Mae AgorIP yn lansio galwad mewnol i GIG Cymru sydd â syniad newydd sydd angen cymorth masnachol. Dyma gyfle gwych i ddod â thechnolegau a syniadau newydd i'r farchnad, ac i gysylltu gyda phartneriaid diwydiant a buddsoddwyr gyda help a chymorth tîm profiadol o Reolwyr Trosglwyddo Technoleg.

AgorIp logo

Os oes gennych chi syniad newydd a all fod o fudd iechyd a llesiant Cymru ac rydych eisiau masnacheiddio, mae AgorIP yma i'ch helpu chi. Gall tîm AgorIP gynnig chwiliadau eiddo deallusol, ymchwil i'r farchnad, adeiladu byrddau stori, creu prototeipiau neu ddatblygu fideo prawf, yn ogystal â dylunio graffeg. Gall y tim eich helpu i weithio gyda'ch busnes neu fentoriaid masnach a gall eich cefnogi chi i gasglu buddsoddiadau er mwyn cyrraedd y farchnad neu ddiogelu cytundeb trwydded, ac fel mae'r enw'n awgrymu, gall AgorIP eich helpu i ddiogelu eich IP.

Sut i ymgeisio

Bydd cyllid Cymorth Masnachol AgorIP yn cynnig hyd at £10,000, yn ôl anghenion y prosiect. I gymryd rhan yn yr alwad, bydd angen ichi gwblhau'r ffurflen gellir ei lawrlwytho a'i chyflwyno i agorip@swansea.ac.uk erbyn dydd Llun 19 Hydref. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno eich syniad newydd mewn panel asesu. Byddwch yn cael cymorth i baratoi ar gyfer eich cyflwyniad.

Mae AgorIP wedi ei ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru.