Trydydd parti

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor ar gyfer Gwobrau Arloesi blynyddol MediWales, sy’n cael eu cynnal am y 19fed gwaith eleni. 

A person celebrating at an awards ceremony

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor ar gyfer Gwobrau Arloesi blynyddol MediWales, sy’n cael eu cynnal am y 19fed gwaith eleni. Dyma ddigwyddiad nodedig sy’n dathlu’r goreuon ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac arloesi yn y diwydiant ym mhob cwr o Gymru. 

Bydd y seremoni wobrwyo, a gynhelir ar 5 Rhagfyr 2024, yn cydnabod cyfraniadau arloesol sefydliadau sy’n sbarduno atebion gofal iechyd ac yn gwella llesiant yng Nghymru. 

Caiff y Gwobrau Arloesi eu rhannu’n ddau gategori:

Gwobrau’r Diwydiant

  • Arloesedd
  • Egin fusnes
  • Partneriaeth â'r GIG
  • Allforio
  • Cyflawniad Eithriadol

Mae gwobrau’r diwydiant ar agor i gwmnïau o Gymru, neu gwmnïau sydd ag ôl troed sylweddol yng Nghymru. 

Gwobrau Iechyd

  • GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant
  • Technoleg ac Effaith Ddigidol
  • Cyflymu Arloesedd a Thrawsnewid
  • Arloesi drwy Gydweithio mewn Gofal Cymdeithasol 
  • Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Diwydiant

Mae’r gwobrau iechyd ar agor i fyrddau iechyd Cymru neu gwmnïau sy’n gweithio ar y cyd â bwrdd iechyd. Rhaid i bob cais ar gyfer y Gwobrau Iechyd ddod gan y gweithwyr iechyd proffesiynol, y clinigwyr neu’r bwrdd iechyd y mae’r cwmni wedi cydweithio â nhw. 

Oes gennych chi ddatblygiad arloesol sy’n haeddu cydnabyddiaeth? Os ydych chi neu’ch sefydliad yn bodloni’r meini prawf hyn a bod gennych ddatblygiad arloesol sy’n haeddu cydnabyddiaeth, dyma eich cyfle i wneud cais. 

Dyddiadau Pwysig:

  • Cyfnod ymgeisio yn agor – dydd Mercher, 4 Medi 2024. 
  • Cyfnod ymgeisio yn cau – dydd Gwener, 11 Hydref 2024. 

I wneud cais, cysylltwch â Bethan Davies a nodi pa ffurflen gais sydd ei hangen arnoch. I gael rhagor o wybodaeth ac i lwytho ffurflenni cais i lawr, ewch i wefan MediWales yma