Zimmer Biomet
Yn y bennod hon, mae’r gyfres podlediad Healthy Thinking yn ymweld â Zimmer Biomet, un o weithgynhyrchwyr mwyaf blaenllaw y byd ar fewnblaniadau meddygol. Gyda bron i 200,000 o lawdriniaethau ar gluniau a phengliniau wedi cael eu gwneud yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ystod 2017, mae’n faes enfawr o ran galw. Mae’r cluniau a’r pengliniau i gyd yn cael eu cynhyrchu yng ngwaith y cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei ail safle mwyaf yn Ewrop, ac maent yn cael eu hallforio wedyn i bob cwr o’r byd.
Ond mae’r cwmni yn mynd llawer ymhellach, gan gydweithio â thimau orthopedig mewn ysbytai i wella profiad y cleifion yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty ac i helpu i leihau costau.
“Rydyn ni’n gwybod bod y prosesau hynny'n gallu bod yn aneffeithlon iawn,” meddai Ruth Griffiths, sy’n arwain Adran Zimmer Biomet Connect y cwmni. “Llefydd y dylech chi ddod iddyn nhw pan mae’n rhaid i chi wneud hynny ddylai ysbytai fod. Rydw i’n meddwl y bydd unrhyw raglen optimeiddio llwybr yn arwain at fudd sylweddol a fydd o gymorth i ysbytai allu darparu gofal yn y gymuned ehangach, gan leihau eu rhestri aros a lleihau'r gost y pen i bob claf.”
“Gall cydweithredu rhwng diwydiant a darparwyr gofal iechyd wneud byd o wahaniaeth,” meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n cyflwyno'r bennod hon. “Gall olygu bod Byrddau Iechyd yn gallu cyflawni mwy gyda llai i wella ansawdd y gofal i gleifion Cymru”.
Podlediad Cymraeg
Yn y chwaer bodlediad Cymraeg, Syniadau Iach, mae Dafydd Loughran, clinigydd ac entrepreneur sydd wedi sylfaenu cwmni Concentric yng Nghaerdydd, yn trafod sut mae’r ecosystem iechyd digidol yng Nghymru mewn sefyllfa dda iawn i greu materion iechyd arloesol. Gwrandewch ar y bennod lawn heddiw.