Mae ap newydd sy'n helpu I ferched a dynion gwblhau ymarferion ffisiotherapi hanfodol ar ôl llawdriniaeth ar y frest neu'r gesail yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i'w hadferiaid llwyddiannus.

BAPS

Mae’r ap cost-isel hefyd yn arwain at gynnydd mewn effeithlonrwydd gan arbed miloedd o bunnoedd i un ganolfan arbenigol triniaeth cancr yng Nghaerdydd. Mae cynlluniau nawr ar y gweill i annog defnydd ehangach o’r ap ymysg ffisiotherapyddion sy’n gweithio ym mhob maes iechyd yn y GIG yng Nghymru, a gall hyn greu arbedion sylweddol iawn.

Datblygwyd yr ap Cefnogaeth Ôl-Llawdriniaeth Brest Cesail y llynedd ar ôl yr Hac Iechyd Cymraeg, digwyddiad blynyddol trefnwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Comisiwn Bevan a phartneriaid, ble mae gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn ymuno a chwmnïau digidol, technoleg a data er mwyn trafod syniadau ar sut gall technoleg ddatrys ystod o heriau a wynebwyd yn y Gwasanaeth Iechyd.

Clodforwyd llwyddiant yr ap wrth i Hac Iechyd eleni gychwyn yng Nghaerdydd ar Mai 23 a 24. Mae heriau’r flwyddyn hon yn cynnwys sut i helpu pobl i baratoi ar gyfer laryngectomi, sut i amlygu dangosyddion cynnar straen ymysg staff GIC, a sut gellid defnyddio Realiti Rhithwir fel dull addysgu arloesol.

Cyflwynwyd yr heriau i oddeutu 100 cyfranogwr Hac ar y diwrnod cyntaf. Yna cefnogwyd timau bach, traws-swyddogaethol i ffurfio a chydweithio er mwyn creu atebion, syniad ar gyfer cynnyrch neu brototeip. Y diwrnod canlynol, bydd y timau’n cyflwyno’u hymatebion i banel o arbenigwyr o’r Comisiwn Bevan, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Llywodraeth Cymru, GIC Cymru a diwydiant. Bydd prosiectau addawol yn cael eu gwahodd i gyflwyno er mwyn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth gyfredol gan y Comisiwn Bevan.

Yn y modd yma cychwynnodd yr ap Cefnogaeth Ôl-Llawdriniaeth Brest Cesail fywyd pan heriodd llawfeddyg brest o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a ffisiotherapyddion arbenigol o Ganolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd herio Hac llynedd i ddod o hyd i ffordd o helpu cleifion oedd yn methu a gwneud ymarferion ffisiotherapi hanfodol ar ôl eu llawdriniaeth.

Heb yr hyblygrwydd angenrheidiol yn eu symudiadau braich, roeddent fethu a chyflawni’r safle braich ar gyfer radiotherapi gan achosi oedi yn eu triniaeth. Byddai yna raid eu cyfeirio ar frys ar gyfer ffisiotherapi dwys, gan achosi trallod iddynt ac oedi yn eu gofal dilyniant. Roedd costau sganio radiotherapi a thriniaeth yn fwy na dyblu fesul claf fel canlyniad.

Yn ystod yr Hac awgrymodd y cwmni Rescape Innovation Cyf o Gaerdydd datblygu ap defnyddiwr-gyfeillgar y gall cleifion ei lwytho i lawr i’w ffôn. Buasai’n esbonio’r ymarferion gan ddefnyddio geiriau a fideos, yn gyrru hysbysiadau i atgoffa cleifion i wneud yr ymarferion ac yn eu cymell gyda system wobrwyo.

Dywedodd Kate Baker, Dirprwy Bennaeth Therapioedd Macmillan a Ffisiotherapydd Arweinydd Clinigol yng Nghanolfan Canser Felindre ers dechrau defnyddio’r ap yn Ionawr, nid oedd yr uned wedi gorfod trefnu unrhyw ffisiotherapi brys i gleifion.

“Mae llwyddiant yr ap yn golygu nid yn unig nad oes raid i’r uned ysgwyddo’r gost o ffisiotherapi ychwanegol ac ail-wneud sganiau cynllunio radiotherapi, ond mae’r canlyniad iechyd i’r claf yn lawer gwell oherwydd mae’r broses yn llai ingol,” meddai.

“Rydym ar hyn o bryd mewn cysylltiad â’r Rhwydwaith Ganser Cymru Gyfan sy’n awyddus i weld yr ap yn cael ei ddefnyddio’n ehangach ymysg ffisiotherapyddion sy’n gweithio ym maes gofal cancr, a gyda’r potensial ar gyfer ffisiotherapyddion mewn rhannau arall o’r GIC i ymgymryd â fersiwn ohono hefyd, mae’r cyfleoedd ar gyfer gofal iechyd gwell ac arbedion cost yn enfawr.”

Dywedodd Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cari-Anne Quinn ei bod yn gyffrous i weld beth fyddai’n dod o Hac y llynedd.

“Mae’r Hac yn ymgorffori beth yn union mae’r Hwb a phartneriaid eraill yn ei gylch - actio fel catalydd i ddod ag ystod o gyfranogwyr ynghyd i archwilio beth gall y technolegau diweddaraf wneud ar gyfer gofal iechyd. Mae llwyddiant yr ap Cefnogaeth Ôl-Llawdriniaeth Brest Cesail wedi gosod safon uchel, ac rwyf fethu aros i weld beth ddaw o Hac Iechyd eleni.”