Mae Hac Iechyd Cymru yn parhau i arddangos y dalent anhygoel a'r awydd i greu atebion ar gyfer heriau mawr sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol.

Welsh Health Hack

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o barhau i gefnogi’r Hac Iechyd Cymru diweddaraf yng Nghymru, sy'n ceisio annog cydweithio ar draws sectorau gyda hyd at £250,000 o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi syniadau arloesol llwyddiannus.

Trwy gyfrwng dau ddigwyddiad ar-lein dechreuodd yr Hac ar 16 Chwefror gyda phobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cyflwyno heriau yn eu gwaith yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Yna, aeth pawb ati i rwydweithio a thrafod atebion posibl. Yn y cyfarfod terfynol ar 1 Mawrth, cyflwynwyd pob syniad a dewiswyd 12 o enillwyr.

Y syniadau buddugol

Roedd y cyflwyniadau llwyddiannus a ddewiswyd gan y panel beirniadu yn cynnwys:

  • Hrishi Joshi - Traciwr PROM Awtomataidd ar gyfer Cleifion gyda Cherrig Arennau: Defnyddio ap (CHAI) i leihau'r baich ar staff wardiau drwy eu galluogi i ddiweddaru perthnasau a gofalwyr yn ddiogel am gynnydd claf mewn cyflwr sefydlog, yn hytrach na defnyddio ffonau.
  • Rachel Heycock - Cyfleu Gwybodaeth yn Ddigidol: Defnyddio ap arloesol i leihau'r baich ar staff wardiau drwy eu galluogi i ddiweddaru perthnasau/gofalwyr yn ddiogel am gynnydd claf mewn cyflwr sefydlog, yn hytrach na defnyddio ffonau.
  • Billy Hayes – Dangoswch i Mi Lle Mae’n Brifo: Datblygu 'map corff' gweledol rhyngweithiol fel cymorth i gleifion nodi pryderon er mwyn helpu problemau cyfathrebu gan siaradwyr Cymraeg neu rai nad ydynt yn siarad Saesneg neu'n deillio o newid i feddygaeth o bell.
  • Muthu Ganapathi – Monitro Cleifion Arthroplasti o Bell: Datblygu ffôn clyfar ar gyfer monitro o bell unrhyw gleifion sy’n cael pen-glin newydd.
  • Helen Griffith – Dewis Iach, Dewis Hawdd: Creu proses archwilio fwy effeithlon a chywir i alluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu amgylchedd manwerthu iachach yn eu caffi, bwyty a pheiriannau gwerthu.
  • Sharifah Jalil – Mesur y Wain: Creu un ddyfais a dyluniad pesari i helpu i ffitio pesari i'r rhai sydd â phrolaps organau pelfis.
  • Joanne Sullivan – Ailddefnyddio Esgidiau: Archwilio dulliau arloesol o ailddefnyddio, ailgylchu ac ailgynllunio esgidiau orthopedig a ddefnyddiwyd gan un person.
  • Graham Shortland, Chris Subbe a Lowri Smith – Clefydau Prin, Pasbort Iechyd ar gyfer Llwyddiant: Ychwanegu Pasbort Cleifion at ap (CHAI) i sicrhau y gall meddygon gael mynediad cyflym a diogel gan glaf at wybodaeth ddibynadwy, cwbl ddiogel, am eu cyflwr cymhleth neu brin - gan weithio ar draws ffiniau cartref a rhyngwladol
  • Nerys Frater - Gwella Diabetes drwy Fynd yn Ddigidol: Creu ateb pwrpasol i gasglu data ar gyfer gwaith cymorth i helpu cleifion diabetes math 2 i wella eu ffordd o fyw, gostwng lefel y siwgr yn y gwaed a rhoi'r gorau i feddyginiaeth - symleiddio prosesau a gwella’r broses o gyfathrebu â chleifion a dadansoddi data.
  • James Gough, Charlotte Walker – Llinell Ofal – 999 Beth yw eich Argyfwng: defnyddio'r rhaglen CHAI i gefnogi Ambiwlans Cymru i drin cleifion a oedd wedi cwympo ond nad oes modd eu brysbennu dros y ffôn.
  • Ellie Seddon – Defnyddio Gofal Cymdeithasol i Sbarduno Ymyriadau Iechyd Cynnar: Cyd-greu adnodd arsylwi ar sail gwybodaeth glinigol a fydd yn darparu data cymunedol i ddarparu modelau gofal ataliol.
  • Julie Cornish - Gwasanaeth Iechyd y Pelfis - Gwella'r Llwybr a Phrofiad Cleifion: Datblygu llwyfan data drwy'r Ap Taith Cleifion i helpu i frysbennu cleifion â chyflyrau llawr y pelfis i lwybrau priodol gydag atgyfeiriadau gofal sylfaenol, casglu data canlyniadau a helpu i rymuso cleifion i hunanreoli.

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o barhau i gefnogi Hac Iechyd Cymru. Mae'r detholiad gwych o heriau a gyflwynwyd ar draws y digwyddiad yn adlewyrchu cymuned arloesi fywiog a thalentog Cymru. Edrychwn ymlaen at weld sut bydd pob ateb yn datblygu diolch i gefnogaeth yr Hac.”

Cymorth arloesi

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y syniadau gwych yn y meysydd buddugol ac yr hoffech gael help i ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol, yna llenwch y ffurflen Ymholiad Arloesi. Bydd ein tîm yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybod i chi sut y gallwn eich cefnogi.