Pwrpas y Grŵp Diddordeb Arbennig Deallusrwydd Artiffisial (AI SIG) yw bod yn siop un stop ar gyfer rhannu prosiectau AI arloesol gyda gweddill y rhwydwaith.
Grŵp Diddordeb Arbennig Deallusrwydd Artiffisial
Gwybodaeth am y rhwydwaith
Nod yr AI SIG yw creu gofod i aelodau wneud sylwadau, hoffi, rhannu, cefnogi, a chydweithio gyda gwaith ei gilydd.
Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn cyfarfod yn fisol trwy Microsoft Teams.
Amcanion y rhwydwaith
Mae’r AI SIG yn gweithio ar gefnogi cyfleoedd cydweithio, rhannu arloesedd a hyrwyddo prosiectau AI newydd.
Blaenoriaeth y grŵp yw ystyried y ffordd orau y gall sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru gydweithio ar brosiectau a gwasanaethau AI i ddarparu buddion gwell i gleifion a datblygiad economaidd yng Nghymru.
Ar gyfer pwy mae’r rhwydwaith?
Grŵp aelodaeth yw hon sydd ar gael i’r rheiny sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i fyrddau iechyd, awdurdodau lleol, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus.
Ar beth mae’r rhwydwaith yn gweithio ar hyn o bryd?
Y prif faes gwaith y mae’r tîm yn gweithio arno ar hyn o bryd yw gweithredu a datblygu fforwm ar-lein er mwyn gwella ymhellach y rhwydwaith drwy’r porthol AI.
Mae’r grŵp hefyd yn rhoi cyfle i’r diwydiant arddangos eu harloesedd i’r grŵp, yn ogystal â chyfle i aelodau rannu eu diweddariadau a’u problemau eu hunain.
Pa sefydliadau sydd ynghlwm wrth y rhwydwaith?
-
Byrddau iechyd Cymru
-
Awdurdodau lleol Cymru
-
Y byd academaidd yng Nghymru
-
Sector cyhoeddus yng Nghymru
Sut gall pobl gymryd rhan?
Os ydych chi’n gweithio ym maes AI yn un o’r canlynol yng Nghymru:
-
bwrdd iechyd,
-
awdurdod lleol,
-
byd academaidd,
-
neu’r sector cyhoeddus,
ac o’r farn y gallai’r grŵp fod o ddiddordeb i chi, cysylltwch â Delyth James i gael gwybod mwy.