Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i'w cefnogi drwy'r cylch arloesedd:
- Nodi - Gallwn weithio gyda chi i nodi pa amcanion cynllun tymor canolig integredig a fyddai'n elwa o ddatrysiad technolegol, fel bod arloesedd yn sail i'ch meddylfryd o'r cychwyn.
- Cysylltu - Gallwn hwyluso cydberthnasau cysylltiol, llawn gwybodaeth - gan eich rhoi mewn cysylltiad â'r bobl iawn ar yr adeg iawn. I gefnogi hyn, rydym wedi sefydlu'r 'Rhwydwaith Arloesedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru' a chynnal digwyddiadau allweddol, fel ein dyfeisgarwch mewn grwpiau diddordeb arbennig ym maes iechyd a gofal.
- Datblygu - Rydym yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu prosiectau cydgysylltiedig - datblygu syniadau newydd, ffres drwy roi gwybod i chi pwy a beth sydd eisoes ar gael, yn ogystal â phennu heriau i'r diwydiant o ran rhoi hwb i atebion arloesol i faterion iechyd.
- Cefnogi - Gallwn ddarparu arweiniad ar ddatblygu cynigion yn effeithiol ac yn llwyddiannus a nodi llwybrau at gyllid
- Gwella - Rydym yn canolbwyntio ar wellaint parhaus. Felly, byddwn bob amser yn rhannu cyfleoedd ar gyfer dysgu arbenigol, datblygu gwybodaeth, arbenigedd a gwybodaeth - gan adolygu'n gyson sut maen pethau'n mynd.
"Gyda gwasanaethau o dan bwysau cyson, nid yw arloesedd ym maes iechyd a gofal erioed wedi bod yn bwysicach. Rydym yn awyddus i gydweithio â'n cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol - gan weithio ar gyflymder i nodi, datblygu ac uwchraddio arloesedd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol."
Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Cyflwyno Dee Puckett
Dee yw ein Pennaeth Ymgysylltu Iechyd a Gofal. Gan fod dros ugain mlynedd o brofia ar draws GIG Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae wedi ymrwymo i genfogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i sbarduno newid trawsnewidiol drwy arloesedd. Gallwch ddarganfod mwy am swydd Dee a sut y gall hi eich cefnogi yn y cyfweliad byr hwn. I trafod eich heriau a chyfleoedd arloesedd, ebostiwch: Denise.puckett@lshubwales.com.
Oes gennych chi syniad y gallwn ni helpu i'w gyflymu? Darganfyddwch fwy am ein rhaglen Cyflymu
Ydych chi'n gweithio ym maes iechyd digidol? Os mai ydw yw'r ateb, mae angen i chi ymuno ag Ecosystem Iechyd Digidol Cymru.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein llyfryn yma: