Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn un o brif noddwyr Cynhadledd ac Arddangosfa Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru eleni. Byddwn ni hefyd yn cynnal sesiwn grŵp i drafod sut y mae Cymru yn arloesi i drawsnewid gofal canser. 

A photo from Welsh NHS Confed 2024

Bydd Cynhadledd Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Tachwedd i ddod ag arweinwyr a thimau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd. Dyma gyfle gwych i glywed arweinwyr syniadau yn trafod y datblygiadau pwysig sy’n digwydd yn y maes hwn ac i rwydweithio a rhannu’r arferion gorau a’r gwersi a ddysgwyd.

Mynd i’r afael â chanser: arloesedd, gwybodaeth, a gweithredu yng Nghymru

Ar yr agenda eleni mae sgyrsiau a gweithdai rhyngweithiol. Byddwn ni hefyd yn cynnal sesiwn grŵp i drafod y rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser a sut y mae Cymru yn arloesi i drawsnewid gofal canser.

Bydd y sesiwn, a gynhelir rhwng 9:45am a 11:20am, yn tynnu sylw at sut y mae rhanddeiliaid o'r byd iechyd, y byd academaidd ac o’r diwydiant yn cydweithio er mwyn annog sefydliadau i ddefnyddio arloesedd i ddiwallu anghenion clinigol a gwella canlyniadau i bobl y mae canser yn effeithio arnynt yng Nghymru. Dyma gyfle i ddysgu am waith ymchwil a thechnolegau arloesol, galw clinigol a phartneriaethau traws-sector. 

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Rhodri Griffiths, ein Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd
  • Neil Mesher a Meinir Jones, ein Cyfarwyddwyr Anweithredol
  • Rachel Gemine, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwerthuso Tystiolaeth ac Effeithiolrwydd, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Dywedodd Rhodri Griffiths, y Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd:

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o noddi Cynhadledd Flynyddol Conffederasiwn y GIG, a byddwn ni’n cynnal sesiwn i rannu gwybodaeth am y rhaglen ‘Mynd i’r Afael â Chanser’. Mae gwella canlyniadau i gleifion canser yn un o’n prif flaenoriaethau. Ymunwch â ni i glywed am y partneriaethau sydd wedi cael eu creu rhwng darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau o’r diwydiant a’r byd academaidd, ac i ddysgu rhagor am y dull cenedlaethol i fabwysiadu arloesedd cenedlaethol sydd wedi’i ddatblygu i gyflymu arloesedd ym maes canser.”

Cofrestrwch nawr!

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac i gofrestru, ewch i wefan Conffederasiwn y GIG.