Gallai llygredd afonydd a dyfrffyrdd o feddyginiaethau a chynhyrchion fferyllol fod yn gymaint o fygythiad i iechyd y byd â newid hinsawdd yn ôl y rhai sy’n gyfrifol am ddarganfod maint y broblem yng Nghymru.

Yn y bennod hon mae Rhodri Griffiths yn siarad â Siân Williams Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngogledd Orllewin Cymru ac Elen Jones, Cyfarwyddwr - Cymru y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Ymhlith y meddyginiaethau sy'n cael eu fflysio i ffwrdd mewn dŵr gwastraff mae gwrthfiotigau - a all arwain at ymwrthedd i wrthfiotigau yn y boblogaeth ddynol a hormonau benywaidd o ddulliau atal cenhedlu a all gael effaith ddinistriol ar y boblogaeth bysgod.

Dywedodd Elen, “Os ydyn ni wedi rhoi eli ar ein croen mae e’n dod bant yn y gawod ac wedyn ma’r meddiginiaethau yn mynd i mewn i’r system dwr.”

Ychwanegodd na all yr holl gyffuriau gael eu niwtraleiddio gan y system trin dŵr. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru yn cydweithio ar ymchwil i ddeall maint y broblem yng Nghymru. Mae Elen a Siân yn esbonio mai eu tasg gyntaf yw archwilio maint daearyddol y broblem yn ogystal â'r mathau o ddeunyddiau fferyllol sy'n gollwng i'r dyfrffyrdd.

“Cychwyn y broses ydy’r cydweithio efo’r Gymdeithas Fferylliaeth i weld beth yw’r sefyllfa a sut allwn ni ddatrus unrhyw effeithiau amgylcheddol sydd i’w weld yma yng Nghymru. 

“Mae gynnon ni argyfwng newid hinsawdd, mae gynno ni argyfwng bioamrywiaeth yn barod… wedyn mae hwn yn haen arall i ychwanegu at yr argyfwng -a’r potensial i fod yn waeth.” meddai Sian. 

Gwrandewch nawr:

Fel arall, gallwch wrando ar bodlediad Syniadau Iach ar: Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts. 

Healthy Thinking 

Mae ein chwaer podlediad Healthy Thinking yn trafod cynaliadwyedd y GIG gyda Kathy Scott o Yorkshire & Humber Academic Health Science Network.  Gwrandewch nawr