The Entrepreneur's Doctor

Busnes hyfforddi ac ymgynghori bach i entrepreneuriaid iechyd. Cafodd y busnes ei sefydlu gan Dr Behrooz Behbod, sef meddyg iechyd y cyhoedd a hyfforddwyd yn Harvard a Rhydychen, a'i nod yw grymuso entrepreneuriaid i greu byd iachach a hapusach. Ochr yn ochr ag addysgu gwybodaeth am y sector iechyd a busnes, rydym yn mynd ymlaen i drawsnewid eich arweinyddiaeth ac i ffynnu yn ystod newid.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Optellum

Mae Optellum yn arloesi mewn datrysiadau meddalwedd canser yr ysgyfaint a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial. Mae Optellum Virtual Nodule Clinic®, llwyfan gofal cynhwysfawr ar gyfer nodylau ysgyfaint, yn helpu i wneud diagnosis yn gynharach, yn rheoli cleifion yn amserol gan gydymffurfio â’r canllawiau, ac yn haenu risgiau’n well ar gyfer cleifion â nodylau.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Porth Arweinyddiaeth Gwella

Gwella yw’r Porth Arweinyddiaeth a reolir gan dîm Arweinyddiaeth ac Olyniaeth Diwylliant Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Nod Gwella yw darparu llwybrau datblygu arweinyddiaeth unigol, grymusol ar draws pob lefel o’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, er budd cleifion yng Nghymru. 

Mae'r porth arweinyddiaeth ddigidol hwn yn cynnig adnoddau dysgu, rheoli digwyddiadau, rheoli rhwydwaith, hunanasesiadau, 360 o werthusiadau, llwybrau dysgu cyfunol, proffiliau personol, cyfleoedd rhwydweithio ac argymhellion adnoddau wedi'u teilwra. 

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Crohn's and Colitis UK

Mae Crohn's and Colitis UK yn darparu cymorth a gwybodaeth i gleifion a'u teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan Glefydau Llid y Coluddyn (IBD), codi ymwybyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddol o IBD, ymdrechu i wella gwasanaethau gofal iechyd a'r ddarpariaeth IBD, dylanwadu ar agweddau cymdeithas i sicrhau newid positif i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan IBD, a hyrwyddo ymchwil i bob agwedd ar IBD a sut maen nhw'n effeithio ar fywydau pobl.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Asthma and Lung UK

Mae Asthma and Lung UK yn bodoli i helpu
pobl â chlefyd yr ysgyfaint. Mae’n cyflawni hyn drwy ariannu ymchwil hanfodol i ddeall, trin ac atal clefyd yr ysgyfaint, hyrwyddo gwell dealltwriaeth o glefyd yr ysgyfaint ac ymgyrchu dros newid positif yn iechyd ysgyfaint y genedl a chynnig gwasanaethau a chymorth fel nad oes rhaid i neb ei wynebu ar ei ben ei hun.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Cymdeithas MND

Cymdeithas MND yw’r unig elusen genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n ymroddedig i wella gofal a chymorth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan MND, ariannu a gwella ymchwil, ac ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth fel bod cymdeithas yn mynd i’r afael ag anghenion pobl â MND.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Anthony Nolan

Mae Anthony Nolan yn achub bywydau
pobl sydd â chanser y gwaed drwy dyfu cofrestr o roddwyr bôn-gelloedd, cynnal ymchwil a darparu cymorth i gleifion.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Y Gymdeithas MS

Mae'r Gymdeithas MS yn ariannu a hyrwyddo
ymchwil i ddatblygu triniaethau a gwasanaethau newydd i bobl â MS ac i ddeall achosion y cyflwr. Rhoddir cymorth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan MS, gydag ymdrechion i godi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth a gwella gofal a chymorth i bawb sy'n byw gyda MS. Mae'r sefydliad yn gweithredu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Kidney Research UK

Mae Kidney Research UK yn ariannu a chyflwyno ymchwil, sy'n achub bywydau, i glefydau'r arennau, gyda'r nod o wella triniaethau i bobl â chlefydau'r arennau a gwella ansawdd eu bywyd a chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd yr arennau.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Mencap

Mae Mencap yn darparu gwasanaethau
cymorth a chyngor i bobl ag anabledd dysgu, gan gynnwys gofal a chymorth, eiriolaeth, tai, hamdden a chyflogaeth. Nod yr elusen yw gwella gwasanaethau, herio rhagfarn a chefnogi pobl yn uniongyrchol i fyw eu bywydau fel y mynnant. Cynigir cymorth drwy'r wefan, adnoddau print a'r llinell gymorth. Mae cynghorwyr rhanbarthol yn darparu cymorth uniongyrchol dros y ffôn, drwy e-bost ac wyneb yn wyneb.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd: