynyddol MediWales Connects! Clywsom gan amrywiaeth eang o siaradwyr, o fydwragedd i eiriolwyr cleifion i arweinwyr sy'n gweithio ar flaen y gad o ran arloesi ym maes canser. Roedd cymaint o safbwyntiau craff, y byddwn yn eu rhannu ac yn eu defnyddio yn ein gwaith yn sbarduno arloesi ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae angen newid meddylfryd er mwyn i arloesi ganolbwyntio ar ganlyniadau
Clywsom mewn ambell i sgwrs am bwysigrwydd mesur ac ystyried effaith a chanlyniadau o ran arloesi. Trafododd Luella Trickett, Cyfarwyddwr Gweithredol Dyfeisiau Meddygol, Gwerth a Mynediad, yng Nghymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain (ABHI) sut mae ffocws enfawr yn aml ar bris atebion, ond mewn gwirionedd, mae'r ffocws ar ganlyniadau yn bwysicach ar gyfer creu gwerth yn y tymor hir. Yn syml, pwysleisiodd mai buddsoddiad yw ariannu arloesi, nid cost. Er bod Cymru wedi hen ennill ei phlwyf fel arweinydd ym maes Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, tynnodd sylw at y ffaith bod angen gwthio hyn ymhellach yn ein gwlad a thu hwnt.
Clywsom hefyd gan Natalie Pryor a Chloe Mangall o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, a siaradodd am y ffordd orau o gofnodi canlyniadau ac effaith gwaith gan ddefnyddio'r dull Mapio Sgileffeithiau (REM) i gofnodi a mapio ei effaith. Mae’r dull hwn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer deall canlyniadau cymhleth, yn enwedig lle nad yw dulliau gwerthuso traddodiadol yn cyrraedd y nod. Canfuwyd y gallai'r adnodd hwn helpu i ledaenu a graddio a dod â phobl at ei gilydd ar draws y system.
Pwysigrwydd cyd-gynhyrchu a gwrando ar leisiau cleifion a lleisiau ar y rheng flaen
Archwiliodd Louise Baker, Arweinydd Prosiectau yma yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sut mae angen i ni rymuso timau yn y gymuned i groesawu arloesi mewn lleoliad gofal cymdeithasol.
Defnyddiodd Louise ein systemau digidol ar gyfer rheoli meddyginiaethau a’n prosiectau atebion hyfforddi realiti rhithwir fel enghreifftiau o sut gall arloesi wella ansawdd bywyd defnyddwyr gwasanaeth, sbarduno gwerth a grymuso staff gofal cymdeithasol. Tynnodd sylw at bwysigrwydd cynnwys eu lleisiau wrth ddylunio prosiect neu gynllun peilot arloesi, a’r ffaith ei fod yn gyfle hanfodol i feddwl yn wahanol a chreu newid.
Siaradodd Jemin Popat, claf beta-thalassemia, hefyd yn y digwyddiad am ei brofiadau. Tan yn ddiweddar, nid oedd modd gwella o beta-thalassemia. Roedd yn gyflwr a oedd yn cyfyngu ar fywyd a byddai angen i glaf fynd i’r ysbyty filoedd o weithiau yn ystod ei oes. Fodd bynnag, mae datblygiadau diweddar mewn therapi genynnau yn golygu bod modd gwella o’r cyflwr.
Siaradodd Jemin am bwysigrwydd canoli llais y claf wrth ddatblygu a darparu therapïau newydd. Er y byddai llawer yn tybio y byddai'r rhan fwyaf o gleifion yn bachu’r cyfle i gael triniaeth, nid yw’r penderfyniad bob amser mor hawdd ac mae'n hanfodol deall pam nad yw’n hawdd o safbwynt y claf a helpu i gael gwared ar y rhwystrau hyn - fel amser i ffwrdd o'r teulu a chostau teithio - os yw'n bosibl.
