Dal i fyny ar ddigwyddiad Cyflymu digidol cyntaf "Croeso i Cyflymu - Cyflymydd technoleg iechyd Cymru"
Cynhaliodd y rhaglen Cyflymu ei ddigwyddiad digidol cyntaf, gan arddangos yr brosiectau arloesi sydd yn cydweithredu gyda Cyflymu.
Ymunodd dros 100 o gynrychiolwyr i glywed yn uniongyrchol sut roedd Cyflymu wedi helpu sefydliadau yn uniongyrchol i ddatblygu eu busnesau, eu syniadau a'u cynhyrchion, ac i ddysgu mwy am sut mae'r rhaglen yn gweithio.
Cafodd cynrychiolwyr gyfle hefyd i ofyn cwestiynau am eu busnesau neu eu syniadau eu hunain, ac hefyd gwnaed cysylltiadau ar gyfer cydweithrediadau yn y dyfodol.
Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi!
Yn ystod y digwyddiad, lansiodd Cyflymu ddwy her newydd trwy ein porth arloesi.
Syniad, busnes neu gynnyrch cysylltiedig â Covid-19
Syniad, busnes neu gynnyrch nad yw'n gysylltiedig â Covid-19
Nod yr heriau hyn yw i dod o hyd i brosiectau newydd y gallai Cyflymu eu helpu i ddatblygu eu syniadau, eu cynhyrchion neu eu busnes.
Os oes gennych chi syniad neu gynnyrch y credwch y byddai'n elwa o arbenigedd, adnoddau a chysylltiadau Cyflymu, cyflwynwch eich syniad trwy'r heriau uchod.
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n colli allan ar ddigwyddiadau yn y dyfodol trwy gofrestru i'n cylchlythyr Cyflymu.
Mae Cyflymu Cymru yn gydweithrediad rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant, ac yn cael ei gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.