Trydydd parti

Mae EPCR yn hynod falch i gyhoeddi cydweithio ffurfiol gyda Craig Maxwell a Chronfa Genomig Teulu Maxwell ar gyfer yr Her Rwyfo arbennig hon ar gyfer penwythnos arbennig y 30ain Rownd Derfynol Fawr. 

The rowing boat used in the challenge on water

Bydd yr her yn digwydd ym mis Mai 2025 a bydd y siwrnai rwyfo 72 milltir o hyd yn dechrau yn Ninbych-y-Pysgod ac yn dod i ben yng Stadiwm Principality ar gyfer cic gyntaf Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Investec.

Nod uchelgeisiol yr her yw codi £250,000 ar gyfer yr ymchwil allweddol hwn i ganser.

Mae’r her hon wedi cael ei henwi’n “TenCar” gan i Craig Maxwell gwblhau her “CarTen” yn 2024.

Bryd hynny marchogaeth beic o Gaerdydd i Ddinbych-y-Pysgod wnaeth Craig Maxwell – cyfanswm o 100 milltir – wedi iddo dderbyn y newyddion yn 2022 ei fod yn dioddef o ganser yr ysgyfaint (lefel 4) a chanser mer yr esgyrn yn ogystal.

Wrth wneud y siwrnai o’r gorllewin i’r dwyrain y tro hwn bydd Craig Maxwell yn rhwyfo ar hyd arfordir godidog Cymru:

  • Dros gyfnod o bum niwrnod bydd Craig Maxwell a’i dîm yn rhwyfo 72 milltir er mwyn cyflwyno’r bêl swyddogol ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Investec yn Stadiwm Principality.
  • Mae targed o £250,000 wedi ei osod er mwyn cynorthwyo QuicDNA Max, ar gyfer ymchwil canser gan ychwanegu at yr £1.6 miliwn sydd eisoes wedi ei godi gan y Teulu Maxwell
  • Bydd EPCR, sy’n gyfrifol am Rowndiau Terfynol Cwpan Pencampwyr Investec a Chwpan Her Investec yn cynnig croeso ffurfiol a chefnogaeth i’r teulu, eu cefnogwyr a’u gwirfoddolwyr dros gyfnod penwythnos y ddwy ffeinal fawr. 

Siwrnai Anhygoel a Di-ildio Craig Maxwell

Bydd yr antur hon yn dechrau ddydd Llun y 19eg o fis Mai pan fydd Craig Maxwell yn gadael Clwb Rygbi Harlequins Doc Penfro – sef ei glwb rygbi cyntaf. Oddi yno, bydd yn marchogaeth ei feic i Ddinbych-y-Pysgod pan fydd yn mentro i’r dŵr, cyn rhwyfo i gyfeiriad Caerdydd – er mwyn sicrhau bod y bêl swyddogol ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Investec yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer y Ffeinal Fawr ar y 24ain o Fai. Mae’r lleoliad yn hynod addas ac arwyddocaol wrth gwrs gan mai yng nghalon Caerdydd y cynhaliwyd Rownd Derfynol gyntaf erioed y gystadleuaeth 30 mlynedd yn ôl.

Yn ogystal, bu Craig Maxwell yn gweithio yn Stadiwm Principality am dros 15 mlynedd – ac yn ystod y cyfnod hwnnw y gwnaeth gyfarfod Tracey ei wraig hyfryd.

Yn ystod yr her arbennig hon dros gyfnod o bum niwrnod, bydd gwahanol rwyfwyr yn ymuno gyda Craig Maxwell ar wahanol gymalau o’r daith. Er mwyn cyrraedd Caerdydd ar amser bydd yn rhaid rhwyfo am 17 milltir morol ar bob diwrnod o’r daith fel bod y bêl ar gyfer y Rownd Derfynol rhwng Northampton ac Union Bordeaux-Bègles yn cyrraedd ar amser. 

Gan bod Craig yn derbyn triniaeth chemotherapy bob tair wythnos, bydd rhwyfo am chwe awr bob dydd yn her a hanner. Mae cyn-chwaraewr Cymru Rhys Williams wedi addo cwblhau’r holl daith gyda Craig Maxwell, gan sefyll yn y bwlch i arwain y daith os oes angen gwneud hynny.

