Ar ddydd Llun, 20 Ebrill 2020 yn ystod ein cyfarfod tîm ar-lein, cawsom gwestai arbennig yn ymuno gyda ni - Dr Jamie Roberts, seren rygbi rhyngwladol Cymru, a'r Cymrawd arloesi presennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Ar hyn o bryd, mae Dr Roberts yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r tîm arloesi yn ystod pandemig Coronavirus.
Yn ystod ein cyfarfod tîm ar-lein, gwrandawodd Dr Roberts ar y wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm am y ffordd y mae ein gwaith yn helpu i gefnogi GIG Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, gan gynnwys sut yr atebodd distyllfeydd Cymru yr alwad i helpu i ddarparu glanwaith llaw i GIG Cymru ble roedd angen enfawr.
Rhannodd Dr Roberts rai o'i brofiadau ei hun gyda'r tîm, o'r cae rygbi ac o reng flaen gofal iechyd. Mae'r cipolygon hyn hefyd yn cael eu rhannu ar ei flog dyddiol.
Roedd yn wych rhannu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda Dr Roberts, a sut rydyn ni'n gweithio gyda diwydiant i fynd i'r afael ag anghenion critigol GIG Cymru.
Wrth fyfyrio ar ein cyfarfod tîm, dywedodd:
"Er nad yw ar y rheng flaen fel y cyfryw, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gefnogi'r GIG yng Nghymru drwy helpu i wella canlyniadau i gleifion a chefnogi'r economi ... Bydd hyn yn eu gweld yn ymuno â'r ras fyd-eang wrth geisio gwneud yn union hynny, er ei fod yng nghysgod coronafeirws "
Wrth sôn am ein hamser gyda Dr Roberts dywedodd Chris Martin, is-gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
Roedd yn bleser go iawn ac yn hwb mawr i ysbryd ein tîm i gael Dr Jamie Roberts yn ymuno a’r cyfarfod. Gwych i weld y gwaith gwych sy'n cefnogi cydweithwyr ar draws GIG Cymru ar yr adeg anodd hon.
Beth nesaf?
Os hoffech ddarllen pob un o flogiau dyddiol Dr Roberts, gallwch ddod o hyd iddynt ar flog Doc Roberts.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn annog pob cwmni sydd â chynigion i helpu GIG Cymru i gyflwyno eu cynigion drwy'r Porthol arloesi.