Gallai llawdriniaeth robotig ddod yr un mor gyffredin â sganwyr CT ac MRI os bydd y GIG a’r Llywodraeth yn buddsoddi mewn rhaglen genedlaethol, yn ôl meddygon blaenllaw’r GIG a phenaethiaid ysbytai.

Llawfeddyg yn yr ystafell lawdriniaeth yn perfformio llawdriniaeth gan ddefnyddio roboteg.

Mae adroddiad newydd gan yr Health Service Journal, a ariennir gan CMR Surgical, wedi canfod bod cefnogaeth glinigol gref dros lawdriniaeth robotig, a ddisgrifiwyd fel rhywbeth a fyddai’n arwain at fanteision ‘sylweddol’ i gleifion, llawfeddygon a’r GIG. Mae robotiaid yn helpu llawfeddygon i ymgymryd â llawdriniaeth fanwl lle nad oes llawer o le, neu lawdriniaeth twll clo, sy’n llai ymwthiol na llawdriniaeth agored draddodiadol. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn cael llai o boen, llai o risg o haint ar ôl llawdriniaeth ac angen treulio llai o ddiwrnodau yn yr ysbyty yn gwella1 – sy’n helpu i ryddhau gwelyau ar gyfer y GIG.

Gall llawfeddygon elwa ar driniaethau sy’n llai anodd yn gorfforol, sydd â’r potensial i ymestyn yr oedran y byddent fel arfer yn dymuno ymddeol. Mae llawdriniaethau â chymorth roboteg hefyd yn cael eu ffilmio’n fanwl – fel bod llawfeddygon yn gallu edrych yn ôl a dysgu o’r hyn a aeth yn dda neu a oes angen triniaeth bellach – a gall gynnig cyfleoedd i gydweithio â llawfeddygon eraill yn ystod llawdriniaethau.  

Mae llawdriniaeth robotig ar gael mewn rhannau o’r wlad ar gyfer llawdriniaethau meinwe meddal fel tynnu tiwmor mewn cleifion canser neu hysterectomïau. Fodd bynnag, dydy pob ysbyty ddim yn gallu cynnig llawdriniaeth robotig ar hyn o bryd am sawl rheswm, gan gynnwys diffyg buddsoddiad mewn offer a hyfforddiant, yn ogystal â biwrocratiaeth weinyddol.

Mae meddygon a phenaethiaid y GIG yn galw am raglen genedlaethol ar gyfer roboteg – fel sydd wedi’i rhoi ar waith yng Nghymru – er mwyn helpu i wella adferiad cleifion, cynyddu capasiti ysbytai, lleihau amseroedd aros ysbytai, rhoi hwb i recriwtio a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Dywedodd Richard Hammond, Rheolwr Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Dwyrain a Gogledd Swydd Hertford:

"Mae angen rhaglen genedlaethol ar gyfer roboteg, tebyg i’r hyn a gyflwynwyd ar gyfer sganwyr CT ac MRI. Rhai cenedlaethau yn ôl, dim ond ychydig o sganwyr oedd yn cael eu defnyddio – a oedd yn aml yn cael eu prynu drwy apeliadau elusennol – ond erbyn hyn maen nhw ar gael ym mhob ysbyty mawr. Gallai'r un peth ddigwydd â roboteg. Mae gen i lawfeddygon sy’n brwydro dros roboteg.”

Lansiwyd rhaglen roboteg genedlaethol yng Nghymru yn gynharach eleni (Mawrth 2022), gyda chyllid hirdymor gan Lywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd.

Dywedodd yr Athro Jared Torkington, Clinigydd Arweiniol Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg a Llawfeddyg Colorectal Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Un o nodau allweddol strategaeth roboteg Cymru oedd sicrhau bod y triniaethau gorau sydd gennym yn fwy hygyrch i gleifion ledled y wlad gyfan yn hytrach na dim ond mewn dinasoedd mawr. Mae gan Gymru rai o’r cymunedau tlotaf yn Ewrop. Diolch i’r gwaith hwn, o’r diwedd rydym yn gallu cynnig llawdriniaethau robotig i gleifion yng Ngogledd Cymru – ardal â lefelau amddifadedd uchel lle mae cyllidebau’r GIG yn aml yn cael eu gwario ar ymladd tân yn hytrach nag arloesi a gwella gofal i gleifion.”

Mae clinigwyr hefyd yn credu y gallai manteision llawdriniaeth robotig ymestyn yn llawer ehangach – gan ddenu mwy o bobl i ymgysylltu â’r GIG a chael diagnosis cynnar.

Dywedodd yr Athro Torkington:

“Mae’r dyn a’r ddynes ar y stryd yn “deall” llawdriniaeth. Os gallwn ni ddefnyddio roboteg i ddangos i bobl bod eich ysbyty lleol ar flaen y gad a dyna pam y dylech anfon eich profion sgrinio yn ôl, dyna pam y dylech chi weld y meddyg am eich symptomau...yna rydyn ni’n newid pethau. Gallwn ddefnyddio technolegau fel hyn i newid canfyddiadau a rhoi rhywfaint o egni yn ôl i mewn i’r GIG – rhywbeth y mae ei angen.”

Dywedodd Dr Mark Slack, gynaecolegydd ymgynghorol a Phrif Swyddog Meddygol / Cyd-sylfaenydd cwmni roboteg CMR Surgical ym Mhrydain:

"Roeddwn i wedi meithrin diddordeb mewn llawdriniaeth robotig flynyddoedd lawer yn ôl am fy mod i, fel llawfeddyg gynaecolegol, wedi sylweddoli na allai pob llawfeddyg feistroli’r sgiliau cymhleth sydd eu hangen ar gyfer llawdriniaeth laparoscopig, neu dwll clo, confensiynol. Deuthum i’r casgliad y gallem, gyda’r dechnoleg fanwl hon, gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar lawdriniaethau â mynediad bach iawn; ac yn sgil hynny nid yn unig wella profiadau cleifion, ond hefyd greu arbedion effeithlonrwydd sylweddol i’r GIG a chefnogi’r gweithlu llawfeddygol. Rydyn ni’n falch o gefnogi’r GIG a’r llywodraeth yng Nghymru gyda’u hymdrechion i ddod â manteision llawdriniaeth robotig i gynifer o gleifion â phosibl – ni waeth lle maen nhw’n byw – a byddem yn hapus gweithio gyda gwledydd eraill pan fyddant yn ystyried strategaeth genedlaethol.”

Ewch i’n Tudalen Prosiect i ddysgu mwy am y Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg.

 

1 EUR Urol, Journal of Endourology, BMJ.