Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld canlyniadau anhygoel wrth gefnogi pum prosiect trawsnewidiol yn ein GIG ac awdurdodau lleol.
Mae’r pum stori ysbrydoledig hyn yn dangos sut mae Cymru yn lle o ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn dangos sut gall hyn wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywydau’r bobl sy’n byw yma ac i economi ein cenedl.
Ar hyn o bryd mae ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau nas gwelwyd o’r blaen. Mae ôl-groniad cynyddol o restrau aros a gofal, pwysau ariannol sylweddol a’n poblogaeth sy’n heneiddio i gyd yn cyfrannu.
Mae pob stori’n tynnu sylw at sut mae arloesi yn helpu iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i’r afael â’r materion hyn – gan arfogi staff, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ag offer amhrisiadwy sy’n gwella canlyniadau, yn gwneud gwasanaethau’n fwy effeithlon ac yn hybu twf economaidd.
Gwella canlyniadau i gleifion canser
Mae Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Llawdriniaethau â Chymorth Robot yn chwyldroi mynediad at lawdriniaethau arloesol â chymorth robot i gleifion canser ledled Cymru. Mae’r llawdriniaeth hon yn creu clwyfau llai a mwy manwl, gan leihau faint o amser mae’n ei gymryd i wella yn yr ysbyty.
Cyn hyn roedd yn rhaid i gleifion yng Nghymru deithio’n bell i gael llawdriniaeth â chymorth robot. Nawr, mae GIG Cymru wedi ffurfio partneriaeth â CMR Surgical – a ddarganfuwyd drwy ddulliau cadarn i sganio’r gorwel – er mwyn cyflwyno cyfarpar a hyfforddiant i arbenigeddau a lleoliadau newydd.
Rydym wedi cefnogi'r rhaglen o'r cychwyn cyntaf, gan ddatblygu'r Achos Cyfiawnhad Busnes Cenedlaethol a helpodd i sicrhau cymeradwyaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, mae’r rhaglen wedi tyfu’n sylweddol. Erbyn mis Ebrill 2023, roedd wyth tîm roboteg newydd wedi'u sefydlu ar draws dau Fwrdd Iechyd, gan ddod â chyfleoedd hyfforddi a recriwtio newydd i Gymru. Cafodd dros 100 o achosion roboteg eu cwblhau’n llwyddiannus hefyd. Ac erbyn mis Tachwedd 2023, roedd y rhaglen wedi hyfforddi deg tîm ac wedi cwblhau dros 200 o achosion roboteg llwyddiannus.
Darllenwch yr astudiaeth achos yn llawn i gael gwybod mwy.
Cyflwyno technoleg rheoli poen arloesol i wasanaethau gofal cymdeithasol
Daethom â thechnoleg asesu poen arloesol ar sail deallusrwydd artiffisial i faes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Her fawr ym maes gofal cymdeithasol yw asesu anghenion lleddfu poen preswylwyr sy'n methu cyfathrebu fel pobl â dementia ac anawsterau dysgu.
Mae PainChek, ap asesu poen ar sail deallusrwydd artiffisial, yn sganio symudiadau’r wyneb i asesu lefel poen rhywun. Gan gydnabod potensial y dechnoleg hon ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, dechreuodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru brosiect gwerthuso 12 mis gyda Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent. Cofrestrodd bron i draean o’r holl gartrefi gofal yng Ngwent i gymryd rhan, gydag oddeutu 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal yn elwa.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth bresennol, mae tîm y prosiect yn disgwyl gweld manteision eang, gan gynnwys lleihau’r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig, gwell defnydd o ddulliau lleddfu poen (gan arwain at lai o gwympiadau, bwyta ac yfed bwyd a hylifau’n well ynghyd â gwelliannau mewn cyflyrau eraill), a mwy o ddiogelwch a bodlonrwydd ymysg gofalwyr a phreswylwyr. Wrth aros am ganlyniadau’r gwerthusiad, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru eisoes yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch rhoi’r adnodd ar waith ledled y wlad.
Darllenwch yr astudiaeth achos yn llawn i gael gwybod mwy.
Treialu dyfeisiau rheoli meddyginiaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Rydym yn rheoli prosiect gwerthuso dyfais feddyginiaeth a allai drawsnewid sut y gall pobl yng Nghymru aros yn annibynnol, a hynny ar gyfer cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r cynnydd mewn anghenion o ran meddyginiaeth yn her sylweddol. I unrhyw un sy’n awyddus i aros yn annibynnol, mae rheoli meddyginiaeth yn hanfodol. Ond amcangyfrifir nad yw hyd at 50% o feddyginiaethau presgripsiwn yn cael eu cymryd fel eu bwriadwyd.
Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau fferyllol a theleofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr i werthuso’r defnydd o ddyfais arloesol sy’n helpu pobl i gofio cymryd eu meddyginiaeth. Golygai hyn fod y tîm teleofal yn gallu cynnig mwy o gymorth pan fo angen.
Mae YOURmeds yn ddyfais ddigidol sy’n atgoffa defnyddwyr pryd i gymryd meddyginiaeth a gall anfon negeseuon at aelodau o’r teulu neu wasanaethau gofal os bydd meddyginiaeth yn cael ei chymryd yn anghywir.
Bydd y prosiect gwerthuso hwn a ariennir drwy Dîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn edrych ar ganlyniadau a phrofiad gwell drwy lens gwerth ac yn llywio’r posibilrwydd o gyflwyno dyfeisiau i ranbarthau eraill yng Nghymru. Gallai hyn olygu bod mwy o bobl yn gallu byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, lleihau’r baich ar deuluoedd a’r gwasanaethau brys, a gwella gallu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymdeithasol i weithio gyda’i gilydd i wella’r cymorth a roddir.
Darllenwch yr astudiaeth achos yn llawn i gael gwybod mwy.
Treialu ysgogiad magnetig trawsgreuanol i helpu pobl ag iselder sy'n gwrthsefyll cyffuriau yng Nghymru
Credir bod tua 30% o bobl ag iselder difrifol yn parhau i gael symptomau er gwaethaf cyffuriau neu therapïau siarad. Gyda mwy a mwy o bobl yn wynebu problemau iechyd meddwl yng Nghymru, mae'n bwysig ein bod yn ymchwilio i opsiynau ar gyfer triniaethau eraill.
Mae ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS) yn driniaeth anymwthiol sy'n ysgogi rhannau o'r ymennydd sy'n rheoli hwyliau. Dangoswyd ei fod yn helpu rhai cleifion sydd ag iselder difrifol ac mae’n driniaeth sy'n llai ymwthiol a chostus na therapi electrogynhyrfol (ECT). Mae TMS yn cael ei ddefnyddio ledled y byd ond nid yw’n cael ei gynnig yng Nghymru ar hyn o bryd.
Buom yn cefnogi’r prosiect hwn i ddarparu treial o wasanaeth TMS yn Ysbyty Glangwili. Gan nodi potensial TMS i gael effaith wirioneddol ar rai cleifion lle’r oedd triniaethau eraill wedi methu, buom yn gweithio ochr yn ochr â darparwyr technoleg Magstim, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Sefydliad Tritech a Thechnoleg Iechyd Cymru i feithrin dealltwriaeth o’r dystiolaeth bresennol am y driniaeth hon ac asesu’r heriau a’r cyfleoedd o ran cynnig y gwasanaeth hwn yng Nghymru.
Yn dilyn treial llwyddiannus, mae achos busnes nawr yn cael ei ddatblygu o ran ei ddichonoldeb parhaol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’r potensial i’w fabwysiadu mewn byrddau iechyd eraill.
Darllenwch yr astudiaeth achos yn llawn i gael gwybod mwy.
Defnyddio technoleg er mwyn gofalu’n well am glwyfau yn y gymuned
Cefnogodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru brosiect i gyflwyno technoleg gofal clwyfau arloesol newydd yng Nghymru. Roedd ein gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno ap monitro o bell Healthy.io ymysg timau nyrsio ardal a thimau gofal clwyfau cymunedol, gan wella’r ffordd maen nhw’n rheoli clwyfau yn ystod ymweliadau â chartrefi ac apwyntiadau clinig.
Mae gofalu am glwyfau yn y gymuned yn gofyn am fewnbwn gan wahanol arbenigwyr gofal iechyd er mwyn atal heintiau ac annog gwella yn amserol. Mae hyn yn ddrud ac yn cymryd amser y GIG.
Mae’r dechnoleg newydd yn helpu clinigwyr i wneud penderfyniadau gofal gwell gyda chamera ffôn clyfar i ddadansoddi clwyfau’n gywir, gan gofnodi cynnydd gwella’n ddigidol i’w rannu â chydweithwyr am fewnbwn arbenigol heb fod angen apwyntiadau ychwanegol costus.
Mae arbedion amser ac effeithlonrwydd o’r ffordd newydd hon o weithio eisoes wedi galluogi’r clinig clwyfau i gynnig 1,872 o apwyntiadau ychwanegol y flwyddyn. Mae hefyd yn annog canfod clwyfau sy’n gwella’n araf yn gynnar a sicrhau bod cleifion yn cyfrannu mwy at eu gofal eu hunain.
Mae bron i 2,000 o gleifion wedi elwa’n barod. Mae llwyddiant y prosiect hefyd wedi arwain at waith ehangach i ddatblygu dull mwy cyson o reoli gofal clwyfau ledled Cymru.
Darllenwch yr astudiaeth achos yn llawn i gael gwybod mwy.
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydyn ni’n gwybod bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu cyfnod anhygoel o heriol ar hyn o bryd. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae arloesedd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r pwysau hyn a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl sy’n gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau yn rheng flaen maes iechyd a gofal cymdeithasol.
"Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o fod wedi cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau drwy ein gwasanaethau cymorth arloesi pwrpasol – boed hynny drwy reoli prosiectau, cefnogi achosion busnes neu sganio’r gorwel – ac edrychwn ymlaen at weld sut y bydd yn parhau i helpu i drawsnewid gofal.”
Pa un a ydych chi’n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu ddiwydiant, gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru eich helpu i wthio arloesedd i’r rheng flaen. Rhagor o wybodaeth am bwy ydym ni a beth y gallwn ei wneud i chi. Beth am weithio gyda’n gilydd i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.