1. Beth yw biopsi hylif?
Mae biopsi hylif yn golygu cymryd sampl o hylif gan berson, sampl gwaed fel arfer, a dadansoddi hyn naill ai i ganfod celloedd canser neu DNA sy’n cylchredeg yn y gwaed.
Mae biopsïau hylif yn llai ymwthiol i gleifion na biopsi meinwe traddodiadol, lle mae angen tynnu sampl o’r tiwmor ei hun. Ar hyn o bryd, gellir defnyddio biopsi hylif a meinwe i ddarparu gwybodaeth i glinigwyr i’w galluogi i gynllunio triniaeth bersonol claf. Mae hwn yn faes cynyddol o ran gofal clinigol canser er nad yw defnyddio biopsïau hylif ond yn ei ddyddiau cynnar ac ar hyn o bryd nid yw’n opsiwn addas ar gyfer pob canser neu bob cam o ganser.
2. Beth yw astudiaeth QuicDNA?
Mae astudiaeth QuicDNA yn gwerthuso manteision cyflwyno biopsi hylif i’r llwybr diagnostig ar gyfer canser yr ysgyfaint. Ar hyn o bryd, mae angen i feddygon aros am ganlyniadau moleciwlaidd biopsi meinwe cyn y gallant gynllunio’r driniaeth orau i glaf. Gall hyn gymryd sawl wythnos. Yn astudiaeth QuicDNA, cymerir gwaed gan glaf yr amheuir ei fod yn dioddef o ganser yr ysgyfaint, ac fe’i harchwilir i chwilio am DNA tiwmor sy’n cylchredeg (ctDNA). Gall cyflwyno’r prawf gwaed i’r llwybr diagnostig helpu i gwtogi’r amser aros, sy’n golygu y gall meddygon gynllunio triniaeth bersonol claf yn gynt.
Canser yr ysgyfaint yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru a dyma brif achos marwolaethau o ganser. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint ar gam datblygedig, sy’n ei gwneud yn llawer anoddach ei drin. Gall cyflwyno biopsi hylif a all helpu i gyflymu penderfyniadau am driniaethau wella’r canlyniadau i gleifion yn sylweddol.
Bydd yr astudiaeth yn cwmpasu nifer o fyrddau iechyd ar draws Cymru ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid a chyllidwyr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Gwerthusiad byd go iawn ar gyfer biopsi hylif QuicDNA (lshubwales.com)
3. Rydw i wedi cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn ddiweddar. Fydda i’n cael cynnig prawf gwaed QuicDNA?
Astudiaeth werthuso glinigol barhaus sy’n cael ei chynnal ar draws dau fwrdd iechyd yng Nghymru yw QuicDNA: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’r astudiaeth am ehangu ei chyrhaeddiad i gynnwys pob bwrdd iechyd yng Nghymru. Os ydych chi’n chwilfrydig ynghylch a yw’r astudiaeth ar gael yn eich bwrdd iechyd chi, cysylltwch â’ch meddyg. Gall eich meddyg hefyd roi arweiniad ynghylch a yw biopsi hylif yn ddewis addas i chi.
4. Beth yw Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint yng Nghymru ac a ydynt yn gysylltiedig ag astudiaeth QuicDNA?
Mae’r cynllun peilot Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint, a lansiwyd ym mis Medi 2023, yn cael ei gynnal yng Ngogledd y Rhondda ar hyn o bryd. Gwahoddwyd cannoedd o gleifion 60 i 74 oed sy’n smygwyr, neu sydd wedi ysmygu yn y gorffennol, o feddygfeydd penodol, i gymryd rhan. Y cam cyntaf yw sgwrs dros y ffôn i drafod eu hiechyd ac, ar sail y drafodaeth hon, gwahoddwyd rhai i gael sgan i sgrinio am ganser yr ysgyfaint, i weld a oes unrhyw arwyddion cynnar o ganser yr ysgyfaint.
Nid yw Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint yn gysylltiedig ag astudiaeth QuicDNA. Diben rhaglenni sgrinio, fel gwiriadau iechyd yr ysgyfaint, yw canfod canser a risg o ganser yn gynnar. Mae astudiaeth QuicDNA yn gwerthuso dull o deilwra triniaeth yn benodol ar gyfer cleifion sydd fel arfer â chanser yr ysgyfaint datblygedig.
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun peilot Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint yng Nghymru, ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/peilot-gwiriad-iechyd-yr-ysgyfaint/
5. Beth yw Cronfa Genomeg Teulu Maxwell a sut galla i gymryd rhan?
Cafodd Craig Maxwell, cyn brif swyddog masnachol gyda thwrnamaint rygbi’r Chwe Gwlad ac Undeb Rygbi Cymru, ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint cam IV ym mis Medi 2022. Ers iddo gael diagnosis, mae wedi bod yn sbardun i godi cannoedd o filoedd o bunnoedd ar gyfer astudiaeth QuicDNA.
Mae Craig a’i deulu bellach wedi sefydlu Cronfa Genomeg Teulu Maxwell i hyrwyddo gofal canser ac arloesi genomig ymhellach yng Nghymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gronfa a sut i gymryd rhan yma - https://maxwell.foundation/
6. Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am Ganser yr Ysgyfaint?
I gael rhagor o wybodaeth am arwyddion a symptomau canser yr ysgyfaint neu i gael cymorth a chefnogaeth, ewch i: https://www.macmillan.org.uk/cancer-information-and-support/lung-cancer.
7. A ellir defnyddio biopsïau hylif i helpu i wneud diagnosis neu gynllunio triniaeth ar gyfer canserau eraill ac, os felly, a yw’r rhain yn cael eu cynnig yng Nghymru?
Mae biopsïau hylif yn cynnig y potensial i drawsnewid y broses o ganfod, diagnosio, trin a chadw golwg ar ganser. Mae hwn yn ofod sy’n datblygu ar raddfa fawr ac yn gyflym iawn, ledled y byd.
Yng Nghymru, gweithredir drwy ddull wedi’i gydlynu’n genedlaethol i sicrhau bod mewnbwn academaidd a chlinigol diffiniedig, yn cael ei arwain gan dystiolaeth, o ran mabwysiadu biopsïau hylif ar gyfer sgrinio, diagnosio a chadw golwg ar ganser.
Gallwch ddarllen mwy am hyn yng Nghynllun Cyflawni Genomeg Cymru yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-11/cynllun-cyflawni-genomeg-cymru.pdf