Rydym yn falch o greu partneriaeth â The New Scientist a healthawareness.co.uk fel rhan o’u hymgyrch genedlaethol ‘Arloesi mewn Gofal Canser’.
Mae ein Prif Weithredwr, Cari-Anne Quinn, wedi ysgrifennu colofn fel rhan o’r ymgyrch sy’n canolbwyntio ar ofal canser yng Nghymru, y datblygiadau, a’r uchelgais i wella cyfraddau goroesi ar draws y wlad.
Dywed Cari-Anne: “Rydyn ni’n chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyda’r cynllun Mynd i’r Afael â Chanser. Y bwriad yw meithrin cydweithio rhwng diwydiant, gofal iechyd, y byd academaidd ac elusennau i gyflymu’r broses o gyflwyno atebion arloesol ar gyfer gofal canser. Mae Cymru yn ceisio cyd-ddatblygu a mabwysiadu’n gyflym. Ymunwch â ni yn y frwydr yn erbyn canser.”
Darllenwch yr erthygl yn llawn: www.healthawareness.co.uk/oncology/wales-cancer-care-plan-for-prevention-detection-and-personalised-treatment/?utm_source=lifesciencehubwales-distro&utm_medium=client