Mae gweithgynhyrchwr o Gymru sy’n gallu olrhain ei waith yn achub bywydau i ffosydd rhyfel y Crimea wedi dechrau gweithio er mwyn sicrhau bod GIG Cymru yn cael y cyflenwadau sydd eu hangen arno er mwyn brwydro yn erbyn y Coronafeirws.

Ers dros 160 o flynyddoedd, mae cwmni BCB International wedi bod yn magu dealltwriaeth ac arbenigedd yn datblygu cyfarpar diogelu sy’n achub bywydau milwyr Prydain, morwyr, ac anturiaethwyr sy’n gwthio’r ffiniau.

factory

Newid llinellau cynhyrchu mewn ymateb i Covid-19

Heddiw, mae’r cwmni, sy’n brysur fel arfer yn creu ei gynnyrch tanwydd bio-ethanol solet dan batent, wedi trawsnewid y gwaith cynhyrchu yn ei safle yn Llanelli er mwyn creu hylif diheintio dwylo ag alcohol cryf.

Fel teyrnged i sefydlydd BCB, mae Diheintydd Dwylo Dr Brown wedi’i enwi ar ôl Dr. John Collis Browne, y dyn a greodd foddion peswch oedd yn gymaint o ryddhad i filwyr Prydain oedd yn diodde yn ffosydd rhyfel y Crimea.

Yn ogystal â chyfrannu hylif diheintio dwylo a chyfarpar diogelu personol i ymatebwyr argyfwng a grwpiau cymunedol, mae BCB International wedi darparu dros 250,000 litr o hylif diheintio dwylo i GIG Cymru ers iddo wneud y cynnig cyntaf i’w gyflenwi i’r gwasanaeth iechyd drwy bartneriaeth rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. 

Yn ogystal â chynnyrch diheintio, mae’r cwmni wedi cyflwyno cynigion i ddarparu cyfarpar diogelu personol ychwanegol i GIG Cymru, gan gynnwys gynau, menig, amddiffynwyr a mygydau.

Mae’r gweithgynhyrchwr hefyd wedi creu pecynnau cario cludadwy yn cynnwys cyfarpar diogelu sy’n gallu cael eu cario gan ymatebwyr cyntaf, yr heddlu a’r rhai sy’n gweithio i wasanaethu cymunedau Cymru.

Meddai Andrew Howell, Rheolwr Gyfarwyddwr BCB International:

“Os ga i ddyfynnu Darwin: “Nid y rhywogaeth gryfa sy’n goroesi, na’r rhywogaeth fwya deallus. Y rhywogaeth sy’n goroesi yw’r un sy’n gallu addasu orau i newid”. Mae’r feirws yn glyfar iawn, ac mae angen i ni addasu’n gyflym er mwyn goroesi. Cyflymder ac arloesi yw popeth.”

Mae BCB International yn un enghraifft o blith nifer o weithgynhyrchwyr Cymru sydd wedi ymateb i’r alwad i gefnogi GIG Cymru.

Mae’r gwaith i ddod â diwydiant a gwasanaethau iechyd a gofal Cymru ynghyd yn cael ei hwyluso gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sefydliad a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn brif bwynt cyswllt i’r diwydiant.

Gan nodi ymateb diwydiant Cymru i’r Coronafeirws, meddai Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Mae ymateb y diwydiant i’r argyfwng iechyd cyhoeddus yma wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae BCB International yn enghraifft wych o gyfoeth yr arloesi sydd gennym yng Nghymru ac o ddymuniad busnesau i gefnogi’r ymdrech genedlaethol sut bynnag gallan nhw.

“Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi mai Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer y diwydiant, rydyn ni wedi canolbwyntio ein hymdrechion er mwyn cefnogi prynwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y gwaith o reoli a brysbennu’r lefel uchel o gynigion cyflenwi sy’n eu cyrraedd yn sgil yr argyfwng iechyd presennol.

“Mae ein gwaith gyda’r diwydiant, GIG Cymru a’r maes gofal cymdeithasol wedi arwain at ddull effeithlon ac effeithiol sy’n helpu i sicrhau mynediad at gynnyrch diogel a dilys, gan amddiffyn cleifion a’r rhai sy’n gweithio ar reng flaen ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.”

Dywedodd Gwenidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Mae busnesau ledled Cymru yn parhau i fynd y tu hwnt i gefnogi ein GIG ac achub bywydau yn y pen draw.

"Rwy'n hynod ddiolchgar i bob cwmni am y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i'n helpu i ddelio â coronafeirws drwy gynnig eu arbenigedd a phrofiad.

"Mae'r ffaith bod BCB International wedi dechrau gwneud moddion peswch ar gyfer milwyr Prydain yn 1854 ac mae bellach yn darparu diheintydd dwylo i helpu i guro’r feirws hwn yn dyst i'w hirhoedledd a'i hyblygrwydd fel busnes.

"Hoffwn hefyd ddiolch i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a'i staff am y rôl hanfodol y mae'n parhau i'w chwarae wrth gefnogi ein hymdrechion."

Camau nesaf...

Dylai unrhyw fusnesau sy’n bwriadu cynnig cymorth yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws wneud hynny drwy borthol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.