Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio fel Llysgenhadon Mabwysiadu gyda thri uwch arweinydd o GIG Cymru.

Dr Mark Briggs, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Dr Leighton Philips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Dr Tom Powell, Pennaeth Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymuno â thîm Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru er mwyn datblygu rhwydwaith ledled Cymru.

Yn ddiweddar mae Dr Mark Briggs, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Dr Tom Powell, Pennaeth Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymuno â thîm Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru er mwyn datblygu rhwydwaith ledled Cymru.

Gan weithio ar sail Cymru gyfan, byddant yn cefnogi rhwydweithio a chydweithio cryfach ar draws yr ecosystem arloesi gyda ffocws ar gyflymu'r broses o fabwysiadu cynnyrch a gwasanaethau arloesol allweddol ar gyflymder ac ar raddfa fawr.

Dywedodd Dr Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Nid yw mabwysiadu cynnyrch ac atebion arloesol newydd a all drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn digwydd mor gyflym ag yr hoffem, nac ar y raddfa sydd ei hangen, ac mae hynny’n bennaf oherwydd heriau o ran y system a chapasiti. Rwy’n falch iawn y bydd ein llysgenhadon mabwysiadu newydd yn helpu i nodi sut gellir goresgyn y rhwystrau presennol, gan adeiladu a chefnogi partneriaethau cryfach gan ddefnyddio eu rhwydweithiau helaeth a’u dealltwriaeth o arloesi i ysgogi newid angenrheidiol.”

Sut byddant yn cefnogi mabwysiadu arloesi yn gyflymach?

Bydd y Llysgenhadon Mabwysiadu yn helpu i gryfhau cydberthnasau ledled Cymru, rhwng gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, y byd academaidd a’r diwydiant drwy ymgysylltu’n uniongyrchol, cefnogi’r gwaith o adeiladu rhwydweithiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol.

Byddant yn darparu pont bwysig rhwng sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cyflwyno mentrau a rhaglenni gwaith, gan weithredu fel eiriolwyr. Gan nodi anghenion a chefnogi prosiectau arloesol, datrysiadau ac arfer gorau, bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd, yn cefnogi’r gwaith o’u cyflwyno, ac yn cysylltu arloeswyr â'r ystod o gymorth y mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ei darparu gan gynnwys sganio'r gorwel, sicrhau cyllid a chyflawni prosiectau.

Beth fydd pob Llysgennad yn ei wneud?

Mae pob un o’r Llysgenhadon Mabwysiadu yn dod â chyfoeth o brofiad o weithio yn y GIG, y byd academaidd a’r diwydiant gyda nhw. Byddant yn treulio hyd at un diwrnod yr wythnos fel llysgenhadon anrhydeddus, gyda gwaith pob unigolyn yn cyd-fynd â thema sydd wedi’i nodi’n allweddol ar gyfer trawsnewid i Gymru Iachach.

Mae Dr Tom Powell yn canolbwyntio ar fabwysiadu datrysiadau deallusrwydd digidol yn effeithiol fel rhan o raglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru.

Dywedodd Dr Tom Powell:

“Os caiff ei ymgorffori’n llwyddiannus yn systemau iechyd a gofal cymdeithasol GIG Cymru, bydd deallusrwydd artiffisial ac arloesi digidol yn helpu i wella bywydau. Mae’r chwyldro digidol yn mynd rhagddo, a hyd yn hyn dim ond cyfran fach o beth sy’n bosibl rydyn ni wedi’i weld. Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru er mwyn hwyluso mabwysiadu datrysiadau digidol newydd i bawb sy’n rhan o’r broses.”

Mae Dr Mark Briggs yn canolbwyntio ar feddygaeth fanwl, gan symud o’r cysyniad traddodiadol bod un math o feddyginiaeth yn addas i bawb i fodel rheoli clefydau mwy ataliol a phersonol sy'n cael ei arwain gan ddata.

Dywedodd Dr Mark Briggs:

“Rydym wedi gweld cynnydd anhygoel mewn meddygaeth fanwl ac edrychwn ymlaen at ddatblygu a mabwysiadu’n gyflymach yng Nghymru. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd enfawr sydd o fudd i bobl ac yn darparu llwyfan i weithio’n agos gyda diwydiant i gyd-ddatblygu datrysiadau, yn ogystal â datblygu arbenigedd a chymhwysedd yn y maes hwn. Edrychaf ymlaen at barhau i gyfrannu a chefnogi clinigwyr, ymchwilwyr, datblygwyr, arloeswyr a mabwysiadwyr i wneud gwahaniaeth.”

Mae Dr Leighton Phillips yn canolbwyntio ar nodi'r newidiadau i'r system a goresgyn rhwystrau i sicrhau mynediad cyflymach at arloesi.

Dywedodd Dr Leighton Phillips:

“Mae cymaint o ddatblygiadau arloesol sy’n cynnig y potensial i fynd i’r afael â heriau pwysig a thrawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan Gymru gyfleoedd gwych ac enghreifftiau o arfer gorau, ond mae angen i ni gryfhau ein llwybrau arloesi, gan wella a symleiddio llwybrau mabwysiadu. Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ran bwysig i'w chwarae wrth gynnull a chefnogi partneriaid allweddol i weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â'r newidiadau system Cymru gyfan sydd eu hangen.”

Sut gallaf gymryd rhan?

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gallai Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’n Llysgenhadon Mabwysiadu gefnogi eich datrysiad arloesol chi i’w fabwysiadu a'i ledaenu ledled Cymru ar gyflymder ac ar raddfa fawr, yna cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at hello@lshubwales.com.