Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys drwy gynnal cynlluniau ariannu ac ymgysylltu ag asiantaethau cyllido ar lefel y DU.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Arloesedd Anadlol Cymru

Mae Arloesedd Anadlol Cymru yn gwmni nid-er-elw sydd wedi’i ddylunio i arloesi ym maes iechyd a lles yr ysgyfaint yng Nghymru. Cafodd y cwmni ei ariannu’n wreiddiol gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n darparu gwasanaethau fel ymgynghori i sefydliadau sy’n chwilio am arbenigedd wrth iddynt ddatblygu neu wella cynhyrchion a thriniaethau anadlol, yn ogystal â dylunwyr adeiladau i sicrhau bod ansawdd aer yn cael ei optimeiddio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR)

Mae'r NCPHWR yn ganolfan a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n gartref i ymchwilwyr, ystadegwyr a dadansoddwyr data o brifysgolion Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall, gwerthuso a llywio gwelliannau iechyd y boblogaeth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: