Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ysbrydoli Arloesedd yw ein crynodeb newyddion o faes arloesi ffyniannus a gasglwyd gan ein tîm Gwybodaeth y Sector, sydd bellach yn canolbwyntio ar newyddion a diweddariadau sy’n ymwneud â’n maes blaenoriaeth, sef canser. Yn sbarduno ein huchelgais i godi Cymru i fod yn wlad y mae pobl yn ei dewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Inspiring Innovation

Yn y rhifyn hwn, cewch wybod am frechlyn canser newydd GIG Lloegr, llifyn fflworoleuol sy'n helpu llawfeddygon i ganfod a thynnu celloedd canser y prostad, ac argymhellion NICE ar gyfer profion proffilio tiwmorau i lywio penderfyniadau cemotherapi mewn canser cynnar y fron.

GIG Lloegr yn lansio gwasanaeth ‘paru’ ar gyfer treialon clinigol brechlyn canser

Mae GIG Lloegr wedi trin ei glaf cyntaf, sef person 55 oed sydd â chanser y colon a’r rhefr, o’r CVLP (Cancer Vaccine Launch Pad), sef llwyfan sy’n cyflymu mynediad at frechlynnau arloesol a allai atal canser rhag dychwelyd. 

Mae brechlynnau sy’n targedu canser yn cael eu creu drwy ddadansoddi tiwmor claf i ganfod mwtaniadau sy’n benodol i’w ganser, a chreu brechlyn mRNA personol sy’n cynnwys y ‘cyfarwyddiadau’ sydd eu hangen ar gelloedd i greu proteinau sy’n gallu nodi celloedd canser. Mae hyn yn paratoi system imiwnedd y claf i ganfod a lladd unrhyw gelloedd canser sy’n weddill, ar ôl llawdriniaeth neu gwrs o gemotherapi.

Mae CVLP yn gydweithrediad rhwng GIG Lloegr, Genomeg Lloegr a BioNTech, a’i nod yw darparu triniaethau canser personol yn y DU i hyd at 10,000 o gleifion erbyn 2030. Mae BioNTech hefyd yn datblygu brechlynnau yn erbyn canser y pen a’r gwddf, canser yr ysgyfaint, melanoma a chanser y pancreas.

Dywedodd yr Athro Peter Johnson, sef cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol y GIG ar gyfer canser:

“Hyd yn oed ar ôl llawdriniaeth lwyddiannus, gall canserau ddychwelyd weithiau oherwydd bod ychydig o gelloedd canser yn cael eu gadael ar ôl yn y corff, ond gall defnyddio brechlyn i dargedu’r celloedd hynny sy’n dal yno fod yn ffordd o atal hyn rhag digwydd. Drwy ein pad lansio cenedlaethol, rwy’n falch y byddwn yn ehangu’r cyfleoedd i fod yn rhan o’r treialon hyn i lawer mwy o bobl, gyda’r gobaith y bydd miloedd o gleifion yn cael eu recriwtio yn y flwyddyn nesaf.”

Rhagor o wybodaeth am y brechlynnau

Llifyn fflwroleuol yn helpu llawfeddygon i ganfod a chael gwared ar ganser y prostad

Gall llifyn a ddatblygwyd gan Brifysgol Rhydychen ac ImaginAb ganfod celloedd canseraidd yn ystod triniaethau llawfeddygol na ellir eu gweld drwy ddulliau clinigol traddodiadol, gan ganiatáu i lawfeddygon gael gwared ar holl olion canser claf.

Mae hyn yn gweithio drwy roi pigiad i glaf sydd ar fin cael prostadectomi gyda gwrthgorff sy’n clymu wrth antigen sy’n gyffredin ar arwyneb celloedd canser y prostad. Gall llawfeddygon roi goleuni ar y prostad a'r ardaloedd cyfagos, gan wneud i gelloedd canser y prostad ddisgleirio, fel y gellir eu tynnu heb niweidio meinwe iach.

Dywedodd yr Athro Freddia Hamdy, sef y prif awdur:

"Gyda'r dechneg hon, gallwn gael gwared ar yr holl ganser, gan gynnwys y celloedd sydd wedi lledaenu o'r tiwmor ac a allai roi cyfle iddo ddychwelyd yn nes ymlaen. Mae hefyd yn ein galluogi i gadw cymaint o’r strwythurau iach o amgylch y prostad ag y gallwn, er mwyn lleihau sgil-effeithiau diangen sy’n newid bywydau, fel anymataliaeth ac anhawster codiad.”

Rhagor o wybodaeth

Tri phrawf proffilio tiwmorau i lywio triniaeth canser y fron a argymhellir i'w defnyddio gan y GIG

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi argymell defnyddio tri phrawf proffilio tiwmorau i lywio penderfyniadau cemotherapi adgynorthwyol mewn canser cynnar y fron.

Asesodd NICE bedwar prawf proffilio tiwmor gan ddefnyddio samplau tiwmor gan bobl â chanser cynnar y fron, gan greu proffil risg y gellir ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau triniaeth a rhagweld a yw cemotherapi yn debygol o fod o fudd i'r claf.

Dywedodd Mark Chapman, cyfarwyddwr dros dro y Rhaglen Technolegau Iechyd yn NICE:

“Mae dewis a ydych am gael cemotherapi ai peidio yn benderfyniad anodd i’w wneud pan nad yw’r holl wybodaeth ar gael i chi. Dylai prawf a all helpu i ragweld y risg y bydd canser y fron yn ymledu gael ei ystyried yn gam sylweddol ymlaen i gleifion.”

Rhagor o wybodaeth am y profion


Arloeswr sy’n canolbwyntio ar ganser?

Os ydych chi’n arloeswr sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â chanser ac yn dymuno datblygu eich arloesedd neu’ch rhaglen yng Nghymru, rydym ni eisiau clywed gennych chi. Cyflwynwch eich ymholiad yma heddiw, gan roi cymaint o fanylion â phosibl, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.