Canolfan Ymchwil Technoleg Iechyd Cedar

Mae Cedar (sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) yn canolbwyntio ar werthuso dyfeisiau meddygol a diagnosteg. Mae’n gweithio gyda’r GIG, sefydliadau academaidd, y sector masnachol, sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus, ac elusennau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn gorff Llywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth a chyngor i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnesau yng Nghymru. Mae Busnes Cymru hefyd yn cynnig mynediad at gyfleoedd ariannu Llywodraeth Cymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Mae ATiC (sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) yn ganolfan cefnogi ymchwil a busnes sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau cynorthwyol. Mae'r ganolfan yn cynnig mynediad at arbenigedd academaidd a chyfleusterau arloesol, gan gynnwys labordai UX a chyfleusterau prototeipio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ArloesiAber

Mae ArloesiAber (sy’n rhan o Brifysgol Aberystwyth) yn cynnig cyfleusterau ac arbenigedd i fusnesau yn y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth, a bwyd a diod. Yn benodol, mae gan ArloesiAber bum canolfan, yn ffocysu ar fioburo, bwydydd y dyfodol, dadansoddi uwch, bio-fancio hadau ac arloesi.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Y Ganolfan Ragoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET)

Mae CEMET (ym Mhrifysgol De Cymru) yn darparu mynediad at brosiectau ymchwil a datblygu 6-8 wythnos o hyd, wedi’u hariannu, i gwmnïau technoleg yng Nghymru sydd wedi’u lleoli yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Powys, Caerffili neu Fro Morgannwg, i ddatblygu cynnyrch neu wasanaethau mewn meysydd fel Dysgu Peirianyddol, Deallusrwydd Artiffisial, realiti rhithwir a Rhyngrwyd y Pethau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog

Mae'r Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn gyfleuster technoleg ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n cynnig mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau ymchwil gwyddorau bywyd, gan gynnwys dadansoddi cellog, profion mynegiant protein a dadansoddi genomig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sefydliad Calon y Ddraig

Mae Sefydliad Calon y Ddraig yn rhwydwaith o arloeswyr gofal iechyd sy’n cyfeirio sefydliadau at staff yn y sector iechyd a gofal yng Nghymru, yn helpu i gydgynhyrchu datrysiadau ac yn darparu cyfleoedd dysgu.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: