Teamworks Design & Communications
Mae Teamworks yn darparu gwasanaethau dylunio, marchnata a chyfathrebu i gwmnïau gwyddoniaeth a thechnoleg, gan gynnwys cleientiaid biotechnoleg a thechnoleg feddygol.
Mae Teamworks yn darparu gwasanaethau dylunio, marchnata a chyfathrebu i gwmnïau gwyddoniaeth a thechnoleg, gan gynnwys cleientiaid biotechnoleg a thechnoleg feddygol.
Mae Grove Nanomaterials yn gwmni deillio o labordy Nanoddeunyddiau Prifysgol Abertawe. Mae'r cwmni wedi caffael 3 phatent o'r brifysgol, ac mae'n bwriadu cyflenwi ei dechnoleg gweithgynhyrchu a nanoronynnau i gwsmeriaid diwydiannol, gan gynnwys cwmnïau ym meysydd gwyddoniaeth ffisegol, cemegol, biolegol a pheirianneg. Mae meysydd cymhwyso posibl yn cynnwys mewn catalyddion, synwyryddion, theranosteg a deunyddiau newydd.
Mae Clarity Compliance Solutions yn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth reoleiddiol sy’n cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys archwiliadau, archwiliadau ffug, hyfforddiant a datblygu System Rheoli Ansawdd.
Mae Sue Rees Associates yn ymgynghoriaeth recriwtio gweithredol sy’n arbenigo yn y diwydiant gwyddorau bywyd.
Mae Collocco Consultancy yn ymgynghoriaeth Ansawdd, Cydymffurfiaeth a Rheoleiddiol yn y sector Dyfeisiau Meddygol a Gwyddorau Bywyd. Mae gwasanaethau’r cwmni’n cynnwys helpu i weithredu systemau rheoli ansawdd, darparu hyfforddiant cydymffurfio a helpu gyda ffeilio technegol.
Mae BioPhys yn ymgynghoriaeth sy’n helpu cwmnïau dyfeisiau meddygol i ddylunio, datblygu a masnacheiddio eu cynnyrch drwy ddarparu cyngor technegol, gwyddonol a masnachol.
Mae RedKnight yn gwmni ymgynghorol sy’n cynnig grantiau sy’n cynnig gwasanaethau fel ysgrifennu cynigion a rheoli hawliadau grant. Mae’r cwmni’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys ym maes gofal iechyd a gwyddorau bywyd.
Mae BGF yn gwmni buddsoddi annibynnol gydag 16 o swyddfeydd yn y DU, gan gynnwys swyddfa yng Nghaerdydd. Mae BGF yn buddsoddi mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys technoleg uwch, gofal iechyd a gwyddorau bywyd. Mae’r cwmni wedi buddsoddi dros £38m mewn busnesau yng Nghymru.
Mae Acuity Law yn gwmni cyfreithiol gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Abertawe. Mae’r cwmni’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gofal iechyd a thechnoleg feddygol, gydag arbenigedd mewn delio ag achosion o uno a chaffael, trefniadau ecwiti a chontractau masnachol.
Mae Wynne-Jones yn gwmni atwrnai patentau sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Dyfeisiau Meddygol, Technoleg Feddygol, Gwyddorau Bywyd a Chynhyrchion Fferyllol.