Mae’n bleser gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gyhoeddi naw cais llwyddiannus sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau amlwg ym maes meddygaeth fanwl yng Nghymru.

Man Receiving Radiotherapy (Radiation Therapy) for Cancer Treatment

Mae gan feddygaeth fanwl agwedd fwy personol na systemau iechyd a gofal cymdeithasol traddodiadol ac mae’n defnyddio gwybodaeth fel geneteg a ffordd o fyw i hysbysu triniaethau uwch, wedi’u targedu a’u teilwra.  Gall helpu i drawsnewid ein gwasanaethau gofal iechyd drwy ddarparu triniaethau mwy effeithiol ar gyfer clefydau fel canser.

Mae ein sefydliad wedi gweithio gyda phartneriaid o feysydd iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant i nodi’r meysydd mewn meddygaeth fanwl y mae angen mynd i’r afael â hwy yn y 12 mis nesaf.

Mae’r rhain fel a ganlyn:

  1. Offer/technoleg i gefnogi rhaglenni sgrinio clefydau newydd neu bresennol
  2. Offer/technoleg i alluogi dadansoddiad data mawr a all gefnogi penderfyniadau clinigol
  3. Offer/technoleg i gefnogi profi o bell a/neu yn y cartref
  4. Cyfleoedd i addasu technolegau presennol at ddibenion gwahanol mewn cymwysiadau meddygaeth fanwl

Yna gwahoddwyd rhanddeiliaid i gyflwyno cynigion her a all gefnogi’r blaenoriaethau hyn gyda chyfle i gydweithio yn y dyfodol gyda systemau iechyd a gofal cymdeithasol.

Y ceisiadau llwyddiannus

Ystyriwyd y ceisiadau yn erbyn eu potensial i gael effaith ar iechyd, eu cam datblygu’r gallu i fynd i’r afael yn glir ag angen a nodwyd.  Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bu’r naw canlynol yn llwyddiannus:

  • Canfod a monitro Ffibriliad Atrïaidd (Afib) yn barhaus (Ascend Care Ltd): Mae CardiacSense yn oriawr newydd a gynlluniwyd i fonitro’r claf o bell, a gall ganfod pwysedd gwaed uchel, ataliad y galon a ffibriliad atrïaidd.
  • Canllaw Deallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer asesu thrombosis gwythiennau dwfn drwy uwchsain (ThinkSono Ltd): Rhaglen feddalwedd arloesol, ThinkSono AutoDVT, sy’n galluogi i staff gofal iechyd anarbenigol i ddysgu a chyflawni archwiliadau Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) gan ddefnyddio uwchsain.
  • Dull uwch o ganfod adenoma wrth sgrinio am ganser y coluddion (Olympus KeyMed Ltd): Gan gyfuno technoleg deallusrwydd artiffisial ENDO-AID CADe a thechnoleg llawes distal ENDOCUFF VISION (ECV) er mwyn gallu canfod canser y coluddion yn well yn ystod colonsgopi.
  • Canlyniadau sgrinio ar unwaith 50 eiliad (Simed Global): Dyfais sbectrometreg symudedd ïon i ganfod cyfryngau heintus neu fiofarcwyr afiechyd mewn samplau poer mewn llai na 50 eiliad.
  • Diagnosis clwyfau cronig deallusrwydd artiffisial i weithwyr proffesiynol clwyfau (AITI Solutions): Llwyfan sy’n cael ei ysgogi gan ddeallusrwydd artiffisial er mwyn llunio diagnosis, triniaeth a dulliau rheoli gwell ar gyfer clwyfau.    
  • Samplu hylif gwagleol anfewnwthiol yn y cartref (Kiffik): Dyfais y gellir ei gwisgo i gasglu samplau o hylif gwagleol a allai wella llwybrau diagnostig a lleihau’r angen am samplau gwaed.
  • Sgrinio bregusrwydd o bell (Agile Kinetic Ltd): Llwyfan sy’n cael ei ysgogi gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer nodi a monitro bregusrwydd yn well o bell.
  • Llwybrau clinigol personol wedi’u llywio gan ddata (Definition Health Ltd): Datrysiad llawfeddygol digidol o’r dechrau i’r diwedd sy’n cefnogi gofal ar hyd taith amdriniaethol claf.
  • Sgrinio digidol gydag asesiad gwrthrychol o weithrediad yr ysgyfaint ar gyfer clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) (EUPNOOS): Cymorth i wneud penderfyniadau ar ffôn clyfar i gynorthwyo cleifion COPD i nodi a graddio lliw sbwtwm ochr yn ochr â’u cynllun hunan-reoli.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus maes o law i drafod y camau nesaf i ddarparu cymorth wedi’i deilwra a fydd yn cynorthwyo i ddatblygu’r syniad arloesol hyd at ei fabwysiadu.  Gallai hyn gynnwys cymorth hwyluso drwy reoli prosiect, gwybodaeth am y sector, creu partneriaethau, cymorth gyda cheisiadau am gyllid a/neu ddatblygu achos busnes.

Byddwn yn cysylltu hefyd â phob un o’r ymgeiswyr eraill i nodi gwasanaethau eraill y gallem eu darparu neu fel arall, eu rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau cymorth busnes perthnasol eraill.

Dywedodd Hannah Crocker, Arweinydd Prosiect yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r Her Meddygaeth Fanwl ac ymgysylltu â rhanddeiliaid o’r cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol a gwyddonol amrywiol.  Oherwydd bod arloesedd yn deillio o gydweithio, mae dod â phobl at ei gilydd mewn digwyddiadau fel y rhain yn allweddol er mwyn datblygu maes meddygaeth fanwl, a chreu budd gwirioneddol i anghenion cleifion nad ydynt yn cael eu diwallu.  Edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu’r perthnasau a grëwyd gan yr her hon a helpu i ddatblygu’r datrysiadau a nodwyd."

I ganfod sut y gall ein sefydliad eich cynorthwyo chi i ddatblygu eich prosiect meddygaeth fanwl drwy fabwysiadu, cwblhewch ein Ffurflen Ymholiad Arloesi.