V-Trak
Mae V-TRAK yn gwmni offer meddygol a nwyddau traul sy’n gweithgynhyrchu ac yn gwerthu cadeiriau olwyn a seddi.
Mae V-TRAK yn gwmni offer meddygol a nwyddau traul sy’n gweithgynhyrchu ac yn gwerthu cadeiriau olwyn a seddi.
Mae Steddy Disability Aids yn fanwerthwr sy’n darparu amrywiaeth eang o gymhorthion anabledd a chynnyrch gofal i gwsmeriaid ledled de Cymru. Mae ganddyn nhw safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd ac maen nhw’n cyflenwi cadeiriau olwyn, ategolion cadeiriau olwyn, teclynnau trefnu tabledi, offer therapi ymarfer corff a dillad orthopedig rhad.
Mae Roma Medical Aids yn wneuthurwr cynnyrch symudedd ac adsefydlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae cynnyrch Roma Medical yn cynnwys cadeiriau olwyn, cymhorthion cerdded, cadeiriau trosglwyddo cleifion, a chymhorthion pediatrig.
Mae Reval yn wneuthurwr cynhyrchion hylendid, adsefydlu a lles ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae cynnyrch Reval yn cynnwys systemau ymolchi a chawodydd gyda chymorth, pyllau adsefydlu mewn dŵr, ac offer trosglwyddo ar gyfer ysbytai, cartrefi nyrsio ac unigolion preifat.
Mae Clinithink yn gwmni deallusrwydd artiffisial ym maes gofal iechyd, sydd wedi adeiladu’r deallusrwydd artiffisial CLiX i ddadansoddi nodiadau meddygol. Gellir defnyddio'r cymhwysiad hwn mewn sawl ffordd, gan gynnwys dadansoddi iechyd y boblogaeth, nodi clefydau prin, gwella cynhyrchiant clinigol a nodi cleifion ar gyfer treialon clinigol.
Mae Medi2data yn gwmni iechyd digidol o Gaerdydd. Mae’r cwmni wedi datblygu pecynnau meddalwedd sy’n integreiddio â chofnodion meddygol electronig a ddefnyddir mewn meddygfeydd meddygon teulu i gynhyrchu adroddiadau meddygol.
Mae Jiva wedi datblygu platfform deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu systemau deallusrwydd artiffisial ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau, gan gynnwys ym maes gofal iechyd. Gan ddefnyddio’r platfform, mae Jiva wedi creu meddalwedd diagnostig ar gyfer canser y prostad a chlefyd yr afu, ac ar hyn o bryd mae’n ymgysylltu â chwmnïau fferyllol a busnesau bach a chanolig ar gyfer awtomeiddio cyffredinol a chydnabod patrymau.
Mae Forth wedi datblygu profion gwaed yn y cartref (gan gynnwys profion hormonau, maeth, ffrwythlondeb, chwaraeon ac iechyd cyffredinol) sydd wedyn yn cael eu hanfon i labordy’r GIG lle mae profion yn cael eu cwblhau. Bydd meddygon teulu Forth hefyd yn rhoi sylwadau ar y canlyniadau hyn.
Mae Waterless yn datblygu cynnyrch hylendid a datrysiadau gwrthficrobaidd, gan gynnwys siampŵ, hylif golchi’r corff, hylif diheintio dwylo rhydd o alcohol, weips a chwistrellau arwyneb. Mae Waterless yn cyflenwi’r GIG a’r Diwydiant Gofal, yn ogystal â Busnesau Masnachol, cwmnïau Rheoli Cyfleusterau, a'r Sectorau Porthorol, Fferyllol a Manwerthu.
Mae Springdew yn gwmni pecynnu o Abertawe, sy’n gwasanaethu marchnadoedd fferyllol, gofal iechyd, milfeddygol a dyfeisiau meddygol yn bennaf. Mae gan Springdew drwydded MHRA ar gyfer pecynnu eilaidd a chydosod meddyginiaethau dynol a milfeddygol.