Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydyn ni’n falch o groesawu Jeremy Miles AS fel Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar adeg dyngedfennol i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar leihau amseroedd aros a gwella mynediad at ofal, gan groesawu arloesedd o ran darparu iechyd a gofal cymdeithasol.

Jeremy Miles MS

Rydyn ni’n falch o groesawu Jeremy Miles AS fel Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar adeg dyngedfennol i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar leihau amseroedd aros a gwella mynediad at ofal, gan groesawu arloesedd o ran darparu iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ei ddatganiad cyntaf, pwysleisiodd Jeremy Miles ei ymrwymiad i hyrwyddo a herio GIG Cymru er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion, gan lynu’n agos wrth ein nod o sbarduno arloesedd ar draws y sector. 

“Mae’r cyhoedd eisiau gweld amseroedd aros yn gostwng a chael mynediad cyflymach at ofal a thriniaeth,” meddai. “Rydw i wedi ymrwymo i gefnogi a herio GIG Cymru i fabwysiadu arferion gorau ac atebion arloesol i wella canlyniadau i gleifion.”

Gyda chefndir cryf ym maes addysg a chyfiawnder cymdeithasol, mae Jeremy yn dod â phrofiad gwerthfawr i’w rôl. Mae ei ffocws ar leihau amseroedd aros a gwella gofal canser yn hanfodol, fel y gwelwyd yn ystod ei ymweliad diweddar â chanolfan ragoriaeth canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr, sydd wedi elwa o bron i £11 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn yn cyd-fynd â'n hymdrechion i gefnogi arloesedd mewn gofal canser, yn enwedig drwy ddefnyddio Meddygaeth Ddigidol, Deallusrwydd Artiffisial a Meddygaeth Fanwl.

Rydym yn dal wedi ymrwymo i gyflymu’r broses o fabwysiadu’r technolegau hyn wrth ddarparu gofal iechyd ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag Ysgrifennydd newydd y Cabinet i sbarduno newid trawsnewidiol. Mae Jeremy hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i Fyrddau Iechyd ddysgu o arferion gorau er mwyn sicrhau bod pob claf yng Nghymru yn cael gofal o ansawdd uchel. Mae hyn yn cyd-fynd â’n cenhadaeth i feithrin cydweithio ac arloesi ar draws y sector.

Rydym yn croesawu arweinyddiaeth a gweledigaeth Jeremy Miles ac yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi’r defnydd o arloesedd i fynd i'r afael â heriau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac yfory.