Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio liposugno i drin lymffoedema cronig.
Mae lymffoedema yn gyflwr lle mae hylif yn cronni yn y breichiau a’r coesau ac yn achosi iddynt chwyddo. Fel arfer, mae'n effeithio ar y breichiau neu'r coesau ond mae'n gallu effeithio ar wal y frest, yr abdomen, y gwddf a'r wyneb hefyd.
Mae liposugno yn cael ei ddefnyddio yn draddodiadol i gael gwared ar fraster corff diangen. Cynigiwyd y gellir ei ddefnyddio i ddraenio hylif i drin lymffoedema.
Yn ôl canllaw Technoleg Iechyd Cymru, mae'r driniaeth yn addawol, fodd bynnag nid yw'r dystiolaeth bresennol yn cefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn yng Nghymru.
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymell yn gryf bod angen mwy o dystiolaeth ar effeithiolrwydd, ar brofiad cleifion ac ar ganlyniadau liposugno gan gleifion i drin lymffoedema cronig, yn enwedig mewn pobl sydd â lymffoedema yn eu coesau.