Bydd wynebau cyfarwydd eraill gan gynnwys Lee Byrne, Liam Reardon (Love Island) a Gethin Jones (One Show) hefyd yn cymryd rhan yn yr her.

Wrth gyrraedd Caerdydd, bydd y bêl yn cael ei chyflwyno i glaf sy’n derbyn triniaeth gan Wasanaethau Canser Felindre – fel y byddant yn gallu mynd â hi i Stadiwm Principality ar gyfer y gic gyntaf – yn union fel y gwnaeth Craig Maxwell a’i deulu yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd. Cyfle unigryw i berson arall a’u teulu i brofi’r wefr o gerdded i’r maes i gyflwyno’r bêl swyddogol ar gyfer gêm enfawr arall yn Stadiwm Principality.

Y Daith

19 Mai – Doc Penfro i Ddinbych-y-Pysgod (ar gefn beic)
20 Mai – Rhwyfo: Ddinbych-y-Pysgod i Borth Tywyn (19 milltir forol)
21 Mai Rhwyfo: Borth Tywyn i Abertawe (18 milltir forol)
22 Mai Rhwyfo: Abertawe i Borthcawl (15 milltir forol)
23 Mai – Rhwyfo: Borthcawl i’r Barri (18 milltir forol)
24 Mai – Rhwyfo: Y Barri i Stadiwm Principality

Codi Arian ar gyfer QuicDNA Max – (Ymchwil Canser) 

Bwriad Craig Maxwell yn ystod yr her hon yw codi £250,000 ar gyfer ymchwil penodol ar gyfer gwahanol diwmorau dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r Teulu Maxwell eisoes wedi codi £1.6 miliwn a thrwy eu hymdrechion mae technoleg biopsy hylifol QuicDNA yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion o Fôn i Fynwy. Gobaith Craig Maxwell yw gwella sefyllfaoedd dioddefwyr canser. Y nod yn y pendraw wrth gwrs fydd ehangu’r ddarpariaeth yma ymhellach er mwyn ceisio achub bywydau dioddefwyr gwahannol fathau o ganser.

Hanes Heriol ond Arwrol Craig Maxwell

Ac yntau ond yn 40 oed, dysgodd Craig Maxwell fod ganddo fath prin iawn o ganser yn ei ysgyfaint – oedd hefyd wedi treiddio i’w esgyrn. Doedd dim gwella i fod – newyddion fyddai’n newid bywydau Craig, ei wraig Tracey a’i blant Isla a Zach am byth.

Yn hytrach na dim ond derbyn ei dynged – fe benderfynodd Tracey a Craig i ganolbwyntio’n llwyr er mwyn gwella’r ddarpariaeth canser ar gyfer dioddefwyr a chleifion yma yng Nghymru - trwy godi arian sylweddol ar gyfer ymchwil a systemau adnabod cynnar.

Sut y gallwch chi helpu? 

Mae ymdrechion arwrol Craig Maxwell a’r her ddiweddaraf hon o rwyfo o Ddinbych-y-Pysgod i Gaerdydd wedi derbyn cefnogaeth aruthrol. Amlygwyd hynny wrth i Gadeirydd EPCR Dominic McKay gerdded gydag ef drwy strydoedd Caerdydd ar yr her ddiwethaf a chyfrannu’n sylweddol at yr achos hefyd.

Nid oes angen i chi rwyfo gyda Craig Maxwell y tro hwn er mwyn cefnogi ei ymdrechion arwrol.

Yn hytrach - gallwch:

-  Rhannu hanes her Craig Maxwell ar y Cyfryngau Cymdeithasol ac o fewn eich cymunedau lleol hefyd.

- Cyfrannu: Mae pob cyfraniad – boed hynny’n fawr neu fach – yn help mawr wrth ymchwilio i ganser.

- Cynnal digwyddiad codi arian. Gallwch wneud hynny gyda theulu a ffrindiau yn ystod cyfnod yr her rwyfo.

- Noddwch y digwyddiad yn swyddogol trwy gysylltu â Kylie.McKee@wales.nhs.uk

Gall eich cefnogaeth ymarferol arwain at adnabod symptomau canser yn gynnar, gwella’r ddarpariaeth sydd ar gael a chynnig gobaith i deuluoedd ledled ein gwlad.

Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cyfraniad, ewch i wefan Maxwell Family Genomics Fund.