Parhau i fanteisio ar botensial technoleg ddigidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Roedd arloesedd digidol yn thema bwysig a oedd yn ganolog i’r digwyddiad. Roeddem yn falch bod Luella Trickett wedi cydnabod Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel sefydliad pwysig ar gyfer bwrw ymlaen â hyn yng Nghymru drwy ein hystod o wasanaethau cymorth.
Fe wnaethom ddysgu gan Asad Javied, Canolfan Hartree Hwb Caerdydd, am sut mae ei dîm yn cefnogi sefydliadau gwyddorau bywyd i integreiddio deallusrwydd artiffisial â’u gwaith. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi gwybodaeth a data, prosesu delweddau a fideos, a sgwrsfotiau a modelau iaith.
Trafodwyd allgáu digidol hefyd. Er bod gan arloesedd digidol y potensial i drawsnewid gofal iechyd er gwell, nid yw pawb yn gallu cael gafael arno ac mae pobl mewn perygl o gael eu gadael ar ôl. Siaradodd Cheri Lewis, Uwch-swyddog Gwybodaeth Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, am y ffaith bod rhoi cardiau SIM wedi'u rhaglwytho i bobl feichiog yn cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar eu gofal cyn geni ond ar eu bywydau ehangach hefyd.
Roeddent yn gallu cysylltu â staff brysbennu os oedd angen a siarad â'u bydwraig am gyngor ac roedd y cardiau hyn hefyd yn ffordd o helpu eu plant i gwblhau gwaith cartref ar-lein a'u cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid. Mae sgwrs ehangach o lawer i'w chael am bwysigrwydd sicrhau bod pawb yn rhan o’r ecosystem ddigidol wrth i'r dechnoleg hon barhau i gael ei gwreiddio ym mhob rhan o'n bywydau.
Cymru yn gartref i brosiectau a rhaglenni arloesi ysbrydoledig ym maes canser
Clywsom gan Ganolfan Ymchwil Canser Caerdydd (CCRH) am sut mae partneriaeth newydd rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd yn helpu i ddarparu treialon arloesol yng Nghymru.
Dysgom sut mae'r CCHR yn trosi ymchwil bresennol ac ymchwil yn y dyfodol yn ganlyniadau addawol i gleifion canser. Mae'r treialon sy'n cael eu cynnal yma ar hyn o bryd yn cynnwys:
- ATTEST: Defnyddio'r feirws trocept, sy'n cael ei addasu i ladd celloedd canser yn unig.
- Iovance: Defnyddio lymffocytau sy’n ymdreiddio i’r tiwmor (TIL), sef celloedd imiwnedd naturiol sy'n ymladd canser. Mae TIL claf sy'n digwydd yn naturiol yn cael eu casglu, eu tyfu y tu allan i'r corff ac yna eu cyflwyno yn ôl i dargedu celloedd canser tiwmor solet.
Daeth y digwyddiad i ben gyda Rob Orford, ein Prif Gynghorydd Trechu Canser, yn rhoi crynodeb o'n rhaglen Trechu Canser, yr ydym yn ei rheoli ar ran Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Fforwm Diwydiant Canser Cymru, Tîm Canser Cenedlaethol Cymru a Gofal Iechyd ac Ymchwil Cymru.
Ein nod yw meithrin partneriaethau dibynadwy rhwng darparwyr iechyd a gofal, y diwydiant a'r byd academaidd, gan gyflymu'r gwaith o ddarparu atebion aflonyddgar, profedig sy'n seiliedig ar dystiolaeth i drawsnewid cyfraddau goroesi canser yng Nghymru.
Boed yn dreialon clinigol arloesol ym maes canser neu'n brosiectau gofal cymdeithasol sy'n trawsnewid bywydau defnyddwyr gwasanaethau, mae Cymru yn lle cyffrous i arloesi ar hyn o bryd. Mae MediWales Connects yn parhau i ddangos hyn.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni eich cefnogi i sicrhau bod arloesi yn cyrraedd rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ewch i'n tudalen gwasanaethau cymorth.