Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb newyddion o faes arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein tîm Gwybodaeth y Sector, sydd bellach yn canolbwyntio ar newyddion a diweddariadau sy’n ymwneud â’n maes blaenoriaeth, sef canser. Yn sbarduno ein huchelgais i godi Cymru fel lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Inspiring Innovation

Yn y rhifyn hwn, byddwch yn dysgu am ddatblygiad lolipops i wneud diagnosis o ganserau’r geg, prawf gwaed newydd sy’n canfod canser mewn cleifion sydd wedi cael diagnosis o Ganser heb Darddiad Hysbys yn flaenorol, a rhaglen sgrinio canser y prostad sydd ar y gweill.
 

Ymchwilwyr yn ennill cyllid i ddatblygu 'lolipops' i wneud diagnosis o ganserau'r geg

Mae tîm ymchwil o Brifysgol Birmingham yn datblygu hydrogeliau clyfar sy’n gallu casglu proteinau poer yn ddiogel sy’n canfod camau cynnar canser y geg, heb fod angen triniaethau ymyriadol fel biopsïau.

Dyfarnwyd grant o £350,000 iddynt gan Cancer Research UK a Chyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol i droi’r ymchwil hwn yn offeryn diagnostig clinigol. Gan fod modd mowldio’r hydrogel yn hawdd i siapiau solet, mae’r tîm yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu’r gel yn lolipops â blas i gasglu proteinau ym mhoer claf sy’n dangos presenoldeb canser y geg.

Dywedodd Dr Iain Foulkes, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymchwil ac Arloesedd yn Cancer Research UK:

“Biopsïau a nasoendosgopi yw’r safon aur ar gyfer gwneud diagnosis o ganser y geg, ond mae hyn yn gofyn am fod yn hyfedr iawn a gall deimlo’n annifyr i gleifion. Rydym am gael prawf amgen cywir, cyflymach a mwy caredig a all ein helpu i ganfod achosion o ganser y geg yn gynt."

Rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth
 

Mae ymchwilwyr wedi datblygu prawf gwaed ar gyfer cleifion sydd â Chanser heb Darddiad Hysbys

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Biofarcwyr Cenedlaethol Cancer Research UK Prifysgol Manceinion wedi datblygu prawf gwaed sy'n defnyddio dosbarthwr dysgu peirianyddol (CUPiD) i ganfod y math o ganser mewn cleifion sydd wedi cael diagnosis o Ganser heb Darddiad Hysbys (CUP).

Gwneir diagnosis o CUP pan na all profion safonol ganfod tarddiad cychwynnol y canser. Mae CUP yn her i ddarparwyr gofal iechyd, gan fod peidio â gwybod lleoliad cychwynnol y tiwmor yn golygu efallai na fydd triniaethau canser wedi’u targedu yn gweithio. Mae angen profion ychwanegol, gan gynnwys delweddu a biopsïau, cyn y gall claf ddechrau triniaeth wedi’i thargedu, sy’n golygu bod oedi a allai gael effaith negyddol ar eu canlyniadau.

Profodd yr ymchwilwyr berfformiad CUPiD a nododd y math o diwmor yn gywir mewn 84.6% o 170 sampl. Defnyddiwyd CUPiD hefyd ar samplau gwaed gan gleifion â CUP a gwnaeth ragfynegiad ar gyfer 78% o achosion, ac roedd yn gywir 88.5% o'r amser. Yn dilyn y canlyniadau addawol hyn, mae ymchwilwyr bellach yn recriwtio ar gyfer treial clinigol i ddilysu'r canlyniadau hyn mewn carfan fwy o gleifion gwir.

Dysgu mwy am y prawf gwaed
 

Lansio treial canser y prostad i werthuso profion sgrinio newydd

Mae Prostate Cancer UK wedi rhannu manylion newydd am y treial TRANSFORM sydd ar y gweill, rhaglen ymchwil gwerth £42 miliwn sy’n ceisio dod o hyd i’r dull gorau o sgrinio dynion am ganser y prostad. 

Mae TRANSFORM yn cael ei ariannu gan Prostate Cancer UK, y GIG, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, Llywodraeth y DU, Tashwedd a Sefydliad Elusennol Freddie Green a’r Teulu. Yn ôl Prostate Cancer UK, gall defnyddio profion newydd leihau marwolaethau o ganser y prostad hyd at 40%.

Bydd cam un y treial yn ceisio recriwtio 12,500 o ddynion i gymharu technolegau sgrinio newydd ag arferion presennol y GIG, a bydd cam dau y treial yn ceisio recriwtio 300,000 o ddynion i werthuso ymhellach yr opsiwn/opsiynau mwyaf addawol a nodwyd yng ngham un.
 
Bydd y treial hefyd yn cael ei ddefnyddio i gasglu nifer sylweddol o samplau, delweddau a data eraill a fydd ar gael i ymchwilwyr canser y prostad eraill i ddatblygu adnoddau diagnostig newydd o bosibl.

Dywedodd yr Athro Ros Eeles, Athro Oncogeneteg yn y Sefydliad Ymchwil Canser:

“Mae TRANSFORM yn trawsnewid pethau oherwydd bydd yn ein galluogi i brofi marcwyr genetig yn drylwyr ar raddfa fawr mewn dynion o drasau amrywiol. Gallai hyn roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddefnyddio sgoriau risg genetig i ganfod dynion sydd mewn perygl o gael canser ymosodol a fydd angen profion rheolaidd, gan atal dynion sydd mewn perygl isel rhag cael biopsïau a thriniaethau diangen.”

Rhagor o wybodaeth am y treial
 

Arloeswr sy’n canolbwyntio ar ganser?

Os ydych chi’n arloeswr sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â chanser ac yn dymuno datblygu eich arloesedd neu’ch rhaglen yng Nghymru, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Cyflwynwch eich ymholiad yma heddiw, gan roi cymaint o fanylion â phosibl, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.