- Mae clinigwyr yn monitro o bell arwyddion hanfodol cleifion sy’n dioddef o fethiant y galon yn y gymuned
- Cafodd 82% o achosion a atgyfeiriwyd eu canfod oherwydd bod clinigwyr wedi gweld data drwy ap
- O ganlyniad i’r dechnoleg, ni chafodd 10% o gleifion eu haildderbyn i’r ysbyty
- Roedd meddyginiaethau wedi’u hoptimeiddio mewn wythnosau yn hytrach na misoedd, gan wella canlyniadau cleifion (gostyngiad o 80% yn yr amser sydd ei angen i optimeiddio meddyginiaeth mewn un bwrdd iechyd)
Mae gwaith a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y cwmni iechyd digidol Huma a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cael cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau nodedig Diogelwch Cleifion HSJ am gydweithio ar draws sectorau gan ddefnyddio technoleg ddigidol i ofalu am gleifion y galon o bell.
Cafodd y prosiect monitro cleifion o bell y gydnabyddiaeth hon yng Ngwobr Menter Gofal Rhithiol neu o Bell y Flwyddyn neithiwr am leihau nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ac optimeiddio meddyginiaethau cleifion y galon yn gynt.
Mae angen monitro cleifion sydd â chlefyd y galon yn rheolaidd am arwyddion o fethiant y galon. Yn draddodiadol, mae cleifion yn cael eu gweld yn yr ysbyty, gan orfod dod i mewn pan fydd y symptomau’n gwaethygu neu fel rhan o apwyntiadau rheolaidd. Mae gwahanol feddyginiaethau sy’n gallu helpu, ond mae angen asesu’r math o feddyginiaeth sydd ei angen a’r dos cywir yn aml a gall gymryd misoedd lawer i setlo ar y feddyginiaeth orau i bob claf.
Mae’r dechnoleg monitro o bell yn cynnig ateb amgen, gyda chleifion yn defnyddio ap ffôn clyfar wedi’i greu gan Huma i gofrestru amrywiaeth o ddata’n gyflym, gan gynnwys pwysau gwaed, cyfradd curiad y galon a symptomau sy’n datblygu. Ar y pen arall, mae timau clinigol yn adolygu’r data gan ddefnyddio dangosfwrdd diogel ar-lein. Mae’r timau clinigol yn dewis trothwyon ar gyfer y canlyniadau, ac os bydd ymatebion claf yn mynd y tu hwnt i’r trothwyon, mae’r system yn rhoi gwybod i glinigwyr bod angen adolygu meddyginiaeth a thriniaeth y claf.
Canfu astudiaeth beilot o’r prosiect yn y ddau fwrdd iechyd yng Nghymru fod 82% o’r holl achosion a atgyfeiriwyd wedi’u codi oherwydd y data a gasglwyd yn ap Huma. Yn arwyddocaol, nid oedd y cleifion hyn wedi ceisio cysylltu â gwasanaethau gofal iechyd ac, mewn llwybrau gofal traddodiadol, efallai na fyddai’r achosion hyn wedi cael eu darganfod tan yr ymweliad nesaf i’r clinig neu yn achos argyfwng meddygol.
“Rydyn ni’n falch iawn o ennill canmoliaeth uchel am y wobr hon,” meddai Mandie Welch, cyd-arweinydd y gwaith a’r Ymarferydd Nyrsio Uwch Arweinydd Methiant y Galon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. “Mae’r ap monitro o bell wedi newid y ffordd rydyn ni’n darparu gofal methiant y galon yn sylweddol. Rydym wedi gallu darparu’r gofal gorau i gleifion yn gynt a lleihau apwyntiadau wyneb yn wyneb diangen. Hefyd, rydym wedi gallu gweld arwyddion cynnar o fethiant y galon. Gall y newidiadau hyn arwain at lai o dderbyniadau i’r ysbyty ac, yn bwysig iawn, gwella ansawdd bywyd cleifion.”
Dywedodd Vicki Jenkins, Ymarferydd Nyrsio Uwch Cardiograffeg a Cardiaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill cymeradwyaeth uchel. Rydym wedi rhoi ein holl enaid i’r gwaith hwn ac mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion. Mae wedi ein helpu i ddarganfod cleifion sy’n dirywio, addasu eu gofal a’u meddyginiaeth a’u hatal rhag mynd mor sâl fel bod angen iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty. Yn wir, mae 10% o gleifion wedi osgoi cael eu haildderbyn i’r ysbyty.”
Mae’r data diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hefyd yn dangos bod defnyddio’r dechnoleg wedi lleihau’r amser sydd ei angen i optimeiddio meddyginiaethau cleifion o >80%, gan gymryd chwech i wyth wythnos ar gyfartaledd yn hytrach na’r 6-8 mis traddodiadol.
“Rydw i wastad wedi teimlo fy mod yn cael gafael ar ofal da ar gyfer fy nghyflwr ar y galon, ond mae monitro o bell wedi newid fy mywyd go iawn,” meddai David Watkins [69], "sydd wedi byw gyda phroblemau cardiaidd ers blynyddoedd lawer ac wedi cael llawdriniaeth ddargyfeirio triphlyg ar y galon. Pan fyddwch chi’n byw gyda phroblemau cardiaidd, rydych chi bob amser yn cwestiynu sut rydych chi’n teimlo ac yn meddwl tybed ai’ch cyflwr neu'r feddyginiaeth sy’n gyfrifol am rywbeth rydych chi’n sylwi arno. Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r sicrwydd i chi eich bod yn cael eich monitro gan eich nyrs, ac mae’n eich helpu i asesu eich hun yn well. Gan eich bod yn cofnodi eich data’n rheolaidd.
“Un o’r pethau sydd wedi rhoi’r pleser mwyaf i mi erioed oedd chwarae’r drymiau – rydw i wedi chwarae drwy gydol fy mywyd i – ond rhoddodd fy iechyd derfyn ar hynny. Diolch i’r rhaglen, rydw i’n ddigon da i chwarae eto, ac mae hynny’n golygu’r byd i mi.”
Cafodd y gwaith ei ariannu fel rhan o Gronfa Atebion Digidol Covid-19 Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gefnogi gan dimau o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn:
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn falch o gefnogi’r gwaith hwn o’r dechrau i’r gydnabyddiaeth gyffrous hon gan Wobrau HSJ. Mae gan dechnoleg monitro o bell fel hyn y potensial i ddod â gofal yn nes at adref a gwneud gwasanaethau’n fwy effeithlon i gleifion a staff. Mae ein sefydliad bob amser yn ceisio cefnogi arloeswyr gydag atebion digidol newydd. I weld sut gallwn ni eich cefnogi chi, llenwch y Ffurflen Ymholiad Arloesi ar ein gwefan.”
“Mae ymateb clinigwyr a chleifion y GIG i dechnoleg Huma wedi bod yn anhygoel, ac mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth arall o’i llwyddiant,” meddai Dr Jonathan Gledhill, Pennaeth Gofal Iechyd yn Huma. “Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi gallu helpu i newid bywydau cleifion a gwybod bod y wardiau rhithwir hyn, gyda’n help ni, yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg nawr yn gwerthuso’r gwaith gan ddefnyddio ffocws Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth i edrych ar effaith technoleg monitro o bell ar brofiad cleifion, canlyniadau clinigol, amseroedd aros ac effeithlonrwydd costau. Yn ôl data a gasglwyd o’r cyfnod peilot tri mis, gallai monitro o bell symleiddio prosesau gofal ar gyfer cleifion y galon.
Dywedodd Dee Lowry, Pennaeth Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig â’n hymrwymiad i wella gofal a chanlyniadau i gleifion ar gyfer ein poblogaeth CTM trwy arloesedd digidol. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n defnyddio dull Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth i werthuso’r gwaith hwn a byddwn yn defnyddio ein canfyddiadau i lywio strategaeth wrth symud ymlaen.”
Mae Gwobrau HSJ, sydd bellach yn 43 oed, yn seremoni fawreddog sy’n dathlu llwyddiannau ar draws y sector gofal iechyd.
I ddysgu mwy am y prosiect hwn, gwyliwch ein Fideo Straeon Arloesi.