Mae cynllun peilot chwe mis ar y gweill i ddefnyddio monitro o bell ar gyfer cleifion iechyd meddwl ar draws dau gartref gofal yn Abertawe, Hengoed Park a Hengoed Court.

A photo

Cyflwynir y rhaglen fonitro o bell gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a bydd yn cael ei defnyddio drwy lwyfan iechyd digidol CliniTouch Vie cwmni Spirit Health. Mae llwyfan monitro o bell CliniTouch Vie yn galluogi timau clinigol a chlinigwyr i ddarparu gofal o bell i gleifion.

Mae sylwi ar ddirywiad yn iechyd meddwl cleifion eisoes yn wasanaeth hanfodol a ddarperir gan gartrefi gofal. Ond mae arbenigwyr o’r farn bod ategu’r gofal hwn drwy arsylwi ychwanegol o bell yn cynnig potensial gwerthfawr i gynyddu gallu monitro a hyrwyddo annibyniaeth a llesiant cleifion.

Mae CliniTouch Vie yn galluogi staff cartrefi gofal i gofnodi ymatebion preswylwyr i gwestiynau parod drwy’r llwyfan digidol. Mae’r wybodaeth, ynghyd â darlleniadau arwyddion hanfodol gan gleifion, wedyn ar gael i’r clinigwyr yn y tîm nyrsio mewngymorth, sy’n gyfrifol am fonitro’r cartref gofal. Gan hynny, gellir adolygu cleifion o bell drwy system goleuadau traffig blaenoriaethu monitro. Gellir cynnal dulliau ymyrryd fel ymgynghoriadau ac adolygiadau o feddyginiaethau yn syth, heb orfod ymweld â’r cartref gofal.

Roedd y cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Spirit Health yn hanfodol i ddatblygu’r set cwestiynau ar gyfer cleifion yn y cynllun peilot cyntaf o’i fath hwn ar gyfer Cymru. Drwy ddiffinio’r llwyfan ar gyfer defnydd penodol mewn bwrdd iechyd yng Nghymru ar gyfer monitro iechyd meddwl, y gobaith yw y gallai’r cynllun peilot ddangos effeithiolrwydd i’w fabwysiadu ymhellach ledled Cymru.

Bydd y cynllun peilot yn ceisio treialu sampl o 70 o gleifion o bob rhan o ddau gartref gofal Hengoed.

Dywedodd Dawn Griffith o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Mae gan y cynllun peilot hwn y potensial i wella’r cymorth y gallwn ei gynnig i iechyd meddwl a llesiant ein cleifion. Mae monitro ein cleifion yn ofalus yn rhywbeth y mae ein timau mewnol eisoes yn ei wneud, ond drwy ddigideiddio’r gwaith monitro mae’n ein galluogi i ganfod anghenion cleifion mewn ffordd fwy effeithlon er mwyn gallu rhoi’r gofal gorau i bob unigolyn. Mae’r manteision rydyn ni’n gobeithio eu gweld o hyn yn cynnwys monitro mwy rheolaidd ac effeithlon, atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, a gallu tynnu sylw at broblemau posibl yn gynharach.”

Mae’r cynllun peilot yn un o nifer o dechnolegau monitro o bell sydd i’w cyllido fel rhan o Gronfa Atebion Digidol Covid-19 Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gefnogi gan dimau o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy Ecosystem Iechyd Digidol Cymru. Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn cysylltu’r diwydiant, clinigwyr, llunwyr polisïau, academyddion, arloeswyr a chyllidwyr er mwyn creu amgylchedd arloesi digidol yn y maes gofal iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Delyth James, Arweinydd Rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru:

Mae cynorthwyo preswylwyr mewn cartrefi gofal gyda’u hiechyd meddwl yn broses hanfodol, ond yn un sy'n gymhleth yn aml. Mae’r prosiect hwn yn gweithio i symleiddio’r broses o ddarparu cymorth iechyd meddwl i breswylwyr cartrefi gofal, gan sicrhau bod safon y gofal yn aros ar yr un lefel uchel. Drwy ddefnyddio technoleg ddigidol o bell, bydd y fenter hon nid yn unig yn cefnogi gofal holistaidd ond bydd hefyd yn helpu i nodi yn fwy effeithlon y cleifion sydd â chyflyrau iechyd meddwl sy’n gwaethygu.

Mae llwyfan CliniTouch Vie cwmni Spirit Health yn galluogi timau clinigol a chlinigwyr i ddarparu gofal o bell i gleifion.

Dywedodd Dr Noel O’Kelly, Cyfarwyddwr Clinigol Spirit Health:

Yn Spirit Health, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ehangu ein llwybrau technoleg i faes newydd, gyda llwybr iechyd meddwl clinigol i helpu cartrefi gofal. Rydyn ni’n falch o chwarae ein rhan a chyflwyno ein hateb digidol, CliniTouch Vie, i helpu cleifion sydd â phroblemau iechyd meddwl a rhoi iddynt y cymorth a’r ymyriadau sydd eu hangen arnynt, gan leihau’r pwysau ar y system iechyd ar yr un pryd.