Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi amlinellu cynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru yn arloeswr o ran y defnydd diogel a moesegol o ddeallusrwydd artiffisial.
Wrth siarad yn y Gynhadledd Edrych yn Fanylach yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd yr wythnos hon, gwnaeth Sarah Murphy dynnu sylw at yr effaith y mae deallusrwydd artiffisial eisoes yn ei chael ym maes gofal iechyd yng Nghymru, gan nodi'r modd y caiff ei ddefnyddio i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus a helpu i annog twf economaidd.
Ledled y GIG yng Nghymru, mae gwneud diagnosis gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn helpu i nodi ystod o gyflyrau yn gyflymach, gan gynnwys strôc, canser y prostad a chanser y fron.
Dyma'r gynhadledd gyntaf o'i math yng Nghymru, gan ddod â'r sector cyhoeddus, arweinwyr yn y diwydiant, ymarferwyr ac arbenigwyr yn y maes at ei gilydd, a hynny i geisio sicrhau bod y sector yn archwilio’r defnydd diogel, moesegol a chyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ystod y gynhadledd, cafwyd arddangosfeydd a oedd yn cynnwys offer dadansoddeg uwch sy'n helpu i wneud penderfyniadau clinigol, offer fideo sy'n recordio ac yn dadansoddi llawdriniaethau, offer deallusrwydd artiffisial sy'n helpu i wneud diagnosis o ganser y croen, yn ogystal â chymorth cyfrifiadurol i werthuso sganiau pelydr-x a sganiau CT.
Dywedodd Sarah Murphy:
Chwaraeodd Cymru rhan ganolog o ran llywio'r chwyldro diwydiannol diwethaf, ac rydyn ni'n benderfynol o chwarae rhan yr un mor bwysig yn yr un yma hefyd.
Mae ein sector technoleg sy'n tyfu, sefydliadau academaidd cadarn ac ymrwymiad i sicrhau economi werdd yn golygu ein bod mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud hynny.
Gwnaeth ei phrif araith dynnu sylw at fuddsoddiadau sylweddol yn seilwaith deallusrwydd artiffisial Cymru, gan gynnwys datblygu canolfan ddata yng Nghasnewydd a'r Ganolfan Hartree ym Mhrifysgol Caerdydd, a fydd yn cynorthwyo busnesau bach a chanolig sydd â gallu o ran deallusrwydd artiffisial.
Law yn llaw â gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r Cynllun Gweithredu ar Gyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial, disgwylir i'r datblygiadau hyn greu miloedd o swyddi newydd ar draws y sector.
Gwnaeth y Gweinidog bwysleisio y byddai rhoi deallusrwydd artiffisial ar waith yn dilyn 'ffordd Cymru' o ran partneriaeth gymdeithasol, gan sicrhau bod gweithwyr a chyflogwyr yn elwa ar ddatblygiadau technolegol. Pwysleisiodd hefyd y byddai’n cael ei ddefnyddio mewn modd teg a thryloyw.
Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau pobl nad yw deallusrwydd artiffisial yn cymryd lle eu swyddi, ond yn hytrach ei fod yn adnodd sydd wedi'i gynllunio i gynnal ac ychwanegu at eu rolau," ychwanegodd.
Drwy gydnabod pryderon yn agored ac ymrwymo i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn modd tryloyw, moesegol a chyfrifol, gallwn fagu hyder y cyhoedd yn y technolegau newydd hyn, ac yn bwysicaf oll, gallwn ddechrau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Gwnaeth y Gweinidog hefyd bwysleisio'r angen am gydweithrediad parhaus rhwng y llywodraeth, partneriaid yn y diwydiant a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn parhau i fod yn rym er daioni yng nghymdeithas Cymru. Trefnwyd y gynhadledd mewn cydweithrediad â'r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Darganfyddwch mwy am Gomisiwn Deallusrwydd Artiffisial Iechyd a Gofal Cymdeithasol.