Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru’n falch iawn o gefnogi Hac Gofal Cymdeithasol Cymru pryd y cafodd y cyfranogwyr gyfle i sicrhau cyllid hyd at £20,000 o botyn prosiectau arloesi Llywodraeth Cymru gwerth hyd at £250,000.
Mewn trefniant tebyg i Hac Iechyd Cymru, cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf hwn ar draws dau gyfarfod ar-lein. Yn y cyntaf, roedd pobl yn y maes gofal cymdeithasol yn disgrifio wynebu heriau y gallai arloesi helpu i’w datrys. Roedd cyfle wedyn i bawb rwydweithio a thrafod atebion posib. Yn yr ail gyfarfod ar 23 Mehefin, cyflwynwyd yr holl syniadau gan ddewis pedwar enillydd.
Y cyflwyniadau buddugol
Fe wnaeth y panel beirniadu, yn cynnwys ein Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesi, Rhodri Griffiths, a’r Swyddog Prosiect Arweiniol, Aimee Twinberrow, ddewis ariannu’r prosiectau canlynol:
Cymorth digidol i gymunedau gofalgar
Cyflwynwyd y prosiect hwn gan Scienap a Cwmpas i wella cynhwysiant digidol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy greu cyfrif a ‘rhyngwyneb’ procsi i bobl sy’n gofalu am neu’n rhoi cymorth i eraill, y gellir yna ei gysylltu i wasanaethau eraill. Medrant yna gael gafael yn gyfreithiol ar wybodaeth fel manylion ariannol a meddygol ar ran y bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt.
Ap lles
Wedi’i arwain gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Scienap, bydd y prosiect hwn yn creu ap iechyd a lles cymdeithasol i gysylltu defnyddwyr gwasanaeth a rhoi gwybod iddynt am ddigwyddiadau cymorth lles sydd i’w cynnal. Gall defnyddwyr yr ap hefyd greu Pasbort Iechyd i gadw gwybodaeth bwysig am iechyd y defnyddiwr, a’i rannu ag eraill, gydag opsiynau i helpu pobl awtistig i’w ddefnyddio.
Ap Nostalgify
Nod yr ap Nostalgify yw cynnig ap technoleg ‘realiti estynedig’ cwmpasol i greu profiadau aml-synnwyr o atgofion hiraethus hynod bersonol – gan ddarparu dull person-ganolog ar gyfer preswylwyr a gofalwyr, gan gynnwys pobl gyda dementia. Wedi’i arwain gan Brifysgol Abertawe, gyda chymorth gan Side-By-Side Innovation a Vere Experiences CIC, maen nhw am ddefnyddio cyllid gan yr Hac i ddatblygu protodeip.
Hỳb adnoddau briwiau pwyso ‘Offload’ a synhwyro eistedd integredig ‘TacTile’
Nod y prosiect hwn a gyflwynwyd gan Mark Bowtell, Prif Wyddonydd Clinigol o adran Peirianneg Adsefydlu GIG Cymru, yw rhoi’r adnoddau i dimau cymorth gofal i helpu cleifion i hunan-reoli a chydymffurfio â strategaethau i leihau’r ffactorau risg sy’n achosi briwiau pwyso. Bydd adnodd sy’n bodoli ac yn cael ei ddefnyddio’n barod gan glinigwyr yn cael ei gyflwyno i’r maes gofal cymdeithasol. Mae potensial hefyd i rannu mwy o ddata cwmwl rhwng lleoliadau gofal cleifion a gweithwyr iechyd ac integreiddio system synhwyro eistedd i dracio amser eistedd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd syniadau na lwyddodd i sicrhau cyllid yn cael eu cyfeirio at opsiynau cymorth eraill. Bydd y cyflwyniadau buddugol yn dechrau’r broses diwydrwydd dyladwy ar gyfer derbyn eu cyllid ac yn dechrau datblygu eu hateb arloesol.
Meddai Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesi yn Hwb Gwyddorau Bywyd Iechyd:
“Gall ariannu arloeswyr i geisio datrys rhai o’r heriau mwyaf mewn gofal cymdeithasol helpu i wella ansawdd bywyd defnyddwyr gwasanaeth a’i gwneud yn haws i staff wneud eu gwaith. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru’n falch o fod wedi gweithio â nifer o sefydliadau i gefnogi’r Hac Iechyd Gofal Cymdeithasol cyntaf. Edrychwn ymlaen at weld sut y mae’r Hac yn datblygu a dymunwn longyfarch pawb a gyflwynodd eu syniadau i geisio arloesi a gwneud gwahaniaeth.”
Gan siarad am lwyddiant y digwyddiad, meddai Siôn Charles, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Gwasanaeth yn ARCH:
“Roedd yn wych clywed gan dimau gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i gyflwyno atebion technoleg i heriau gweithredol.”
Os cawsoch eich ysbrydoli gan y syniadau campus yn y cyflwyniadau buddugol a byddech yn hoffi helpu i ddatblygu a defnyddio atebion arloesol, llenwch y Ffurflen Ymholiad Arloesi. Bydd ein tîm yn dod yn ôl atoch i roi gwybod i chi sut orau y gallwn helpu.