Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb misol o newyddion o dirwedd arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein Tîm Gwybodaeth am y Sector. Mae’n sbarduno ein huchelgais i godi Cymru fel lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Eleni, rydym ni wedi gweld cynlluniau Prifysgol Abertawe i ddatblygu’r "Labordy Byw" ymchwil ac arloesedd cyntaf yn y byd, lansio Gwasanaeth Ymgynghori newydd TrakCel, a phrosiect ymchwil newydd Prifysgol Caerdydd ar ddatblygiad ymennydd plant.
Prifysgol Abertawe i ddatblygu’r "Labordy Byw" ymchwil ac arloesedd cyntaf yn y byd
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael £1.5 miliwn i greu labordy byw sy’n defnyddio seilwaith 5G i wella iechyd a lles y boblogaeth. Bydd y labordy byw yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu technolegau newydd i gefnogi iechyd y boblogaeth, fel synwyryddion newydd sy’n gallu helpu i fonitro lles corfforol a meddyliol a gwella ansawdd bywyd.
Mae disgwyl i'r prosiect hwn ddenu diwydiant, buddsoddiad a swyddi i'r rhanbarth, gyda'r cyfle i gyd-leoli ochr yn ochr â seilwaith clinigol, cyfleusterau chwaraeon a lles, ac arbenigedd academaidd.
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, arweinydd y prosiect:
“Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gael y cyfle i ddatblygu’r ganolfan brofi arloesol ac unigryw hon. Rydym ni’n ddiolchgar i Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe am ein galluogi i ddarparu adnodd sylweddol ar gyfer y rhanbarth ac ar gyfer Cymru. Ein huchelgais yw y bydd yr amgylchedd ymchwil ac arloesi rydym ni’n ei greu yn arwain at fanteision gwirioneddol ar gyfer y gymuned leol yn ogystal ag ar gyfer y GIG a chwaraeon."
Rhagor o wybodaeth am y “Labordy Byw”
TrakCel yn lansio Gwasanaeth Ymgynghori ar gyfer y sector Therapi Celloedd a Genynnau
Mae TrakCel, darparwr datrysiadau meddalwedd therapi celloedd a genynnau (CGT) yng Nghaerdydd, wedi lansio gwasanaeth ymgynghori newydd i gefnogi datblygwyr CGT i optimeiddio cadwyni cyflenwi ar gyfer therapïau clinigol a masnachol.
Bydd Gwasanaeth Ymgynghori TrakCel yn rhannu ei brofiad helaeth o ddatblygu proses CGT gyda datblygwyr CGT a bydd yn cynnig gwasanaethau mewn Strategaeth a Methodoleg Cadwyn Hunaniaeth (COI), Cydymffurfio a Diogelu Data, Cydymffurfio a Dylunio Labeli, Asesu Risg Cadwyn Gyflenwi, a Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS).
Dywedodd Matthew Lakelin, Ph.D, Pennaeth Gwasanaeth Ymgynghori TrakCel Consulting Services:
“Mae lansio Gwasanaethau Ymgynghori TrakCel yn adlewyrchu adborth helaeth o bob rhan o’r diwydiant therapi celloedd a genynnau. P’un ai wrth gychwyn, ar bwyntiau ffurfdroi clinigol neu rywle yn y canol, mae TrakCel mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar y profiad cydweithredol a chyflawni, yn seiliedig ar ein gwaith dros y degawd diwethaf.”
Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ymgynghori newydd
Prifysgol Caerdydd yn arwain ymchwil i ddatblygiad ymennydd plant gyda grant o £6m
Mae ymchwilwyr o Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd (NMHII) a Chanolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC) wedi ennill Gwobr Darganfod Wellcome i arwain prosiect ymchwil i ddatblygiad ymennydd plant, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caergrawnt a Sefydliad Donders yn yr Iseldiroedd.
Bydd y grant yn galluogi ymchwilwyr i edrych ar newidiadau yn yr ymennydd sy’n datblygu mewn pobl rhwng 8 ac 18 oed. Bydd yr ymchwil yn dadansoddi’r ymennydd ar lefel meicrosgopig a macrosgopig i ddeall sut mae newidiadau yn yr ymennydd yn gysylltiedig â datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol. Nod y gwaith ymchwil hwn yw llywio dulliau newydd posibl o ganfod risgiau iechyd meddwl yn gynnar, a darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau tymor hwy.
Dywedodd yr Athro Rogier Kievit o Sefydliad Donders:
"Rydym ni’n sylweddoli fwyfwy fod yn rhaid i ni astudio sut mae ymennydd ac ymddygiad pobl yn newid dros amser er mwyn deall datblygiad yr ymennydd a'r heriau a allai godi. Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfuniad unigryw i ni o fanwl gywirdeb gofodol dros gyfnod o flynyddoedd i weld sut mae'r ymennydd yn newid ac yn datblygu."