Tamarnd Applied Sciences
Mae Tamarnd yn gwmni meddalwedd sydd wedi’i leoli yng Nghymru sy’n datblygu datrysiadau digidol i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd.
Mae Tamarnd yn gwmni meddalwedd sydd wedi’i leoli yng Nghymru sy’n datblygu datrysiadau digidol i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd.
Mae Rosenfield yn ddarparwr datrysiadau meddalwedd sy’n gweithio ochr yn ochr â systemau gweinyddu cleifion presennol i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy wella llif gwaith clinigol.
Mae Kinsetsu wedi datblygu llwyfan Ktrack sy’n caniatáu i sefydliadau weld data sy’n ymwneud â’u gweithrediadau. Mae Ktrack yn cael ei farchnata ar gyfer sawl diwydiant, gan gynnwys ym maes gofal iechyd, lle gellir defnyddio Ktrack i olrhain asedau fel dyfeisiau ac offer.
Mae RedKnight yn gwmni ymgynghorol sy’n cynnig grantiau sy’n cynnig gwasanaethau fel ysgrifennu cynigion a rheoli hawliadau grant. Mae’r cwmni’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys ym maes gofal iechyd a gwyddorau bywyd.
Mae Acuity Law yn gwmni cyfreithiol gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Abertawe. Mae’r cwmni’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gofal iechyd a thechnoleg feddygol, gydag arbenigedd mewn delio ag achosion o uno a chaffael, trefniadau ecwiti a chontractau masnachol.
Mae’r Is-adran Gofal Sylfaenol yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae wedi’i threfnu’n ddau dîm; yr Hwb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol, a’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol. Mae gan yr Hwb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol ddau gylch gwaith cyffredinol o (1) Cefnogi ein partneriaid i gyflawni cynlluniau cenedlaethol ar gyfer trawsnewid gofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru, a (2) datblygu dull cydgysylltiedig o atal mewn gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn swyddogaeth gymorth genedlaethol sy’n darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol. Mae’r sefydliad yn dwyn ynghyd nifer o unedau a oedd gynt yn annibynnol, gan gynnwys Gwelliant Cymru.
Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael eu sefydlu fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru i wella llesiant y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu yn eu rhanbarth. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn gwasanaethu’r un ardal â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael eu sefydlu fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru i wella llesiant y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu yn eu rhanbarth. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg yn gwasanaethu’r un ardal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael eu sefydlu fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru i wella llesiant y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu yn eu rhanbarth. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gwasanaethu’r un ardal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.